Mae Canolfan Ffilm Cymru, dan arweiniad Chapter fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, wedi cyhoeddi dau brosiect arloesol a fydd yn cefnogi adrodd straeon ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Gyda chefnogaeth Creative Wales ac wedi’i datblygu mewn ymgynghoriad gyda chyrff sgrin Cymreig, caiff rôl newydd gyffrous ei chreu ar gyfer Swyddog Adeiladu Gwnaethpwyd yng Nghymru. Gan adeiladu ar waith Canolfan Ffilm Cymru hyd yn hyn, fe fydd deiliad y swydd yn edrych ar ffyrdd o gyflwyno ffilmau Cymreig i gynulleidfaoedd cyhoeddus gan sicrhau bod straeon, doniau a lleoliadau rhanbarthol ar y blaen. Mae manylion am y swydd ar gael ar wefan Canolfan Ffilm Cymru.

Hefyd ar y gweill mae darn o ymchwil i botensial Gwnaethwyd yng Nghymru fel brand sydd yn adnabyddus. Gyda chyllid gan Clwstwr, fe fydd y prosiect yn edrych ar botensial diwylliannol ac economaidd posibl brand cenedlaethol ar gyfer ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.

Caiff yr ymchwil ei gyflawni gan arbenigwyr ymchwil cymdeithasol ac economaidd, Wavehill mewn partneriaeth gyda Chanolfan Gelfyddydauu ac Arloesi Pontio a Phrifysgol Bangor a fydd yn profi canfyddiadau brandio ffilmiau a hunaniaeth Cymreig 

Dywedodd Hana Lewis, rheolwaig strategol Canolfan Ffim Cymru: “Ein huchelgais ydy i ffilmiau Cymreig gael eu cydnabod ochr yn ochr gyda theitlau annibynnol ac ieithoedd tramor o ansawdd ledled y byd. Mae hyn yn rhywbeth rydym wedi bod yn ymrwymedig iddo ers sefydlu’r Ganolfan ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth i fynd â’r gwaith yma i lefel newydd. 

Mae cymaint o greadigrwydd yng Nghymru ac rydym eisiau i’r stori yma gael ei hadrodd. Yn yr hinsawdd ecnoamidd presennol ni allwn gymryd yn ganiataol y bydd ffilm, os ydy hi’n ddigon da, yn cael ei gweld. Fe fydd y gwaith yma yn blaenoriaethu’r gynulleidfa, yn edrych ar sut i wneud y mwyaf o daith ffilm unwaith y mae wedi caele ei gwneud.” 

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Creative Wales: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi gwaith Canolfan Ffilm Cymru a fydd yn gweithio i godi proffil ffilmiau Cymreig a hefyd sicrhau bod y straeon rydym yn eu hadrodd drwy ffilmiau yn cynrychioli ein rhanbarthau a’n cymunedau.” 

Ychwanegodd Sally Griffith, Cynhyrchydd Clwstwr: “Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru ar yr ymchwil yma. Fel corff sydd yn cefnogi R&D yn y sector sgrin a newyddion, gallwn weld potensial gwirioneddol y 

gwaith yma i gynhyrchwyr ffilm ac i gynulleidfaoedd sinema yn ogystal ag i’r sector sgrin yn ei ystyr ehangach.” 

Dywedodd Ann Griffiths, Uwch Reolwraig BFI dros Gynulleidfoaedd DU gyfan: 

“Mae'n wych bod Canolfan Ffilm Cymru yn hybu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ar draws Cymru i weld straeon Cymreig a doniau Cymreig ar y sgrin fawr ochr yn ochr gyda ffilmiau ar draws y byd. Mae FAN yn ymwneud â chynyddu dewis ac adlewyrchu amrywiaeth persbectifau a phrofiadau felly mae'r prosiect yma yn estyniad i'w groesawu o'r gwaith sydd yn cael ei wneud gan aelodau FAN Cymru a Chapter fel y Ganolfan Arweiniol.” 

Diolch i gyllid y Loteri Cenedlaethol mae Canolfan Ffilm Cymru yn darparu portffolio eang o weithgaredd yn flynyddol, gan ddod â rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o sinemau a gwyliau ffilmiau ar draws Cymru.