Mae Shirish Kulkarni yn gyn-newyddiadurwr newyddion i'r BBC, ITN a Sky News ac ar hyn o bryd mae'n rhedeg cwmni cynhyrchu cyfryngau Monnow Media Ltd. Mae ei brosiect Clwstwr, Adrodd y Newyddion drwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd, yn defnyddio datblygiadau ym maes newyddiaduraeth "fodiwlaidd" i archwilio sut gellir adrodd storïau yn y modd mwyaf effeithiol, eu creu yn y modd mwyaf effeithlon a'u deall mewn modd mwy cynhwysfawr. Yma, mae'n siarad am gychwyn ar ei siwrne ymchwil a datblygu a dod i'r afael â myfyrio fel ymchwilydd: 

Yn yr 20+ o flynyddoedd rwyf wedi bod yn newyddiadurwr ar y teledu, y rhwystredigaeth fwyaf imi oedd natur ddiflas, fformiwläig yr hyn rydym yn ei wneud. Mae ein diwydiant yn cael ei lesteirio gan hen gredoau’r gorffennol, meddylfryd grŵp cyfyngedig a diffyg blinderus o amrywiaeth a didwylledd.

Fodd bynnag, wrth weithio yn y newyddion ar y teledu, dydych chi byth yn cael cyfle i stopio, meddwl a myfyriwr. Mewn gwirionedd, yn aml iawn edrychir ar hynny fel rhywbeth hunanol, diog a dibwrpas.

Mae arnon ni angen bod yn gallu dweud ein storïau mewn ffyrdd gwahanol – rhai sy’n helpu darllenwyr, gwrandawyr a gwylwyr i ddeall y byd yn well a’r ffordd y mae’n newid – ac mae angen inni ddod o hyd i ffordd i wneud hynny. Dyna pam rwy wedi fy nghyffroi cymaint fy mod wedi ennill cyllid Clwstwr i wneud ymchwil i Ddweud Storïau ar y Newyddion – i gymryd yr amser i edrych yn fwy dwfn ar sut y gallwn ni wneud pethau’n wahanol, a chynhyrchu newyddion sydd wir yn cysylltu ac yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd.

Mae newid o "modd Newyddiadurwr Newyddion" i "modd Ymchwilydd" wedi bod yn broses hynod ddiddorol, ac weithiau'n anesmwythol, ond yn y pen draw yn gyffrous. Mae'n teimlo'n rhyfedd i gael terfynau amser sydd wythnosau neu fisoedd i ffwrdd, yn hytrach na munudau. Mae angen i mi hefyd f’atgoffa fy hun bod cymryd yr amser i feddwl, yn hytrach na "gwneud" hefyd yn bwysig.

Er enghraifft, rydw i wedi bod yn darllen yr wythnos hon am Feddwl Dylunio - proses ar gyfer datrys problemau creadigol sydd, yn hollbwysig, yn canolbwyntio ar empatheiddio ag anghenion y bobl rydych chi'n creu ar eu cyfer. Mae gormod o'n newyddiaduraeth bresennol ar y teledu a’r byd ar-lein yn canolbwyntio ar anghenion cul newyddiadurwyr a'u cyfoedion, gydag ychydig iawn o ystyriaeth yn cael ei rhoi i helpu gwylwyr a darllenwyr i ddeall y byd rydym yn byw ynddo.

Rydw i hefyd wedi dechrau sylweddoli y gall R&D fod yn broses wleidyddol. Cefais fy swyno gan yr erthygl hon gan Dr Rasmus Kleis Nielsen, Cyfarwyddwr Sefydliad Reuters ar gyfer astudio Newyddiaduraeth. Ynddo, mae' n edrych ar ‘y rhai ar y blaen a’r rhai yn y cefn’ yn y diwydiant newyddiaduraeth - y tensiwn rhwng y rhai sydd am arloesi a' r rhai sy'n hapus i barhau â‘r busnes fel arfer. Mae'n nodi, er gwaethaf yr heriau amlwg sy'n wynebu'r diwydiant, bod y sawl sydd yn y cefn yn garfan hynod o eang, pwerus a dylanwadol. 

Ond wrth gwrs ei fod ef.

Fel y noda Rasmus Kleis Neilsen: 

"Mae’r rhai ar flaen y gad yn llawn o fenywod ac yn fwy amrywiol. Mae’r garfan yn y cefn yn llawn dynion gwyn fel fi. " 

Ond wrth gwrs ei fod ef.

Os yw'r system yn eich eithrio chi, yn methu ag adlewyrchu eich profiad neu fodloni eich gofynion o ran cydraddoldeb, yna wrth gwrs mae angen i chi adeiladu rhywbeth newydd a fydd yn diwallu'r anghenion hynny. Ar y llaw arall, os yw'r system bresennol yn rhoi breintiau i chi, yn cynnal eich pŵer ac yn sicrhau mai chi sy’n cael diffinio'r naratifau cyffredinol, yna wrth gwrs byddech yn ymladd gyda’ch holl nerth i ddiogelu'r status quo hwnnw.

Mae'r math o newid sydd ei angen arnom yn bwysig ac yn hanfodol, ond dim ond drwy stopio, meddwl a dod o hyd i rywbeth newydd a gwahanol y gellir ei gyflawni. Nid yw hynny’n foethusrwydd sy'n cael ei roi i'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr, ond rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael y cyfle hwnnw. Dydw i ddim yn bwriadu ei wastraffu.

Bydd Shirish yn blogio am ei waith ymchwil bob wythnos - gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf yn medium.com/@shirishmonnow neu ar Twitter: @ShirishMM