Bu’r gweithdy Technolegau Trochol mewn Academia a Diwydiant (ITAI) yn dod ag enghreifftiau arloesol o dechnoleg drochol ynghyd o’r byd academaidd a diwydiant am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.  

Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Ymchwilydd Cysylltiol yr Ysgol Seicoleg, Dr Danlu Cen, a’r myfyriwr PhD Hellen Jing Yuan, gydag Asha Easton o Immerse UK, yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau chwim ar dechnolegau trochol gan nifer o academyddion ac arbenigwyr diwydiannol.  

 

 

Mae nifer o’n prosiectau Ymchwil a Datblygu a ariennir gan Clwstwr yn gweithio ym maes technoleg drochol gydag un o'n prosiectau, Rescape VR, yn siarad am eu gwaith yn arloesi'r sector iechyd trwy ddefnyddio realiti rhithwir. Gallwch ddarllen am eu prosiect Clwstwr yma. 

Mae gan ein Cynhyrchwyr ddiddordeb ym mhosibiliadau arloesi technoleg drochol.  Yma, maen nhw’n rhannu rhai meddyliau o’r diwrnod: 

Sally Griffith: "Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y lefel aruthrol o weithgaredd trochol sy’n digwydd ar draws y sector creadigol ac academia.  Er gwaethaf rhwystrau a heriau, yr oeddem ni i gyd yn eu cydnabod, mae pobl wedi cael hyd i ffyrdd o gydweithio’n dda er budd i’w gilydd, ac yn pen draw i gynulleidfaoedd. 

Roedd yr ystafell yn llawn pobl chwilfrydig oedd ag awydd gwneud pethau da.  Roedd pawb ohonom am ddysgu mwy ac roeddem ni’n barod i gael i’n tywys i holl gyfeiriadau amrywiol y gwahanol siaradwyr.

Roedd y cyfle i rwydweithio a chwarae gydag offer a meddalwedd yn amhrisiadwy, ac yn annog llawer mwy o sgyrsiau wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen."

Greg Mothersdale: "Roedd amrywiol drafodaethau ar y diwrnod yn cydnabod cymhlethdodau cydweithio rhwng academia a diwydiant.  Yn achos Clwstwr, mae’r sector sgrîn creadigol yn symud yn gyflym iawn, gyda gweithlu mawr ar eu liwt eu hunain, a llawer o fusnesau micro a BaCh sydd o bosib heb yr adnoddau i ymrwymo i raglenni arloesedd ar raddfa fawr.  Felly mae astudiaethau achos o drefniadau cydweithio llwyddiannus yn ddefnyddiol iawn i ni wybod amdanynt a’u rhannu - megis Dr Danlu Cen, ymchwilydd sy’n gweithio ar dechnolegau Realiti Rhithwir gyda Vicom - roedd yn fyr, â ffocws pendant, ac yn uchel ei barch."

Mae Danlu yn trafod ei lleoliad gydag Vicom yn ogystal â gwaith ymchwil arall gyda diwydiant yma.

Gavin Johnson: "Roedd defnydd Tom Freeman o acwsteg drochol ac arddangosiadau ar y pen ym maes gwrando ac edrych gweithredol yn ddiddorol dros ben.  Weithiau sain yw’r peth olaf mae pobl yn meddwl amdano wrth gynhyrchu cynnwys trochol, ond fe ddangosodd ef fod sain yn rhan hollbwysig o brofiad, ac yn creu profiadau cwbl unigryw o’i gyfuno â delweddau."

Gallwch chi ddysgu mwy am yr Athro Tom Freeman, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, a’i waith ymchwil yma.

Adam Partridge: "Roedd yn wych clywed James Simpson yn siarad am sut mae rhag-ddelweddu realiti cymysg yn cael ei ddefnyddio wrth ddylunio cynyrchiadau gyda’r RSC a’r Ty Opera Brenhinol.  

"Mae bob amser yn ddiddorol gweld technolegau trochol yn cael eu cymhwyso mewn ffyrdd newydd."

Gallwch ddysgu am James Simpson, sy’n ddelweddwr goleuo, yma. 

Adam Partridge: "Roedd yn wych clywed James Simpson yn siarad am sut mae rhag-ddelweddu realiti cymysg yn cael ei ddefnyddio wrth ddylunio cynyrchiadau gyda’r RSC a’r Ty Opera Brenhinol.  

"Mae bob amser yn ddiddorol gweld technolegau trochol yn cael eu cymhwyso mewn ffyrdd newydd."

Gallwch ddysgu am James Simpson, sy’n ddelweddwr goleuo, yma. 

Dywedodd Dr Danlu Cen, Ymchwilydd Cysylltiol ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn rhannol gyfrifol am drefnu’r diwrnod:  

Cawson ni raglen amrywiol, oedd yn cynnwys 18 o sgyrsiau ac 8 arddangosiad gan academia a diwydiant.  Daeth cyfanswm o 65 o bobl o wahanol gefndiroedd a sefydliadau i’r digwyddiad.  Yn ystod yr egwyliau a’r derbyniad gwin, fe welais i lawer o sgyrsiau ystyrlon yn digwydd.  Rwy’n gobeithio bydd y cysylltiadau a wnaed yn y gweithdy yn arwain at gydweithio ffrwythlon yn y dyfodol. 

Rhoddodd ITAI gyfle i’r rhai sydd â diddordeb mewn realiti rhithwir, realiti ehangedig a realiti cymysg gyfathrebu ynghylch eu prosiectau a chychwyn trefniadau cydweithio newydd posibl.  Cynhaliwyd y gweithdy undydd yng Nghyfleuster Ymchwil Feddygol Hadyn Ellis ac ymhlith y partneriaid roedd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Innovate UK, Immerse UK, Caerdydd Creadigol, yr Ysgol Seicoleg a Phrifysgol Caerdydd. 

I ddysgu mwy am ITAI neu i chwarae rhan, ewch i’r wefan.