About Goggleminds

Mae Goggleminds yn creu ac yn defnyddio efelychiadau hyfforddi’n seiliedig ar realiti rhithwir i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr meddygaeth i ymarfer a dysgu sgiliau clinigol. Mae'r profiadau dysgu hyn yn efelychu'r hyn a fyddai fel arfer yn digwydd mewn bywyd go iawn, ond yn lleihau risg drwy gynnig dewis arall yn hytrach nag ymarfer ar bobl go iawn. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ailadrodd y profiadau dysgu trwy ddefnyddio'r efelychiadau hyn mor aml ag  y maen nhw'n ei ddymuno, rhywbeth na fyddech yn ei weld mewn bywyd go iawn am wahanol resymau.

Azize Naji, cyfarwyddwr Goggleminds, sy'n rhannu ei brofiadau Clwstwr.

Mae angen enfawr am hyfforddiant ac addysg hygyrch mewn gofal iechyd

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod angen 10 miliwn o weithwyr gofal iechyd ychwanegol arnom yn fyd-eang dim ond i fodloni darpariaeth gofal iechyd sylfaenol. Os ystyriwn y DU, ar hyn o bryd mae dros 130,000 o swyddi gwag yn y GIG a 100,000 o swyddi gwag eraill mewn gofal cymdeithasol. Er mwyn gallu cael pobl i hyfforddi'n nyrsys, meddygon, llawfeddygon a'r holl broffesiynau eraill sy'n gwasanaethu'r GIG a'r system gofal iechyd a gofal cymdeithasol, mae gwir angen i ni gefnogi hyfforddiant y gweithlu hwn.

Ar ôl i mi raddio o'r brifysgol, roeddwn i'n gweithio yn y GIG yng Nghymru a Lloegr ac yn y sector gofal iechyd preifat. Roeddwn i'n profi problemau yn ymarferol ac yn clywed gan bobl eraill oedd â'r un problemau: sut mae cyflwyno addysg mewn ffordd sy'n llwyddiannus, yn effeithiol ac yn ddifyr? Fel arfer, er mwyn ateb y galw, bydd darparwyr gofal iechyd ac ysgolion meddygol yn defnyddio e-ddysgu neu ddulliau traddodiadol fel PowerPoint neu addysgu wyneb yn wyneb. Y broblem yw nad yw hyn yn effeithiol ac mae'n anodd iawn ei drefnu gan fod bylchau yn y gweithlu.

Cefais fy ysbrydoli gan fy ngradd Meistr i ddechrau prosiect technoleg iechyd VR

Roeddwn i'n gorffen fy nhraethawd hir Meistr ar ddefnyddio VR i hyfforddi nyrsys mewn gofal iechyd.  Roeddwn i wedi darllen cannoedd o bapurau, a chefais fy llethu gan y dystiolaeth. Fe wnaeth hynny, ynghyd â fy ymchwil fy hun,  wneud i mi feddwl am ddechrau prosiect. Cysylltais a Clwstwr ar ôl gweld post ar y cyfryngau cymdeithasol ar hap. Siaradais gydag un o'r tîm am yr hyn oedd ar fy meddwl, ac roedd yn gefnogol iawn gan fy annog i ymgeisio am gyllid. Ymgeisiais am o ddeutu £10,000 i wneud astudiaeth dichonoldeb.

Ar y pwynt hwn, dim ond syniad oedd Goggleminds

Roeddwn i wedi adeiladu rhai rhaglenni efelychu sylfaenol iawn at ddibenion ymchwil fel rhan o fy ngradd Meistr, dim byd anhygoel. Roeddwn i'n gwybod beth oedd ei angen arnom ni,  beth roedd pobl yn dweud eu bod nhw ei angen ac roedd gen i ryw syniad o sut i'w adeiladu. Nod fy astudiaeth dichonoldeb oedd edrych ar emeiddio a hygyrchedd efelychiad hyfforddi gan ddefnyddio realiti rhithwir i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Roedd yn brosiect bachog a byr iawn, yn para tri neu bedwar mis. Roedd yn llwyddiant mawr, ac fe'n sbardunodd ni i gyrraedd lle'r ydyn ni heddiw.

Fy ffocws cyntaf oedd dod â'r bobl iawn at ei gilydd i fynd ati i'w adeiladu

Dydw i ddim yn ddatblygwr fy hun, er bod gen i rywfaint o brofiad bellach, felly ro'n i angen pobl oedd â'r profiad yna. Ymunodd cwpwl o interniaid gyda ni (sy'n dal yma heddiw fel staff) ac yna adeiladon ni'r cynnyrch.  Hefyd, llwyddon ni i fynd i mewn i Ysbytai Prifysgol Rhydychen yn eithaf cynnar a chael perthynas dda iawn gyda nhw, oedd yn golygu bod ein creadigaeth wir yn cael ei dreialu, ei brofi a'i ddefnyddio yn yr amgylchedd meddygol.

Y cynnyrch cyntaf oedd modiwl rheoli tracheostomi brys. Aethon ni drwy amrywiol gylchoedd o adeiladu a defnyddio'r dechnoleg ac yna brofi a chasglu data, gan adrodd ar bopeth ar hyd y ffordd. Roedd yr amser cwblhau'n gyflym iawn.

Treulion ni amser yn ystyried beth sy'n gwneud efelychiad da

Mae'n amlweddog, a does dim llawer o ganlyniadau ymchwil pendant. Mae pethau fel trochi, sef y lefel lle'r ydych chi'n cael eich trochi'n wybyddol mewn efelychiad. Yna mae'r elfennau gweledol a pha mor atyniadol yw'r delweddau. Wedyn mae presenoldeb, sef y cyflwr pan fyddwch chi'n teimlo eich bod wirioneddol yn y gofod rhithwir. Yna mae'r haptigau, sef yr hyn mae'r rhan fwyaf o gwmnïau’n canolbwyntio arno ym maes VR.

Cyn gallu edrych ar yr haptigau, mae angen cael y presenoldeb a'r trochi VR yn gywir. Os nad ydych chi'n teimlo'n bresennol ac wedi'ch trochi mewn senario rithwir, does dim ots pa lefel o haptigau sydd gennych chi; fydd y defnyddiwr ddim yn y ffrâm iawn o feddwl i fynd i'r cylch dysgu addysgol, felly i bob pwrpas mae'n aneffeithiol.

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i wella trochi, ac mae rhai'n gyfrinachol.

Mae llawer yn eithaf adnabyddus. Pethau fel y lefel o fanylder yn y mater graffeg. Gall graffeg blociog mewn efelychiadau greu oedi a dydyn nhw ddim yn argyhoeddi felly dydyn nhw ddim yn wych. Gall oedi fel hyn wneud i'r defnyddiwr deimlo'n gyfoglyd, sy'n difetha'r profiad ac yn ei wneud yn aneffeithiol.

Gall pethau eraill fel y rhyngweithedd gwirioneddol mewn efelychiad gael effaith ar drochi. Mae rhai cwmnïau, er enghraifft, yn defnyddio fideos 360°, sy'n bwynt mynediad hawdd i'r farchnad. Ond allwch chi ddim rhyngweithio gyda'r amgylchedd hwnnw fel y byddech yn ein hefelychiad ni. Mae cael yr elfennau hynny o ymgysylltu a rhyngweithio yn ystod yr efelychiad yn helpu'r cylch dysgu. Hefyd mae gennym ni gleifion rhithwir unigryw sy'n dod yn fyw; pan fyddwch chi'n rhyngweithio gyda nhw drwy siarad neu symud, maen nhw'n siarad ac yn symud fel pobl go iawn. Yr agosaf y gallwn efelychu bywyd go iawn, y gorau yw'r trochi a'r cryfaf yw'r potensial addysgol.

Rydyn ni'n blaenoriaethu clefydau sy'n achosi'r canlyniadau mwyaf negyddol i staff ac i bobl yn gyffredinol

Rydyn ni'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n achosi niwed sylweddol i bobl ledled y byd a sgiliau sy'n wirioneddol anodd eu hymarfer mewn bywyd go iawn. Er enghraifft, mae sepsis yn lladd un person yn y byd bob ychydig eiliadau. Mae'n frawychus iawn. Rydyn ni'n gweld bod gennym ni'r potensial i gael effaith fan hyn, felly mae'n un o'r clefydau rydyn ni'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd.

Ar ôl y cam dichonoldeb, ddyfarnwyd mwy o arian Clwstwr i ni adeiladu ein llwyfan

O'r prosiect cyntaf, fe welson ni fod pobl yn mwynhau ein hefelychiadau ac yn meddwl eu bod yn ddefnyddiol ac yn effeithiol. Roedden ni'n taro'r holl bwyntiau allweddol. Ond un o'r themâu cyson oedd hygyrchedd. Mae VR yn datblygu'n gyson, ond er bod y gyfradd fabwysiadu yn dechrau cynyddu, dydyn ni ddim wedi cyrraedd lefel mabwysiadu torfol. Mae gan bawb bron iPhone neu Android, ond nid pawb sydd â phenset VR.

Felly dechreuon ni edrych ar sut y gallen ni gynyddu hygyrchedd i roi'r profiadau hyn i gynulleidfa ehangach.. Un o'r ffyrdd rydyn ni wedi gwneud hyn yw drwy ddatblygu platfform gwe fel bod unrhyw un sydd â gliniadur, tabled neu gyfrifiadur desg yn gallu cyrchu'r efelychiadau ar sgrin 2D. Dyw'r lefel o drochi ddim yr un fath â VR, ond mae'n dal i fod yn rhyngweithiol iawn ac wedi'i gemeiddio.

Ers gorffen yr ail gam, rydyn ni wedi bod yn ehangu ein cynnyrch i gynyddu hygyrchedd

Mae VR ar gyfer trochi llawn tra bo cyfrifiadur desg ar gyfer mynediad ehangach. Mae 1.4 miliwn o bobl yn y GIG yn y DU, sy'n codi i 3 miliwn o bobl os ydych chi'n cynnwys gofal cymdeithasol. Yn fyd-eang, mae cyfanswm o tua 55 miliwn o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.  Mae gwir angen ffordd o ehangu'r hyfforddiant heb gyfyngiadau offer, ac mae hynny'n allweddol i'n taith bellach. Yn y pen draw, bydd VR yn dal i fyny. Yn ystod y tair blynedd nesaf, rwy'n meddwl y byddwn yn cyrraedd lefel mabwysiadu torfol o ran VR.

Mae Clwstwr wedi bod yn gychwyn gwych i niByddaf i'n cofio'r gefnogaeth a gawson ni gan Clwstwr am byth. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â rhai o'r tîm. Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf.

Azize Naji of Goggleminds on stage at Future Week in Bergen, Norway talking about his Clwstwr R&D


Mae yna lawer rydyn ni'n awyddus i'w wneud yn y dyfodol. Rydyn ni wastad yn edrych ar dechnolegau newydd a sut y gallwn eu cynnwys yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Un o'r meysydd yr rydyn ni'n edrych arnyn nhw ar hyn o bryd yw'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Mae ein cleifion rhithiol yn efelychu pobl go iawn yn y ffordd y maen nhw'n symud ac yn siarad, ond mentraf ddweud ein bod ni'n awyddus i roi lefel o ddeallusrwydd iddyn nhw. Byddai'n eu galluogi nhw i fod yn fwy deinamig mewn amser real gyda'n dysgwyr.

Fel busnes, rydyn ni'n edrych ar y farchnad fyd-eang. Rydyn ni eisoes wedi bod draw i America unwaith neu ddwy ac yn siarad gyda sefydliadau mawr allan yna. Rydyn ni'n awyddus i ganolbwyntio ar Affrica hefyd. Mae 11 gwlad yn Affrica Is-Sahara heb unrhyw fynediad at addysg feddygol, felly rydyn ni'n llunio prosiect sy'n gobeithio gwasanaethu'r boblogaeth honno.

Mae'r adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn ardderchog

Rydyn ni'n cyhoeddi papurau ymchwil ar effeithiolrwydd ein rhaglenni hyfforddi, yn trafod effeithiolrwydd, lefelau ymgysylltu a phethau tebyg. Mae hyn yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo ac mae'n ein cymell i barhau i wella.

Rydyn ni wrthi'n ceisio gwneud ein platfform hyfforddi mor hygyrch â phosib

Ein prif amcan yw ei gael allan i gymaint o bobl â phosib. Nid gwneud arian oedd fy nod wrth ddechrau busnes, ond datrys problem. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr gofal iechyd ar lefel uwch a thrwy ysgolion meddygaeth, ond mae gennym ni gynlluniau i newid y model busnes mewn ffordd sydd heb gael ei wneud o'r blaen.

Rydyn ni'n gwneud llawer o waith gydag ysgolion hefyd ar hyn o bryd, drwy ein menter Meddyliau'r Dyfodol. Nid pawb sy'n cael cyfle i ddysgu am ofal iechyd, neu wneud hynny yn yr amgylchedd iawn iddyn nhw. Rydyn ni wedi bod yn mynd i ysgolion, yn bennaf mewn ardaloedd y mae cynghorau Cymru'n cyfrif eu bod wedi'u hamddifadu'n gymdeithasol, i ddarparu profiad i blant ysgol o fod yn feddyg mewn realiti rhithwir. Maen nhw'n cael profiad o fod yn feddyg neu nyrs ar ward, yn ceisio helpu neu achub y claf, gyda'r syniad y gallai hyn eu hysbrydoli i ystyried gyrfa mewn gofal iechyd.