Mae’r tîm llawn sy'n cyflwyno Clwstwr bellach yn eu cartref newydd yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Rydym wrth ein bodd o fod yn ein cartref newydd yn adeilad eiconig Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

"Mae'r adeilad dinesig yma wedi bod yn gartref i lawer o weithgaredd creadigol dros y degawdau; o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymgartrefu yn yr ystafelloedd cyfarfod yn 1928 i Time Flies yn dod a cherddoriaeth house i Neuadd y Ddinas yn y 1990au. A phwy all anghofio Dinas yr Annisgwyl yn trawsnewid yr adeilad mewn i ffatri siocled yn 2016? 

“Mae'r tîm Clwstwr yn edrych ymlaen yn fawr at roi arloesedd wrth galon Neuadd y Ddinas." 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Clwstwr yn dangos hyder yn y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd. Mae'n wych eich gweld wedi eich lleoli yn yr adeilad arbennig hwn."

"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dod yn ganolbwynt arloesedd creadigol yn y ddinas."

Councillor Huw Thomas

Mae Ann Beynon OBE, Cyn-gyfarwyddwr BT Cymru, wedi'i hethol yn Gadeirydd y Clwstwr.

Ar hyn o bryd mae Ann yn Gyfarwyddwr Anweithredol Hafren Dyfrdwy ac is-gwmni sy'n eiddo i Severn Trent Water ccc. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol FUWIS (Gwasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru) ac yn aelod o’r Cyngor CBI i Gymru a hi yw ei gynrychiolydd ar Gyngor Busnes De-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Ann: "Rydw i’n falch iawn fy mod wedi fy newis i fod yn Gadeirydd y Clwstwr, sydd â photensial enfawr i gyflawni pethau rhyfeddol. I mi, mae'n gymysgedd braf o’r creadigol a’r masnachol, wedi'i seilio yng Nghymru ond gyda safbwynt byd-eang, ymarferol ond yn ddyheadol."

Mae Sally Griffith, cyn Gyfarwyddwr Anim18:A Celebration of British Animation, yn ymuno â'r tîm yn Gynhyrchydd y Clwstwr.  Dywedodd: “Mae'n gyffrous bod yn rhan o’r Clwstwr. Yn ystod fy mis cyntaf, rydw i wedi cwrdd â phobl o bob rhan o'r sector creadigol yng Nghaerdydd. Mae'n ysbrydoledig i fod yn gweithio o fewn ecosystem fywiog ac amrywiol sy'n llawn potensial a syniadau, ac i fedru cynnig yr amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen i helpu i ddatblygu rhai o'r syniadau hynny.

"Rydw i wrth fy modd bod y Clwstwr yn dod ag arbenigwyr o bob rhan o sbectrwm ffilm, teledu, newyddion ac ymchwil ynghyd, yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth gwych. Mae bod yn rhan o deulu mawr yn rhaglen Clystyrau Creadigol AHRC yn foment unigryw i sector sgrîn Cymru rannu ein harbenigedd a dysgu oddi wrth bartneriaid ledled y DU."