Un o gyd-ymchwilwyr Clwstwr, Yr Athro Richard Sambrook, o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd sy'n siarad am oblygiadau technoleg aflonyddgar newydd ar ddyfodol newyddion.
Mae dyfodiad unrhyw dechnoleg aflonyddgar newydd yn peri cyffro ac ofn. Cyffro oherwydd potensial yr hyn a allai ei gynnig; ofn oherwydd y gallai arwain at golli swyddi a cholli rheolaeth.
Mae hynny'n sicr yn wir am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) mewn newyddiaduraeth. Hyd yma, mae AI wedi'i defnyddio'n bennaf i ymgymryd â rolau symlaf, arferol yr ystafell newyddion sy'n hawdd eu templedu - canlyniadau chwaraeon, symudiadau stoc, unrhyw beth sy'n seiliedig ar ddata ac nad yw'n ddadleuol.
Ond fel mae adroddiad newydd o'r London School of Economics (LSE) yn ei ddangos, mae gan AI potensial i drawsnewid ystafelloedd newyddion, profiad y defnyddiwr ac economeg newyddiaduraeth.
Lluniwyd yr adroddiad gyda chefnogaeth Cronfa Arloesi Newyddion Digidol Google, a dywed bod AI eisoes yn rhan sylweddol o lawer o ystafelloedd newyddion, ond bod cyfrifoldebau golygyddol a moesegol yn dod yn sgil hynny, sy’n dal wrthi’n cael eu sefydlu.
Mae'n amlygu sawl maes lle caiff AI ei defnyddio ar hyn o bryd:
- RADAR yng ngwasanaethau newyddion Press Association y DU
- Bloomberg ar gyfer adroddiadau marchnad
- The Guardian i awtomeiddio rhywfaint o ohebu gyda dysgu peiriannol
- Y BBC ar gyfer actifadu llais a gwasanaethau ar seinyddion clyfar
- Reuters chwilio am straeon mewn setiau data mawr
- The Associated Press bwriad i ddefnyddio AI drwy'r holl gadwyn cynhyrchu gwerth
- The Washington Post mewn sylw i etholiadau
Ceir digonedd o enghreifftiau eraill. Mae adroddiad yr LSE (fideo) yn nodi tri chymhelliad i sefydliadau ddefnyddio AI - effeithlonrwydd golygyddol, perthnasedd, effeithlonrwydd masnachol - a thri maes lle caiff ei defnyddio: Casglu Newyddion, Cynhyrchu Newyddion a Dosbarthu Newyddion, y tri maes craidd yn y gadwyn gwerth newyddion.
Ond gall buddsoddi fod yn ddrud - ac mae cyrff llai yn ei chael yn anodd cadw gyda'r llif. Ac mae'n amlwg bod hyfforddiant, addysg a llythrennedd y cyfryngau ynghylch AI yn amrywio'n eang. Mae'r adroddiad, sydd ag ôl ymchwil da, yn egluro'n glir y potensial sydd gan AI i ailffurfio newyddiaduraeth – sy’n weithgaredd y disgrifir fel un sydd "mewn argyfwng" yr un mor aml ag "yn hanfodol i ddemocratiaeth weithredol". Ond mae’r rhan fwyaf o ystafelloedd newyddion yn dal i fod heb strategaeth ar gyfer datblygu a mabwysiadu AI.
Yr her, wrth gwrs, yw a fydd yn cyflawni'r potensial hwn. Nid oes record da gan dechnolegau newydd sy’n ymuno â chynhyrchu newyddion yn hyn o beth.
Pan ymddangosodd camerâu ysgafn yn y 1990au gan dorri cost casglu newyddion yn sylweddol fe'u croesawyd fel ffordd i ehangu gohebu newyddion, a chynhyrchu newyddion mwy bywiog, cynhwysol. Mewn gwirionedd fe'u defnyddiwyd ar y cyfan i dorri costau'n unig. Buan y cloffodd sianeli newydd a lansiwyd i fanteisio ar newyddiaduraeth fideo ddinesig ysgafn a chyflym.
Pan gyrhaeddodd y cyfryngau cymdeithasol 15 mlynedd yn ôl, fe'u croesawyd fel ffordd i ddod yn agosach at gynulleidfaoedd a'r cyhoedd, hysbysu newyddiaduraeth yn well, ac ehangu'r amrywiaeth o ffynonellau. Byddai sinig o bosibl yn addef eu bod wedi troi'n farchnata cymdeithasol i raddau helaeth.
Felly bydd her ddeublyg gan AI.
Yn gyntaf, buddsoddi a hyfforddi i gynyddu potensial, gan symud y tu hwnt i ddata wedi'i awtomeiddio i ymchwil dwfn, gwasanaethau newydd, addasu gwell.
Yn ail, sicrhau bod y buddiannau hyn yn cael eu dilyn i'r pen, ac nad yw effeithlonrwydd busnes yn cael ei flaenoriaethu dros y cyfleoedd golygyddol a pherthnasol.
Ac mae'n annhebygol y bydd robotiaid yn dwyn holl waith y newyddiadurwyr. Ond bydd eu rôl yn newid a gallai hynny godi her arall. Gyda'r angen am fodau dynol i gynllunio, hyfforddi, diweddaru dilysu, goruchwylio neu reoli systemau, mae'n bwysig nad ydynt yn troi'n ddim mwy nag un elfen ddibwys yn y drefn.