Clwstwr Clecs: Dal i fyny'n gyflym gyda'n aelod o'r Garfan Adeola Dewis, Laku Neg

Helo Adeola! Sut byddech chi’n disgrifio’r hyn rydych chi’n ei wneud/eich busnes?

Sefydlais Laku Neg, cwmni sy’n cael ei redeg gan artistiaid sydd â diddordeb mewn rhannu gwybodaeth diaspora Affricanaidd – gan gofleidio a chysylltu hunaniaethau cyfoethog, lluosog artistiaid diaspora Affricanaidd. Wedi'i leoli yn y DU ond gyda'i gartref ar-lein, mae Laku Neg yn darparu un pwynt cyfeirio ar gyfer y rhai sy'n dymuno ymgysylltu ag artistiaid Affricanaidd a diaspora Affricanaidd, neu ddeall mwy amdanynt, a'i gymhwyso i'w gwaith, addysg neu sefydliad.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?

Cefais wybod am gyllid Clwstwr dros ebost, ac yna gwnes gais gyda syniad. Roeddem eisiau cynnal ymchwiliad i blatfform ar gyfer ein cwmni newydd Laku Neg, i gasglu a rhannu straeon o Affrica brodorol a ledled y byd ar y sgrîn.

Roeddem yn awyddus i ddysgu sut i osgoi natur echdynnol dogfennaeth ymchwil wrth gynnal a chyflwyno ein straeon, sut i fesur ymgysylltiad, gwerth ac effaith y straeon a sut i adeiladu sianel glyweledol gynaliadwy o ddeunydd archif. Roedd ein cais yn llwyddiannus; cawsom ddyfarniad o £8950 mewn cyllid.

Beth oeddech chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer eich prosiect Clwstwr?

Nod y prosiect oedd deall yn well - trwy gyfres o brototeipiau cyfweliad - y ffyrdd y gellir plethu gofal ac asiantaeth wrth adrodd straeon bywyd, gan roi sylw arbennig ar ffurf, cynnwys a chynaliadwyedd.

Roedd gennym gwestiynau canolog yr oeddem am eu harchwilio i wella ein gwaith yn Laku Neg. Y rhain oedd: Beth yw lle diogel? Sut ydyn ni'n cyfleu profiadau byw yn ystyrlon ac yn sensitif? Beth yw’r strategaethau ar gyfer ennill ymddiriedaeth ac ymgysylltu â ffurfiau diwylliannol fel ffordd o gefnogi a chynnal llesiant a gwytnwch? Roedd gennym ddiddordeb mewn archwilio ffyrdd o ymgorffori grymuso, cynwysoldeb ac asiantaeth yn ein prosesau gweithio a modelau ymgysylltu. 

Pa broses wnaethoch chi ei defnyddio i gyflawni eich prosiect Clwstwr, fesul cam?
Fe wnaethom gynnal adolygiad cwmpasu o sianeli ar-lein sy'n gwneud gwaith tebyg i ni. Yna, fe wnaethom gychwyn cyswllt a chynnal sgyrsiau rhagarweiniol gyda chyfranwyr/cyfweleion posibl er mwyn drafftio systemau ymgysylltu. Cynhaliwyd y cyfweliadau lle’r oedd y cyfranogwyr yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ac mewn mannau a oedd yn ystyrlon i’r ffyrdd yr oeddent am adrodd eu stori.

Ar ôl hynny, fe wnaethom ddatblygu cyfres o Laku Neg Whispering gyda Phrif Weithredwyr sefydliadau tebyg sydd wedi datblygu modelau cyflwyno cynnwys pwrpasol. Buom hefyd yn gweithio ar y ffurflen a’r platfform (YouTube) ar gyfer y cynnwys yr ydym am ei arddangos, gan gynnwys brandio ein sianel YouTube, creu tudalen glawr cryf a fideo hyrwyddo.  Yn olaf, fe wnaethom rannu prototeip gyda chyfranwyr ac ysgrifennu ein hadroddiad.

Beth oedd canlyniadau eich ymchwil?

Roeddem yn gobeithio datblygu arddull nodweddiadol ar gyfer brand Laku Neg o ran cynnal, cynhyrchu a rhannu cyfweliadau, yn ogystal ag archwilio gwahanol ddulliau o gydgynhyrchu. Erbyn diwedd ein prosiect, roeddem wedi cynhyrchu 'agoriad' ar gyfer y cyfweliadau fideo, wedi creu tri chyfweliad fideo llawn gydag artistiaid rhyngwladol o Frasil, Belize a'r Deyrnas Unedig ac wedi gwella ein dealltwriaeth o ddulliau cyfweld llai echdynnol.

Beth ydych chi'n meddwl bydd eich cam nesaf, ar ôl cynnal yr Ymchwil a Datblygu?

Mae Laku Neg ar hyn o bryd mewn ymgynghoriad â chynghorydd marchnata ar-lein a chynghorydd busnes. Rydym yn gweithio tuag at siapio ein syniadau cynnwys yn unol ag anghenion ein cwsmeriaid.