Ynglŷn á Bomper Studio:

Stiwdio gynhyrchu greadigol annibynnol yw Bomper Studio wedi'i lleoli yng Nghaerffili. Mae'r tîm mewnol o artistiaid, darlunwyr, animeiddwyr, cyfarwyddwyr celf a chynhyrchwyr yn gweithio ar draws hysbysebu, brandio, darlledu, VFX, animeiddio, CGI a delweddau llonydd. Mae cleientiaid Bomper yn cynnwys y BBC, Levi’s, RCA a Tesco.

Roeddem am ddod â phrofiad ffurfweddwr moethus i fanwerthu rhatach.

Yn ddiweddar, mae nifer o frandiau sy'n cynhyrchu eitemau moethus wedi cyflwyno ffurfweddwyr ar-lein medrus. Maent yn caniatáu i chi fynd ar eu gwefan a ffurfweddu, dyweder, gar o’r radd flaenaf at eich dant penodol; gallwch chi amrywio pethau fel y model, y lliw, lefelau’r trimiau ac ategolion wrth weld diweddariadau prisio mewn amser real a modelau 3D 360° amgylchynol. Sylweddolais fod marchnad ar gyfer ffurfweddwr a oedd yn cymryd agweddau ‘ystafell arddangos’ y ffurfweddwyr moethus hyn ac yn eu cynnwys mewn eitemau manwerthu rhatach.

Pan oeddem wedi gweithio gyda manwerthwyr yn y gorffennol, roedd eu ffurfweddwyr yn llinol ac yn wastraffus iawn.

Pe gallem ddod o hyd i ffordd i wneud ffurfweddwr amser real, gallem wella profiadau defnyddwyr, torri gwastraff a grëir gan ffotograffiaeth ddiangen a symleiddio'r biblinell. I egluro: dychmygwch fod cleient eisiau ffurfweddwr gydag 20 gwrthrych ynddo, pob un ag 20 dewis deunydd. Er mwyn gwneud iddo weithio, byddem yn tynnu miloedd o ffotograffau o'r cynhyrchion a'r dewisiadau deunydd o bob ongl. Mae hyn er mwyn i'r ffurfweddwr eu rhoi at ei gilydd i greu darlun cywir o sut olwg fydd ar y gwrthrych gorffenedig, yn ôl dewisiadau'r defnyddiwr. Dros amser, byddai'r cleient yn ychwanegu mwy o wrthrychau a deunyddiau. Cyn i chi sylweddoli, bydd y banc delweddau’n cynyddu’n fwyfwy cynt. Ar gyfer un cleient yn y gorffennol, gwnaethom 46,000 o ddelweddau ar gyfer y ffurfweddwr ar ei wefan! Y peth anhygoel yw na fydd tua 15% o ddelweddau ar y ffurfweddwyr llinol hyn byth yn cael eu gweld, dim ond oherwydd nad oes neb yn dewis y ffurfweddau penodol sydd eu hangen i ddangos y delweddau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud llawer o waith ymlaen llaw, gan ddefnyddio cyllideb y cleient i greu delweddau na fydd yn debygol o gael eu gweld. Nid oedd hynny'n gwneud synnwyr i ni.

Cawsom gyllid gan Clwstwr i wneud prototeip.

Roedd yr ystyriaeth gyntaf i ni yn ymwneud â’r cyd-destun yr hoffem ei greu i’r ffurfweddwr. Roeddem am roi rhyw fath o naratif i'r ffurfweddwr, fel y gallech glicio hysbyseb ar-lein sy'n mynd â chi yn syth at y ffurfweddwr. Roeddem hefyd eisiau sicrhau bod parhad rhwng yr hysbyseb a'r ffurfweddwr, rhywbeth yr oeddem yn teimlo y byddem yn gallu ei wneud trwy ddefnyddio arddulliau tebyg yn y ddau le.

Roedd ceisio cymorth arbenigwyr yn ein helpu i lenwi ein bylchau sgiliau.

Roeddem yn gwybod sut i wneud i wrthrychau CGI edrych yn ddeniadol, ond nid oeddem yn deall sut i greu cyswllt rhwng ffurfweddwr â hysbyseb ar rywle fel Facebook neu Instagram. Felly, gwnaethom alw ar ddatblygwr gwe sydd â phrofiad o ddefnyddio Unity, platfform amser real, i ganolbwyntio ar hynny i ni. Yn ddiweddarach fe ddefnyddion ni arlunydd mewnol a gweithiwr llawrydd gyda chefndir chwarae gemau fideo i'n helpu ni i leihau maint ein ffeiliau delweddau.

Roedd angen i ni wneud y modelau mor fach â phosib i leihau oedi wrth ddangos delwedd cymaint â phosibl.

Roeddem wedi penderfynu ein bod am i gwsmeriaid weld y ffurfweddwr ar eu porwr, yn hytrach nag ar ap ar wahân. Ond, roedd hyn yn golygu pe bai maint ffeiliau delweddau yn rhy fawr, byddai'n rhaid i gwsmeriaid aros i'r ffurfweddwr lwytho - a allai arwain atynt yn clicio i ffwrdd a pheidio â phrynu. Roedd y cydbwysedd da hwn rhwng rhoi golwg realistig a chystal â phosibl i’r modelau hyn a cheisio eu cadw’n ffeiliau bach.

Er mwyn arbed amser ac arian, fe wnaethom symleiddio  ein huchelgeisiau hanner ffordd drwodd.

Pan ddechreuon ni adeiladu, roedden ni'n bwriadu bod yn uchelgeisiol iawn a cheisio creu amgylcheddau rhyngweithiol y gellir eu cyfnewid. Fodd bynnag, gwnaethom sylweddoli bod pethau pwysicach i ganolbwyntio arnynt, megis sicrhau y gallai defnyddwyr ddewis gwahanol wrthrychau a newid deunyddiau. Felly, er mwyn arbed amser ac arian, gwnaethom brynu rhai amgylcheddau i mewn y gallem eu rhoi yn y ffurfweddwr at ddibenion profi, a oedd yn rhatach ac yn gynt nag adeiladu ein rhai ein hunain o'r dechrau. Defnyddiwyd y rhan fwyaf o’n harian i gael ein hasedau yn yr amgylcheddau adeiledig a thalu gweithwyr llawrydd ac ymgynghorwyr.

Roeddem o'r farn bod gennym gynnyrch hyfyw, ond mae peth gwaith i'w wneud eto.

Roeddem yn bwriadu gwneud prototeip gweithredol, a llwyddon ni i wneud hyn. Fodd bynnag, mae yna bethau yr hoffem eu newid o hyd er mwyn teimlo bod y prototeip yn barod ac wedi'i orffen. Mae’n bosibl bod ffyrdd gwell ar gael i'w gynnal. Ar hyn o bryd byddech chi'n ei gynnal ar wefan, yna byddai'n rhaid i gwsmeriaid aros am oddeutu 20 eiliad tra bod yr holl wrthrychau yn lawrlwytho i'w ddefnyddio. Rydym bellach yn sylweddoli y byddai'n well ei gynnal yn y cwmwl fel y gallai cwsmeriaid ffrydio picseli o weinydd yn hytrach na gorfod lawrlwytho modelau. 

Hoffem hefyd geisio ei newid i Unreal Engine, am hirhoedledd ac oherwydd eu bod yn ei ddatblygu'n gyson. Mae rhai o'r brandiau moethus rydyn ni wedi'u gweld yn defnyddio ffurfweddwyr wedi’u hadeiladu ar Unreal ac Unity, felly mae'n gwneud synnwyr. Gall yr holl newidiadau hyn ddod yn y cam nesaf o Ymchwil a Datblygu a wnawn; yr hyn sy’n bwysig yw dysgu wrth fynd ymlaen.

Unwaith y bydd y ffurfweddwr yn barod i'w lansio, mae nifer o bosibiliadau gennym ar ei gyfer

Rydyn ni'n ystyried y ffordd orau ymlaen. Gallem ei drwyddedu, gallem ei werthu fel pecyn neu wasanaeth llawn, neu mae opsiynau eraill ar wahân i'r rhain. Efallai byddwn ni’n cysylltu â manwerthwr mawr, annog eu diddordeb a’u defnyddio fel testun arbrawf. Nid ydym yn gwybod llawer o hyd am sut mae ôl-brosesydd y ffurfweddwr yn gweithio oherwydd bod gwefan pob manwerthwr yn wahanol, felly bydd hynny'n rhywbeth i ni geisio ei ddysgu ein hunain. Bydd pethau i'w gwneud bob amser i wneud y ffurfweddwr cystal â phosibl, ond mae hynny'n rhan o hwyl ymchwil a datblygu.