Cymerodd 30 tîm, gan ddod â gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr, artistiaid a mathemategwyr o bob rhan o'r DU ynghyd, ran mewn proses ymchwil a datblygu tri mis i ail-greu gŵyl creadigrwydd. Yn dilyn proses asesu drylwyr, mae 10 Tîm Creadigol bellach yn cael eu comisiynu i gynhyrchu eu prosiectau arloesol yn llawn ar gyfer Festival UK* 2022 y flwyddyn nesaf. 

Gyda'r bwriad o ddod â phobl ynghyd ac arddangos creadigrwydd, bydd y 10 prosiect yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, cyfleoedd cyfranogi a rhaglenni dysgu fydd yn cyrraedd miliynau o blant a phobl ifanc, gan ddangos pwysigrwydd creadigrwydd ym mywydau pobl a'n dyfodol ar y cyd. 

Mae Collective Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, wrth ei fodd i gael ei ddewis i gyflawni un o'r deg prosiect. O'r cychwyn cyntaf, aethom ati i ail-lunio sut y gallai prosiect ar y raddfa hon gael ei ddyfeisio, ei gynhyrchu a'i rannu. Mae ein prosiect yn gydweithredol, yn gynhwysol, yn sylfaenol Gymreig wrth ei wraidd ac yn fyd-eang yn ei weledigaeth. 

Dechreuodd ein cydweithrediad trwy gasglu pobl o bob rhan o Gymru, ar draws disgyblaethau a chydag ystod eang o brofiadau bywyd i ffurfio ein Tîm Creadigol: o'r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth a Jukebox Collective wedi'i leoli yng Nghaerdydd i Frân Wen yng Ngwynedd, technolegwyr ac arloeswyr creadigol o Sugar Creative a Clwstwr, newyddiadurwr a threfnydd cymunedol, awduron, gwneuthurwyr theatr ac artistiaid i gynrychiolwyr o gwmnïau cenedlaethol: Celfyddydau Anabledd Cymru, National Theatre Wales a Ffilm Cymru.  

Datgelodd pob aelod safbwyntiau newydd, gan herio rhagdybiaethau o sut y gallai prosiect creadigol gael ei ddylunio.

Aelodau'r Tîm Creadigol:

  • National Theatre Wales: Lorne Campbell, Claire Doherty, Marc Rees;
  • Y Ganolfan Technoleg Amgen: Rebecca Upton;
  • Clwstwr: Shirish Kulkarni, Robin Moore;
  • Celfyddydau Anabledd Cymru: Kaite O'Reilly;
  • Ffilm Cymru: Pauline Burt;
  • Sugar Creative: Will Humphrey;
  • Awdur ac Athro mewn Creadigrwydd, Prifysgol Abertawe: Owen Sheers;
  • Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru: Liara Barussi (Jukebox Collective), Gethin Evans (Frân Wen).

Gyda'n gilydd fe ddaethom o hyd i bwrpas cyffredin - ymrwymiad i gynhwysiad radical. Ein nod yw cynhyrchu profiad diwylliannol newydd bythgofiadwy - wedi'i gyd-greu a'i gyd-ddylunio gyda chymunedau ledled Cymru - ac yn hygyrch i bawb. Ein hysbrydoliaeth a'n sylfaen trwy gydol ein Hymchwil a Datblygu fu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - rhodd fwyaf Cymru i'r byd: darn o ddeddfwriaeth sy'n uchel ei pharch yn fyd-eang sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau'r presennol trwy flaenoriaethu lles a hawliau ein disgynyddion. 

Wedi ein hysbrydoli gan gynhwysiad radical y ddeddf hon, gwnaethom ddefnyddio rhwydweithiau ein tîm i wrando ar safbwyntiau sydd mor aml yn cael eu heithrio neu eu hanwybyddu. Mae cysyniad ein prosiect wedi'i lunio gan ddeinameg lleisiau radical Cymru gyfoes. 

Gwnaethom ymrwymo ein hunain i ddylunio prosiect a fydd yn darparu sbardun arbennig mawr ei angen i weithwyr llawrydd creadigol, y sector creadigol ehangach ac i leoliadau penodol yng Nghymru sydd wedi cael eu taro’n galed gan y pandemig. I wneud hynny, rydym eisoes wedi dechrau datblygu mathau newydd o bartneriaethau o fewn cymunedau ledled Cymru a chyda phartneriaid cyfryngau ac ymchwil rhyngwladol. 

Bydd ein prosiect yn arddangos cryfderau Cymru i'r byd - ein cymunedau bywiog, cydnerth, ein talent greadigol a chynhyrchu ffilm a theledu eithriadol, ein tirluniau dramatig syfrdanol a threfi a dinasoedd bywiog, ein harbrofi creadigol mewn technoleg ymdrochol a’n perfformiadau safle-benodol uchel eu parch yn fyd-eang. 

Mae manylion llawn holl gomisiynau’r ŵyl yn cael eu cadw'n gyfrinachol er mwyn caniatáu i’r Timau Creadigol droi eu syniadau’n realiti, ond bydd prosiectau’n mynd â ni o’r tir, i’r môr, i’r awyr a hyd yn oed y gofod allanol, gan ddefnyddio technoleg arloesol a grym y dychymyg. Cyhoeddir rhaglen yr ŵyl, ynghyd ag enw newydd, yn ddiweddarach eleni.

Darllen rhagor

Mae Shirish Kulkarni yn esbonio'r hyn a ddysgodd o brofiad Ymchwil a Datblygu arbennig o unigryw.

Am Festival UK* 2022

Mae Festival UK* 2022, gŵyl creadigrwydd ac arloesedd bwysig ledled y DU, yn comisiynu 10 prosiect ymgysylltu â’r cyhoedd mawr sydd wedi'u cynllunio i gyrraedd miliynau, dod â phobl ynghyd ac arddangos creadigrwydd y DU yn fyd-eang. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn 2022 a bydd pob prosiect yn dod â chyfleoedd newydd i bobl greadigol mewn sectorau sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan COVID-19. www.festival2022.uk

* teitl dros dro