Mae aelod o Fwrdd Llywio Clwstwr a Phrif Weithredwr Sefydliad Alacrity, Dr Wil Williams, yn trafod y grefft o newid cyfeiriad yn ystod y cyfnod annisgwyl hwn.
Wrth i mi eistedd gartref yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl cyhoeddi’r cyfyngiadau symud, byddai’n deg dweud nad oeddwn i’n disgwyl hyn. Yn ystod y cyfnod amwys hwn, mae’n amlwg bod yr holl sectorau busnes wedi’u heffeithio’n ddifrifol, gyda sectorau penodol o’n heconomi a’n cymdeithas yn mynd drwy newidiadau sylfaenol.
Gellid dadlau bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur ar y sector creadigol a bydd yn parhau i wneud hyn. I nifer o’r rhai hynny sydd wedi cymryd y camau cyntaf i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ym meysydd sgrîn neu newyddion, ni allai hyn fod wedi dod ar amser gwaeth.
Pan fydd y feirws dan reolaeth a byddwch yn dychwelyd i ‘normalrwydd,’ bydd nifer o’r hen ffyrdd o weithio a’r ffordd rydym yn gwneud pethau wedi newid am byth.
Mae’r sector creadigol, yn enwedig ym meysydd sgrîn a newyddion, wrth natur yn ddyfeisgar ac yn arloesol. Dengys hyn drwy amrywiaeth y gwaith ymchwil, datblygiadau a phrosiectau masnacheiddio sydd wedi’u hariannu gan Clwstwr.
Ond efallai nad yw’r sectorau, o bosibl, yn y gorffennol, wedi canolbwyntio digon ar fasnacheiddio eu cynhyrchion, eu gwybodaeth a’u sgiliau.
Mae’n anodd rhagweld canlyniadau’r argyfwng hwn, a thywyll yw'r rhagolwg ar hyn o bryd, ond mae cyfleoedd yn codi a bydd rhai’n codi yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau fod yn graff.
Oherwydd diwylliannau a strwythurau amrywiol llawer o’r sectorau newyddion creadigol a sgrîn, rydych mewn sefyllfa well i chwilio am gyfleoedd a manteisio arnynt. Fodd bynnag, i wneud hyn, bydd angen i chi groesawu newidiadau a marchnadoedd newydd.
Yn y diwydiant technoleg, mae gennym derm am newid cyfeiriad cynnyrch neu fusnes, sef pifodi neu ‘pivoting’. Mae rhai academyddion yn ei alw’n arloesedd pensaernïol. Yn y bôn, addasu diben technoleg yw ystyr hyn, gan gymryd platfform technolegol a ddatblygwyd at un diben neu sector a defnyddio’r dechnoleg honno at ddiben arall.
Mewn busnesau technoleg newydd, yn Sefydliad Alacrity, mae hyn yn arferol. Mae'r hyn a elwir yn egwyddorion ystwyth yn sail i'n dull o weithredu a rhai llawer o fusnesau technoleg. Mae arbrofi yn sail i ddulliau ystwyth. Rydych yn dadansoddi, yn diffinio, yn dylunio, yn adeiladu, yn profi (gyda chwsmeriaid go iawn); rydych yn dadansoddi, yn diffinio, yn dylunio, yn adeiladu, yn profi (gyda chwsmeriaid go iawn) ac yna’n cyflwyno ond yn parhau i arbrofi. Mae’r blog hwn a gyhoeddwyd gan Fanc y Byd yn ddarn da iawn sy’n trafod pŵer arbrofion.
O ganlyniad, gallai'r hyn yr ydych chi'n ei gyflwyno i'r farchnad fod yn wahanol iawn i'r hyn y gwnaethoch chi ddechrau ei gynhyrchu. Rhaid i sylfaenydd neu dîm sy'n gweithio yn yr amgylchedd hwn fod yn wydn ac yn hyblyg. Mae’n rhaid i chi ddysgu i fethu’n gyflym.
Mae arbrofion ar sawl ffurf wahanol a thrwy gymryd cyngor gan flog arall yn y gyfres hon: awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich taith ymchwil a datblygu gan Robin Moore a Gareth Jones, ‘dewch o hyd i ffyrdd o gael adborth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth a chleientiaid posibl yn gyson a newid wrth i chi fynd.’ Bydd sawl damwain ar hyd y ffordd, ond mae pob un ohonom wedi bod yn y sefyllfa honno. Peidiwch â setlo ar y syniad cyntaf.
Peidiwch â syrthio mewn cariad â'r syniad, ymrwymwch i'r cwestiynau – ‘a yw hyn yn rhywbeth dymunol neu ofynnol?’
Bydd nifer ohonoch sy’n gweithio yn y sectorau newyddion a sgrîn yn gorfod newid cyfeiriad o ganlyniad i COVID-19. Ond felly y bydd bron pawb sy'n gweithio mewn sectorau eraill o'r economi yn gorfod ei wneud hefyd.
Bydd effaith COVID-19 yn trawsffurfio sectorau penodol megis addysg, teithio, darpariaeth iechyd, adwerthu...mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Mae’r sgiliau, y profiadau a’r pethau newydd sy’n dod drwy brosiectau Clwstwr yn y sectorau newyddion a sgrîn mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, ond efallai ddim yn y marchnadoedd traddodiadol a’r rhaglenni y mae’r sectorau hyn wedi gweithredu ynddynt.
Yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod COVID-19 wedi ehangu effaith y pedwerydd chwyldro diwydiannol rydym yn ei chanol ar hyn o bryd, ond dim ond yn awr rydym yn sylweddoli hynny. O’ch bodd neu’ch anfodd, mae technoleg yma a bydd yn treiddio i bob agwedd o’r gymdeithas. Byddwch yn barod i fynd allan a chroesawu’r cyfleoedd hyn drwy newid cyfeiriad ac arbrofi.