Nod y Prosiect

Monnow Media

Bydd Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd yn ymchwilio i dechnegau newydd a dychmygus o adrodd storïau, yn eu creu ac yn eu profi. Y nod fydd defnyddio technoleg arloesol i reoli cynnwys, er mwyn creu storïau sy'n dychmygu o'r newydd sut gellir cyflwyno'r newyddion i wahanol gynulleidfaoedd. Bydd Shirish Kulkarni'n gweithio gyda BBC News Labs ac academyddion, ac yn defnyddio datblygiadau ym maes newyddiaduraeth "fodiwlaidd" i archwilio sut gellir adrodd storïau yn y modd mwyaf effeithiol, eu creu yn y modd mwyaf effeithlon a'u deall mewn modd mwy cynhwysfawr.

Bydd y prosiect yn dwyn dau edefyn ynghyd: dadansoddi sut gallwn adrodd storïau'n well drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth, natur gofiadwy, ymateb emosiynol, y gallu i’w rhannu a galluedd defnyddwyr, cyn gweithio ar ddatblygu technegau newyddiaduraeth fodiwlaidd i ddeall y ffordd orau o gynhyrchu cynnwys ar gyfer y newyddion yn unol â modiwlau newydd ar gyfer adrodd storïau.

Gwyliwch Shirish Kulkarni yn rhannu ei ganfyddiadau cychwynnol ynghylch ymchwil a datblygu gyda'i Gynhyrchydd Clwstwr, Sally Griffith:

Dewch i wybod mwy am ysfa Shirish Kulkarni o Monnow Media i ddatblygu'r ffordd rydym yn Adrodd Straeon drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd. 

Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma.