Nod y Prosiect

Rescape logo

 

Ers dros 15 mlynedd, gwelwyd bod realiti rhithwir (VR) yn helpu gyda phoen a gorbryder ac yn creu ffyrdd newydd o ddysgu. Mae datblygiadau diweddar mewn technoleg wedi gwneud y dulliau hyn yn fforddiadwy. Bydd defnyddio VR i drawsnewid y profiad esgor yn adeiladu ar waith Rescape Innovation gyda bydwragedd, ac yn eu caniatáu i fynd â'r dysgu hwn i greu a phrofi therapïau a chynnwys addysgol penodol i helpu darpar famau. Bydd y ffocws ar y cyfnod esgor, er bydd y cyfnodau cynenedigol ac ôl-enedigol hefyd yn cael sylw.