Polisi Preifatrwydd

Prosiect yn rhan o’r Uned Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd oedd Clwstwr. Cafodd ei gynnal rhwng 2018 hyd at 2023 er mwyn ysgogi’r sector sgrîn i symud o safle o gryfder i un o arweinyddiaeth. Mae'r wefan hon wedi'i harchifo ers 2 Chwefror 2024 ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach. Nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo cynnwys unrhyw ddolenni allanol sydd ar y wefan hon.

Y Rheolwr Data
Prifysgol Caerdydd yw’r rheolydd Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data
Mae gan Brifysgol Caerdydd Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu ag ef drwy ebostio InfoRequest@caerdydd.ac.uk

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu amdanoch?
Rydym ni'n casglu eich enw a'ch cyfeiriad ebost pan fyddwch chi'n tanysgrifio i'n egylchlythyr a/neu ddigwyddiad y Clwstwr Creadigol. Pan fyddwch chi'n ymgeisio i gymryd rhan yng ngalwadau cyllido’r Clwstwr Creadigol, byddwn yn casglu'r data rydych chi'n ei ddarparu yn eich ffurflenni Mynegi Diddordeb a Chais Llawn ar gyfer ein cofnodion, gan adrodd i Lywodraeth y DU ac ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ar-lein.

Caiff eich data personol ei gadw ar system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM). Ein darparwr system CRM presennol yw Hubspot.  Gallwch ddarllen eu Hysbysiad Preifatrwydd yn: https://legal.hubspot.com/product-privacy-policy.

Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Caiff eich manylion cyswllt eu defnyddio i e-bostio egylchlythyr rheolaidd yn hyrwyddo digwyddiadau a galwadau cyllido’r Clwstwr Creadigol. Bydd gwybodaeth drwy'r mynegiant diddordeb a'r ffurflenni ymgeisio yn cael eu defnyddio er mwyn hysbysu'n penderfyniadau cyllido a mesur ac adrodd ar y rhaglen Clwstwr. 

 

Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Mae'r gwrthrych data wedi rhoi cydsyniad i’r prosesu drwy gofrestru ar gyfer egylchlythyr y Clwstwr Creadigol (a osodir ar Mailchimp) a/neu ddigwyddiad y Clwstwr Creadigol (ar Eventbrite). Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl benodol i unigolion dynnu cydsyniad yn ôl ac mae gennych yr hawl i wneud hynny ar unrhyw adeg drwy ddad-danysgrifio o'r egylchlythyr neu gysylltu â ni ynghylch eich data.

Gan mai partneriaeth Ymchwil a Datblygu rhwng addysg uwch a’r diwydiannau creadigol yw Clwstwr, caiff unrhyw ddata personol a gyflwynir ar ffurflenni Mynegi Diddordeb a ffurflenni cais ei brosesu yn rhan o brosiect ymchwil er lles y cyhoedd. Gall hefyd gael ei brosesu er mwyn dechrau cytundeb gyda chwmnïau sy’n gwneud cais am arian o’r prosiect.

Pwy sy’n cael eich gwybodaeth?
- Clwstwr Creadigol
- Prifysgol Caerdydd

- UKRI 
- AHRC 
- Llywodraeth Cymru 

Mae gan UKRI ymrwymiad statudol i drefnu astudiaethau'r rhaglenni y maen nhw'n darparu cymorth ariannol ar eu cyfer. Yn ei dro, fel derbynwyr y cymorth hwnnw, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar y sefydliadau sy'n cynnal yr astudiaethau e.e. gwerthuso'r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol. O dan GDPR, mae'n ofynnol i ni roi gwybodaeth i chi am sut rydym yn defnyddio'r data personol yr ydych yn ei rannu gyda ni yn ystod y rhaglen, a diweddaru'r wybodaeth os bydd unrhyw ddefnyddiau eraill yn angenrheidiol. 

Dylech fod eisoes wedi derbyn gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data. Sylwch, yn ogystal â'r defnyddiau yr ydych eisoes yn gwybod amdanynt, byddwn yn rhannu eich enw, enw'ch cyflogwr, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost, rhif ffôn a'ch Tŷ'r Cwmnïau rhif cyfeirnod gyda: Frontier Economics a BOP Consulting (y sefydliadau sy'n arwain gwerthusiad y CICP ar ran AHRC/UKRI) a Strategic Research & Insight (SRI) (y sefydliad sy'n cynnal elfen arolwg yr astudiaeth). Byddwn hefyd yn rhannu un ai eich enw (os chi yw'r unig fasnachwr) neu enw eich cyflogwr / cwmni, yn ogystal â gwefan eich busnes gyda Curator (y sefydliad sy'n cynnal elfen dadansoddi data astudiaeth achos clwstwr yr astudiaeth). Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu er mwyn 'gwella economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd' y rhaglen.

Mae gwefan y Clwstwr Creadigol yn defnyddio briwsion.

Beth yw briwsion?
Mae briwsionyn yn ffeil testun bach sy’n cynnwys gwybodaeth a allai gael ei symud rhwng eich porwr (e.e. Internet Explorer, Chrome, Firefox, neu Safari) a chyfrifiadur sy’n rhedeg gwefan (fel arfer y safle wnaeth osod y briwsionyn). Nid yw’n cynnwys unrhyw god ac ni all wneud unrhyw beth. Mae'r rhan fwyaf o wefannau yn eu gosod ac ni allant weithio’n iawn hebddynt. Fel arfer, maent yn cynnwys dynodydd yn unig fel bod y gweinydd yn gwybod ei fod wedi gweld yr ymwelydd hwnnw o’r blaen. 

Pa friwsion ydym ni'n eu defnyddio ar safle’r Clwstwr Creadigol?

Briwsion a osodir gan y Clwstwr Creadigol

HAS_JS     | Hyd y sesiwn. Yn caniatáu i'r gweinydd wybod os all ddibynnu ar javascript. Wedi’i osod ar “1”; os oes gan y defnyddiwr javascript wedi’i alluogi gan ba bynnag dudalen y mae ymwelydd wedi glanio arni

Briwsion wedi’u gosod gan Google Analytics

 _GA | _GAT | _GID | Pob un o'r uchod: Hyd amrywiol: cymysgedd o friwsion sesiwn a “pharhaol”; sy’n para 30 munud, 6 mis, neu 1-2 flynedd. Olrhain defnydd o’r wefan yn ddienw.  Mae’r briwsion hyn wedi’u gosod neu eu diweddaru ar unrhyw dudalen yr ymwelir â hi. Cewch y manylion llawn yma. Mae llawer o friwsion wedi’u gosod ond yr un yw diben pob un ohonynt: i weld sut cyrhaeddodd pobl y safle a’i defnyddio, gan gynnwys termau chwilio a ddefnyddiwyd a safleoedd cyfeirio.

 

Am ba hyd y caiff eich gwybodaeth ei chadw?
Bydd y Clwstwr Creadigol yn cadw ac yn storio data personol yn ddiogel am gylch oes y prosiect.

Beth yw eich hawliau?
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, cywiro unrhyw wallau, trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ac, mewn rhai achosion, gwrthwynebu cael eich gwybodaeth bersonol wedi’i phrosesu. Ewch i dudalennau Gwybodaeth Diogelu Data Prifysgol ar y we i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.

Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau mewn ysgrifen i Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:-

Y Swyddog Diogelu Data
Gwasanaethau Sicrwydd
Adran Cynllunio Strategol a Llywodraethu
Prifysgol Caerdydd
Friary House
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AE

Ebost: Inforequest@caerdydd.ac.uk 

Ffôn: 02920 875466

Diogelwch eich gwybodaeth
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data sy’n cael drosglwyddo i’n safle; caiff unrhyw drosglwyddiad ei wneud ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i atal mynediad heb awdurdod.

Sut i wneud cwyn
Os ydych yn anhapus â'r ffordd y mae eich data personol wedi'i brosesu, cysylltwch â’r Ganolfan i’r Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd (creativeeconomy@caerdydd.ac.uk)
Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais am benderfyniad drwy gysylltu a'r Swyddodd Diogelu Data y Brifysgol drwy ddefnyddio'r wybodaeth uchod neu gallwch anfon neges uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth:-

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

http://www.ico.org.uk