Rhaglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol (2018) oedd y buddsoddiad unigol mwyaf gan lywodraeth y DU yn y diwydiannau creadigol.

Fel rhan o Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, fe gyflwynwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar ran Ymchwil ac Arloesi'r DU.

Dyluniwyd y rhaglen ymchwil a datblygu hon na welwyd ei thebyg o'r blaen i gadw'r DU ar y blaen yn fyd-eang; gan greu swyddi, datblygu talent a sbarduno gwaith i greu cynhyrchion a phrofiadau y gellid eu marchnata'n fyd-eang a chyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd y DU, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.

CICP logo

Dangosodd y rhaglen £80 miliwn amrywiaeth ddaearyddol y sector, gyda chlystyrau ar draws pedair cenedl y DU, a'r potensial enfawr am dwf economaidd rhanbarthol.

Dyma fu'r buddsoddiad cyntaf o'i fath gan y llywodraeth yn niwydiannau creadigol bywiog y DU, sydd o bwysigrwydd byd-eang, a'r mwyaf sylweddol roedd yr AHRC wedi'i sicrhau yn ei hanes.