Nod y Prosiect

Tara King yw Cyfarwyddwr y cwmni ymgynghorol KingShipp Sustainable Solutions. Nod ei phrosiect yw adeiladu modelau busnes cynaliadwy yn y sector creadigol, gyda ffocws penodol ar ddylunio ac addasu technoleg i leihau effaith amgylcheddol a charbon setiau darlledu ar leoliad a gwyliau.

Bydd yn cydweithio gyda Gŵyl Steelhouse i brofi dulliau creadigol a thechnegol o gyflwyno digwyddiadau cerddoriaeth/sgrin carbon isel mewn lleoliadau awyr agored, gyda golwg ar ddatblygu cymwysiadau ehangach.

Tara King