Drwy gydol 2021 a 2022, nod Clwstwr yw darparu nifer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu wedi'u targedu mewn cydweithrediad â'n Partneriaid Her.

Ffilm Cymru Wales sy'n arwain y bartneriaeth gyntaf yr ydyn ni wedi'i lansio ac mae'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. 

Gwnaeth Cronfa Her Cymru Werdd sicrhau bod £75,000 o gyllid ar gael i unigolion, sefydliadau a phrosiectau chydweithredol ar draws nifer o sectorau - gan gynnwys y cyfryngau, y byd academaidd, technoleg, cludiant, ynni, dŵr a rheoli gwastraff - i ymchwilio a datblygu ffyrdd cynaliadwy newydd o weithio ym myd ffilm a theledu.

Dewiswyd tri phrosiect amgylcheddol arloesol i'w datblygu gyda chefnogaeth gan Cronfa Her Cymru Werdd. Cewch ragor o wybodaeth am y prosiectau hyn yma.

Mae ail bartneriaeth Clwstwr wedi’i ffurfio gyda'r Swyddfa Newyddiaduraeth Ymchwiliol, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru (EYST) a Lankelly Chase er mwyn cyflwyno piblinell newydd i berchnogaeth y cyfryngau trwy'r Fenter Ystafell Newyddion y Bobl.

Mae Menter Ystafell Newyddion y Bobl yn brosiect i ddatblygu pŵer cymunedol trwy newyddiaduraeth. Mae Clwstwr yn gweithio gyda'r Swyddfa Newyddiaduraeth Ymchwiliol wrth iddynt adeiladu clymblaid o bobl a sefydliadau i gefnogi cymunedau i greu ystafelloedd newyddion cynaliadwy sy'n eu hadlewyrchu, yn eu gwasanaethu ac yn sbarduno newid cadarnhaol.

Bydd y bartneriaeth newydd hon, gyda'r Swyddfa, EYST a Lankelly Chase, yn ystyried piblinell newydd i berchnogaeth y cyfryngau –- cymorth ymarferol a chychwynnol i fusnesau i ddylunio mentrau newyddiaduraeth newydd arloesol a buddsoddi mewn arweinwyr ystafelloedd newyddion cymunedol sydd wedi'u hymyleiddio gan y cyfryngau yn y gorffennol. Bydd y tîm yn ymchwilio,yn dylunio a chreu prosiect newyddiaduraeth gymunedol newydd yn Abertawe a bydd y broses hon yn llywio datblygiad y fenter lawn wrth iddi gael ei chyflwyno ledled y DU yn 2022.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu ystafell newyddion i'ch cymuned? Ydych chi’n drefnydd lleol neu’n unigolyn brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gwella'ch ardal a chryfhau pŵer cymunedol? Ydych chi’n rhywun sydd eisoes yn gweithio ym maes newyddiaduraeth sydd eisiau rhannu gwybodaeth a chefnogi menter cyfryngau cymunedol gychwynnol? Ydych chi’n aelod o sefydliad sydd eisiau helpu neu rannu adnoddau?

 

Mae Clwstwr wedi partneru gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i edrych ar ffyrdd arloesol a chreadigol i ail-feddwl profiad yr amgueddfa.

Dyfarnwyd Cronfa Her Amgueddfa Cymru i Sugar Creative i ymchwilio a datblygu ffyrdd arloesol o brofi a rhyngweithio â chasgliadau'r amgueddfa ar raddfa leol a byd-eang.

Nod eu prosiect, Arall, yw galluogi defnyddwyr ac ymwelwyr i archwilio a dehongli straeon Cymru o ble bynnag y byddwch chi, yn ddigidol ac yn gorfforol. Bydd yn cyfuno cynnwys creadigol â realiti estynedig trochol arloesol i alluogi ymwelwyr i weld ac ymgysylltu ag amrywiol ddehongliadau ac ymatebion personol i wrthrychau yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Partneriaethau Her, cysylltwch â ni.