Mae Ffilm Cymru Wales yn cynnig cyfle unigryw i gefnogi unigolion proffesiynol a chwmnïau’r sector sgrin yng Nghymru i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Fel Rheolwr Materion Gwyrdd Ffilm Cymru, byddwch yn gyfrifol am:
- Cyflawni y rhaglen Cymru Werdd gyda Clwstwr, sy’n cynnwys cronfa arloesi gwerth tua £75,000 ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes cynnyrch a gwasanaethau gwyrdd, yn ogystal â digwyddiadau i ysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth.
- Datblygu adnoddau, polisi a phrosesau sy’n cefnogi sector gwyrddach.
- Meithrin perthnasoedd â sefydliadau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yng Nghymru a thu hwnt.
Math o gontract: Amser llawn, am un flwyddyn i gychwyn gyda’r posibilrwydd i ymestyn i gontract aml-flwyddyn. Bydd Ffilm Cymru Wales yn ystyried cynigion i rannu swydd.
Lleoliad: Cymru. Mae prif leoliad Ffilm Cymru Wales yng Nghaerdydd ond mae hyblygrwydd i weithio o bell.
Yn adrodd i: Pennaeth Cynhyrchu.
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl yn 2021.
Cyflog: £25,000- £30,000 (yn dibynnu ar brofiad), ynghyd â phensiwn a 28 diwrnod o wyliau yn ychwanegol at Wyliau Cyhoeddus.
Cynhwysiant: Mae Ffilm Cymru Wales yn ymrwymo i ehangu cynrychiolaeth a phrofiad go iawn o fewn eu sefydliad. Byddwn yn cynnig cyfweliad yn awtomatig i bob ymgeisydd sy’n cyrraedd ein meini prawf hanfodol ac sy’n ystyried eu bod o hil neu ethnigrwydd sydd wedi’i dangynrychioli neu yn fyddar, niwroamrywiol, neu’n byw ag anabledd.
Dyddiad cau: 5pm ar 17 Mawrth 2021