Helo Jonathan. Sut fyddech chi'n disgrifio'ch busnes a’r hyn mae'n ei wneud?

Rwy'n rhedeg cwmni cynhyrchu cyfryngau o'r enw jonathandunn.net Media Production. Rwy'n arbenigo mewn cynhyrchu ffilmiau, sy'n cynnwys camera, golygu, cyfarwyddo, ysgrifennu a chynhyrchu. Rwyf i hefyd yn cynnig gwasanaethau ffotograffiaeth, dylunio graffeg, graffeg symud, animeiddio, cynhyrchu cerddoriaeth, cynhyrchu podlediadau, dylunio sain a dylunio gwe. Rwyf wedi dod o hyd i arbenigedd drwy weithio gyda chwmnïau dawns a theatr, ond rwyf i hefyd yn cydweithio â chwmnïau a sectorau eraill.

Sut glywsoch chi am gyllid Clwstwr?

Soniodd fy mhartner prosiect Jack Philip, oedd yn gyfarwydd â Clwstwr, wrthyf i amdano.

Beth ysbrydolodd chi i wneud cais am gyllid?

Cefais fy nenu’n arbennig gan y modd y mae Clwstwr yn canolbwyntio mwy ar ymchwil a datblygu ac archwilio’r broses nag ar ganlyniad penodol. Roeddwn i'n teimlo y byddai'r amgylchedd hwn yn caniatáu i mi fod yn fwy creadigol ac archwilio syniadau mwy diddorol na phe bawn yn cael fy nghyfyngu i greu cynnyrch terfynol.

Esboniwch yr hyn roeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais

Y syniad canolog oedd gweld a allwn ddod o hyd i ffordd i wneud dawns ar ffilm yn fwy hygyrch, yn benodol i gynulleidfa ddall ac â nam ar eu golwg. Yr hyn roeddwn i am ei brofi oedd a fyddai'n bosibl creu allbwn mwy arbenigol i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach gyda dim ond cynnydd bach iawn o ran cynhyrchu, os byddech chi'n ystyried amrywiaeth o wahanol ganlyniadau ar ddechrau cynhyrchiad.

Ar gyfer y prosiect hwn, buom ni’n ymgynghori â chynrychiolwyr o'r cymunedau dall a phobl â nam ar eu golwg i ystyried sut y gellid gwneud ffilm ddawns fer yn fwy hygyrch iddyn nhw. Trwy integreiddio’r amrywiadau hynny i mewn i gynhyrchu’r ffilm, roeddem ni’n gallu cynnig ffyrdd i’r gynulleidfa adeiladu’r ffilm eu hunain i ddarparu ar gyfer eu hanghenion neu ddewisiadau unigol.

Roedd amrywiadau’n amrywio o addasu’r disgleirdeb a dirlawnder, gan gynnwys cyflwyniad gyda disgrifiad sain, dewis o ddisgrifiadau sain gwahanol ar gyfer y darn ei hun, amrywiadau o ran golygu (lle gallai’r gynulleidfa ddewis cael mwy o saethiadau agos, mwy o saethiadau llydan ac ati) a rheolaeth dros y cymysgedd sain. Drwy ystyried yr asedau hyn ar y dechrau, dim ond tua 10% o gynnydd oedd ei angen ar yr amser/cost cynhyrchu i gael cynnydd o hyd at 800% yn yr allbwn.

Y bwriad y tu ôl i'r broses gyfan oedd caniatáu i fwy o bobl gael mynediad at ddarn o ddawns a gallu ei drafod ar yr un lefel â'i gilydd, sut bynnag y maen nhw wedi cael mynediad ato. Drwy sicrhau bod yr ystyriaethau hyn yn cael sylw ar ddechrau’r broses, roedd yn golygu na fyddai bwriadau’r artist ar gyfer y gwaith yn cael eu hystumio na’u gwanhau, a bod eu llais i’w glywed sut bynnag mae’r gynulleidfa'n dewis llunio’r golygiad.

Faint o gyllid gawsoch chi?

£5,000

Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid

Y cam pwysicaf oedd y cam cychwynnol, lle buom ni'n ymgynghori â detholiad o gynrychiolwyr o'r cymunedau dall ac â nam ar eu golwg i drafod eu gofynion mynediad a'u hoffterau personol penodol o ran defnyddio'r cyfryngau. Siaradon ni hefyd am sut y gallem ni drosi themâu penodol o’r gwaith oedd yn dibynnu ar adrodd straeon gweledol i ffurf a fyddai’n canu cloch gyda chynulleidfa ddall neu â nam ar y golwg.

Gan roi'r ystyriaethau hyn ar waith, aed ati i gynllunio saethu'r ffilm ddawns fer gyda nifer o amrywiadau penodol, gan gynnwys saethu deunydd ychwanegol ar gyfer cyflwyniad gweledol/sain i'r dawnswyr, y gofod, y thema, y gwisgoedd a'r goleuo. Saethwyd mewn amrywiol fformatau i'w wneud yn hawdd ei drin wrth olygu. Er enghraifft roedd saethu mewn cydraniad uwch yn golygu fy mod yn gallu sicrhau bod modd addasu pellter saethiad heb orfod saethu ar nifer o bellteroedd gwahanol.

Ar ôl casglu'r deunydd, fe'i dangoswyd i'n cynrychiolwyr dall/â nam ar y golwg a chafwyd sgwrs am y ffordd orau i greu system fyddai'n caniatáu i'r gynulleidfa gael rheolaeth dros eu golygiad pwrpasol nhw o'r ffilm. Trafodwyd nifer o systemau sy'n bodoli eisoes i weld a allem ni eu haddasu i weithio ar gyfer y math hwn o lif gwaith, ond gwelwyd nad oedd dim byd yn cydweddu â darllenwyr sgrin ar hyn o bryd, sy’n golygu ei fod yn anhygyrch i'n cynulleidfa darged.

Yn lle hynny, penderfynais adeiladu prototeip o system y gellid ei datblygu ymhellach gyda rhagor o gyllid yn ddiweddarach. Roedd hwn ar ffurf gweffurf syml lle byddech chi'n gofyn am eich golygiad personol. Yna byddwn i'n ei roi at ei gilydd â llaw a'i uwchlwytho i'r defnyddiwr. Fe'i dosbarthwyd i'n cynrychiolwyr, a'i rhannodd ag aelodau eraill o'r gymuned i ofyn am gyfres o amrywiadau pwrpasol.  Anfonwyd ffurflen adborth i gasglu data ar ba mor llwyddiannus oedd y broses. Trefnon ni stondin yn nigwyddiad arddangos Clwstwr hefyd lle'r oedd pobl yn gallu gofyn am amrywiad ar y llawr a gweld sut roedd y broses yn gweithio.

Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?

Prif ganlyniad y prosiect oedd yr adborth a gawsom ar y cysyniad. Daeth y data'n ôl gydag ymateb hynod o gadarnhaol. Er nad oedd y system yn ddelfrydol, gan ei bod yn dal i gadw mynediad at y cynnwys y tu ôl i drydydd parti (yn yr achos hwn, fi'n rhoi'r golygiad at ei gilydd â llaw), roedd y gallu i gymryd perchnogaeth o olygiad gan wybod eich bod yn dal i gael fersiwn 'gwir' o ddarn o waith yn grymuso llawer o aelodau'r gynulleidfa.

Roedd hefyd yn ymddangos bod lle i ddatblygu'r cysyniad ymhellach i ddarparu ar gyfer amrywiadau hygyrchedd eraill, ond awydd hefyd i'r math hwn o system fod ar gael i bobl heb ofynion hygyrchedd penodol yn ogystal. Roedd yn dangos awydd ymhlith cynulleidfaoedd i gael mwy o reolaeth ar sut maent yn derbyn cynnwys, gan ddibynnu ar eu chwaeth, eu gofynion a'u hwyl ar y pryd. Os byddai ganddynt reolaeth dros y ffactorau hyn, byddent yn fwy tebygol o ymgysylltu â'r cynnwys yn hytrach na'i anwybyddu os nad oeddent yn teimlo ei fod yn arbennig o berthnasol.

I ble'r ewch chi nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?

Mae potensial y cysyniad yn enfawr. Wrth rwydweithio gyda phrosiectau Clwstwr eraill, roeddwn i'n gweld awydd tebyg am y dull hwn o weithio gyda chynnwys dan reolaeth y defnyddiwr, ac rwy'n teimlo bod y diwydiant yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw, yn enwedig trwy harneisio meddalwedd seiliedig ar AI i wneud y gwaith caled o gynhyrchu amrywiadau heb gyfraniad dynol.

Un o'r pethau mwyaf cadarnhaol a ddeilliodd o'r prosiect oedd gweld pa mor hawdd yw ymgorffori gwahanol opsiynau hygyrchedd mewn cynnyrch terfynol trwy eu hystyried ar ddechrau'r broses. Mae cymaint o opsiynau hygyrchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl gorffen y gwaith neu fel cyfaddawd. Gobeithio mai dim ond enghraifft fach yw hyn o sut y gall cwmnïau cynhyrchu ystyried y pethau hyn i wneud cynnwys cyfoethocach, mwy hygyrch heb gyfaddawdu.