Mae Good Gate Media a Wales Interactive wedi lansio rhaglun a demo newydd sbon ar gyfer y ffilm antur ffantasi y bu disgwyl mawr amdani, Deathtrap Dungeon: The Golden Room.

Mae Deathtrap Dungeon: The Golden Room yn ganlyniad ymchwil a datblygiad trwy brosiect Clwstwr Good Gate Media a hon fydd y ffilm ryngweithiol gyntaf i gael ei seilio ar y gyfres llyfrau gêm hynod lwyddiannus Fighting Fantasy a sefydlwyd gan Ian Livingstone (CBE), a werthodd 23 miliwn o gopïau ledled y byd.

Mae'n fersiwn tra chyfoes o Dungeons a Dragons a gemau chwarae rôl ffantasi llwyddiannus eraill ac mae'n cynnwys yr un dechnoleg CGI rendro amser real a ddefnyddir ar The Mandalorian gan Disney. Wedi’i chyfarwyddo gan Paul Raschid (The Complex, Five Dates, White Chamber)ac yn cynnwys Georgia Hirst(Five Dates, Vikings) a Marcus Fraser (Transformers: The Last Knight), caiff y gêm lawn ei rhyddhau yn 2022 ac mae'r demo bellach ar gael ar Steam ac Xbox One.

Cwmni datblygu gemau fideo yng Nghaerdydd yw Good Gate Media a'u datganiad cenhadaeth yw creu gemau straeon rhyngweithiol sy'n galluogi’r chwaraewr i fod yn arwr yn ei ffilm ei hun. Roedd eu prosiect Clwstwr yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu (YaD) mewn perthynas ag adrodd straeon rhyngweithiol ac effeithiau gweledol (VFX). Trwy gyfuno VFX o’r radd flaenaf a rendro cyfrifiadurol mewn amser real, yr amcan oedd lleihau costau cynhyrchu'n sylweddol trwy adeiladu setiau ffotoreal mewn cyfrifiadur yn hytrach na defnyddio arteffactau ffisegol. Roedd cyllid Clwstwr yn galluogi iddynt brofi technoleg Rendro Amser Real i helpu i wireddu graddfa ac uchelgais mawr y ffilm.

John Giwa- Amu headshot

Dywedodd John Giwa Amu, Cynhyrchydd a Sylfaenydd Good Gate Media: "Bu i'r arian gan Clwstwr gyflymu datblygiad Deathtrap Dungeon Ian Livingstone, ac mae wedi cynyddu safonau'r fformat rhyngweithiol. Mae gan Good Gate brawf hyfryd, gyda'r holl wybodaeth a gronnwyd ar hyd y ffordd, y byddwn yn ei defnyddio i sicrhau partner ariannol sylweddol. Ychwanegodd ein dewis gyhoeddwr, Wales Interactive, ddawn weledol i'r gwaith unwaith eto a helpodd i sicrhau bod dros 100,000 o bobl ledled y byd yn gweld y gêm."

Wales Interactive team shot at awards ceremony

Dywedodd Dr David Banner MBE, Cynhyrchydd Gweithredol/Cydsylfaenydd Wales Interactive: "Mae Wales Interactive yn falch o gydweithio eto â Good Gate Media yn yr hyn sydd wedi datblygu'n bartneriaeth lwyddiannus iawn lle mae elfennau gorau byd gemau fideo a byd ffilm yn cyfuno.

"Rydym wrth ein boddau nad yw creadigrwydd a chynhyrchiant ym myd gemau fideo a byd ffilm wedi ein dal yn ôl yn ystod blwyddyn sydd wedi bod mor heriol i bawb. Rydym yn parhau i gynhyrchu mwy o ffilmiau rhyngweithiol arloesol gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ychwanegu at ein darpariaeth, gyda mwy i ddod. Cewch glywed mwy yn y man, felly!”

Gallwch wylio'r rhaglun yma.