Cyfres yw Cipolygon Clwstwr o sesiynau rhannu misol ar-lein lle bydd aelodau o garfan Clwstwr yn rhannu dealltwriaeth a gwersi y maent wedi'u casglu o'u prosiectau Ymchwil a Datblygu ar y sgrîn hyd yn hyn.

Roedd y cyntaf yn y gyfres o Gipolygon Clwstwr yn edrych ar brosiect Clwstwr Shirish Kulkarni, Adrodd y newyddion drwy newyddiaduraeth fodiwlaidd a gallwch ddod i wybod mwy am y sesiwn hynny yma.  

Bydd y sesiwn Cipolygon Clwstwr nesaf yn rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru ac yn ffocysu ar brosiect Clwstwr AMPLYFI, Deallusrwydd artiffisial yn yr ystafell newyddion. 

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru yn ddigwyddiad gan Technology Connected sy'n digwydd rhwng 13 a 17 Gorffennaf. Mae'r ŵyl rithwir unigryw hon yn cynnwys gweminarau, gweithdai a digwyddiadau digidol sy'n dangos amrywiaeth a chryfder diwydiannau technolegol Cymru.

Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion - Rony Seamons, AMPLYFI
16 Gorffennaf 2020
11am

 
Yn rhan o'r prosiect, mae AMPLYFI wedi bod yn ymchwilio sut gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i ddod o hyd i, dilysu a chyflwyno cynnwys addas i'r newyddion i newyddiadurwyr. 
 
Nod Cam 1 y prosiect oedd deall yn iawn rhai o brif heriau'r diwydiant - pa heriau mae newyddiadurwyr yn eu hwynebu yn eu swyddi bob dydd o ran ymchwilio data. Drwy ddeall yn iawn y problemau y mae newyddiadurwyr yn eu hwynebu, byddem mewn sefyllfa well i weld pa dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer Cam 2 y prosiect.
 

Yn y gweminar byddwn yn trafod:

  • Sut y defnyddiom ddull 'Diwrnod ym mywyd...'
  • Deall y dirwedd dechnoleg bresennol yn y cyfryngau
  • Tueddiadau dynol a pheiriannau
  • Newyddiaduraeth newydd sbon o’i chymharu â newyddiaduraeth ymchwiliol - allwn ni wasanaethau'r ddau?
  • Pa fath o dechnoleg yn seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial ydyn ni am ei defnyddio yng Ngham 2

Cynhelir y sesiwn hon ar-lein ar Zoom.
 
Archebwch yma: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_1FOFmal-TJGG7eezcYpHXA
 
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, ebostiwch: clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk