Darllenwch yr hyn roedd Yr Athro Ruth McElroy yn meddwl am gyfarfod academaidd cyntaf Clwstwr. 

Ym mis Gorffennaf, fe ddaeth Clwstwr ag academwyr o dair prifysgol Caerdydd at ei gilydd er mwyn rhannu gweledigaeth o amcanion ymchwil y rhaglen. Cafodd y digwyddiad ei gyd-arwain gan gyd-ymchwilydd ac aelod o dîm rheoli Clwstwr, Yr Athro Ruth McElroy. Dyma hi’n rhannu ei barn ynglyn â gyfarfod academaidd cyntaf Clwstwr: 

Ar ddiwrnod braf yng nghaffi Llaeth a Siwgr, Yr Hen Lyfrgell, fe wnes i a’r Athro Justin Lewis gyflwyno y syniadaeth y tu ôl  i Clwstwr i gyunlleidfa o fwy na hanner cant o gyfoedion. Esboniais ein hethos cydweithredol a’n hamcanion i helpu Caerdydd fynd o nerth i nerth er mwyn arwain yn y sector sgrîn.

Efallai mai’r heulwen dywynodd ar bawb, ond roedd yna’n sicr barodrwydd i rannu syniadau a chroesi’r ffiniau sefydliadol arferol sy’n aml yn ein cadw ar wahân.

Er yn annisgwyl, dyma oedd y tro cyntaf i nifer ohonom gwrdd â’n gilydd. Fy unig amod am y diwrnod oedd  ‘rheidrwydd i gymysgu a pheidio eistedd ar bwys eich ffrindiau’ – rydyn ni’n torri’n rhydd ac yn gwneud gwahaniaeth.

Academics from Cardiff's three universities discuss innovation

O fathemategwyr ac ymchwilwyr iechyd i ysgrifenwyr a dylunwyr gemau, roedd pawb yn awyddus i ddysgu mwy am raglen ymchwil a datblygu Clwstwr. Roedd yna gyfuniad gwych o bobl deallus, ysbrydoledig a diymhongar gyda’r gallu i feddwl, dylunio a chyflwyno gwybodaeth ar newydd wedd. 

Pan ymgeisiodd Clwstwr am y cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, roedden ni’n glir am ein hamcanion i ddatblygu rhwydwaith ymchwil a datblygu yn y rhan yma o’r byd. Mae hyn yn golygu cyfuno arbenigedd ymchwil aml-ddisgyblaethol ein prifysgolion gyda busnesau creadigol ein rhanbarth. 

Wedi’r cyfan, nid ydym yn dechrau o’r dechrau. Rhannodd nifer o’r rhai’n bresennol esiamplau diddorol o gydweithio gyda diwydiant, y celfyddydau a llunwyr polisi. Mae nifer o’r cyweithiau hynny yn ymestyn y tu hwnt i Gymru,gyda chysylltiadau rhyngwladol yn un o’r prif nodweddion o rhwydweithiau academaidd. Yn ddifyr, nodwyd bod mwy na deuddeg iaith ar waith rhyngom.

Nid yw mor hawdd cael mynediad i’r arbenigedd yma o fewn prisgolion â’r disgwyl. Nid yw chwaith yn hawdd i academwyr – sy’n gorfod blaenoriaethu israddedigion – i feithrin cysylltiadau y tu hwnt i addysg uwchradd. Mae drwgdybiaeth ar y ddwy ochr a gwneir rhagdybiaethau ffug ynglŷn â’r hyn y gall y naill neu’r llall gynnig.  

Serch hynny, optimistiaeth ac angerdd gipiodd y dydd gyda phawb yn datgan diddordeb mewn cydweithio a chynnig eu harbennigedd i’n prosiectau a’n rhwydwaith ymchwil a datblyguDim ond da a ddaw o’r fath feddwl miniog a brwdfrydedd yma."

Os ydych chi’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru neu Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yr hoffech fynegi eich diddordeb yn Clwstwr, yna anfonwch e-bost atom a gallwn ddarparu rhagor o wybodaeth.