Lewnah

Cwmni cynhyrchu yw Lewnah a gaiff ei redeg gan Lewis Vaughan Jones a'i wraig Hannah. Darllenwyr newyddion yw Lewis a Hannah, ar gyfer CNN a'r BBC yn y drefn honno. Pan na fyddan nhw ar yr awyr neu'n gweithio ar straeon i bobl eraill, maen nhw'n gwneud gwaith ymgynghori a phrosiectau ar y newyddion a'r cyfryngau i'w cwmni.

Ysbrydolwyd ein prosiect Clwstwr gan y ffordd y bu plant yn derbyn newyddion am y pandemig.
Pan oedd COVID ar ei anterth, sylwon ni fod lawer o rieni yn cael sgyrsiau gyda'u plant, yn ceisio esbonio iddyn nhw am y germau y tu allan a pham nad ydyn nhw'n gallu gweld eu ffrindiau. Roedd yn enghraifft glir o stori newyddion na allai plant iau ei hosgoi, sy'n gymharol anarferol. Gyda phlant yn defnyddio ffonau clyfar, cyfryngau cymdeithasol a chysylltedd digidol yn ifancach, maen nhw'n cael eu hamlygu’n gynyddol i'r newyddion, p'un a ydyn nhw a'u rhieni'n hoffi hynny ai peidio.

Bu Hannah yn creu blogiau fideo yn rheolaidd i'w merch fedydd chwe blwydd oed, gan rannu esboniadau syml i'w helpu i ddeall beth oedd yn digwydd yn y pandemig. Dim ond fideos o Hannah yn siarad â'r camera oedd y rhain, dim byd arbennig, ond dyma'r hedyn a dyfodd i greu ein taith Clwstwr.

Gyda'n cefndir newyddiadurol, aethom ni ati i feddwl am y bwlch mewn newyddion i blant.

Roedden ni am edrych sut y gallai rhywun ddarparu gwasanaeth newyddion i blant ifanc sy'n briodol i'w hoed ac yn briodol yn seicolegol.  Mae Newsround yn gwneud yr hyn mae'n ei wneud yn wych, ond ar y cyfan plant o wyth oed i fyny sy'n ei wylio. Roedden ni am ganolbwyntio ar blant sydd ar fin dechrau ysgol gynradd neu sydd yna'n barod, felly rhwng 4 a 7 oed.

Meddylion ni am syniad, heb wybod a fyddai'n ymarferol ai peidio.

Ein syniad oedd cyfuno'r hyn mae plant ifanc yn ei wylio (cartwnau a straeon doniol, hwyliog) gyda'r hyn rydyn ni'n ei wneud h.y. newyddion teledu gyda lluniau. Roedden ni'n meddwl y gallai fod yn rhaglen sy'n cyfuno'r lluniau fyddech chi'n eu gweld ar y newyddion gyda'r nos â chast o gymeriadau pant fyddai'n adrodd y stori mewn ffordd hwyliog, ddifyr ac addysgiadol.

Cyflwynon ni ein dau brif gwestiwn i Clwstwr, gan obeithio y bydden nhw'n ein cyllido i ymchwilio'r atebion.

Roedd y cwestiwn cyntaf yn un moesegol, seicolegol: ydi hi'n iawn ceisio cyflwyno newyddion i blant 4-7 oed?

Roedd yr ail yn fwy technegol: a fyddai’n bosib cyfuno lluniau newyddion â byd cymeriad animeiddiedig, yn enwedig dan gyfyngiadau amser tynn? Yn ffodus, penderfynodd Clwstwr roi'r cyllid oedd ei angen i ni ddechrau chwilio am atebion. Rhannwyd yr ymchwil yn ddau gam i adlewyrchu'r ddau gwestiwn mawr.

Dechreuon ni gam un trwy holi arbenigwyr am effaith seicolegol newyddion ar blant.

Er mwyn cael sylfaen academaidd ar gyfer yr ymchwil, roedden ni am gynnal ein cyfweliadau a'n harolygon ein hunain gydag arbenigwyr. Aethon ni ati i gasglu seicolegwyr ac academyddion o bob cwr o'r byd i'w holi a oes unrhyw broblemau'n codi pan fydd plant yn derbyn newyddion. Yn rhyfeddol, eu barn nhw oedd nad oedd unrhyw reswm sylfaenol pam na ellid cael gwasanaeth newyddion i'r grŵp oedran hwnnw. Yn fwy na hynny, roedd rhai'n frwdfrydig iawn am y syniad o gael un. Dyna ochenaid fawr o ryddhad; roedd yn golygu ein bod yn gallu parhau ac roedd yn sbardun i'n brwdfrydedd.

Nesaf, cynhalion ni arolygon gydag athrawon ysgol gynradd ac eraill sy'n ymwneud ag addysgu plant.

Roedden ni am wybod sut maen nhw'n siarad gyda phlant am ddigwyddiadau newyddion mawr, a pha adnoddau maen nhw'n eu defnyddio i wneud hynny. Holon ni nhw am yr iaith briodol i'w defnyddio, oherwydd mae llawer o hyn yn ymwneud â chyd-destun a fframio. Mae'r iaith rydych chi'n ei defnyddio a'r cyd-destun rydych chi'n rhoi pethau ynddo i geisio eu hegluro'n bwysig iawn i blant. Mae gan athrawon gyfrifoldeb enfawr a llawer o brofiad yn yr union faes hwn, felly cawsom ni lwyth o adborth diddorol iawn am y ffordd maen nhw'n trafod y newyddion.

Un o'r canfyddiadau diddorol oedd faint o amser roedden nhw'n ei dreulio yn y dosbarth yn ateb cwestiynau gan y plant oedd wedi clywed rhywbeth ar y newyddion. Cawsom ni ymdeimlad cryf gan y grŵp oedran hwnnw na fydden ni'n gwneud dim byd anghyfforddus, gan na fydden ni'n cyflwyno'r cwestiynau a'r pynciau newyddion hyn i grŵp oedran nad yw eisoes yn siarad amdanyn nhw. Doedden ni ddim yn dymuno amlygu plant i newyddion am y tro cyntaf. Rydyn ni'n gwybod nawr na fyddwn ni'n gwneud hynny.

Y trydydd peth wnaethon ni oedd siarad gyda rhieni am y rhaglenni mae eu plant yn eu gwylio.

Mae gennym ni restr o raglenni teledu gwych, a doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddim byd i'w wneud â'r newyddion neu faterion cyfoes, ac fe ddysgon ni fwy am arferion gwylio plant. Roedden ni am wybod beth fyddai'n eu hannog i gyd-wylio rhaglen, oherwydd rydyn ni am i rieni a'u plant wylio ein sioe gyda'i gilydd.

Dywedodd y rhieni eu bod wrth eu bodd yn dysgu rhywbeth o raglen mewn gwirionedd. Hefyd, dywedon nhw eu bod yn hoffi cyd-wylio'r rhaglenni sydd â llinellau doniol i oedolion, ac nid i'r plant yn unig – sioeau lle mae’r sgriptwyr yn cynnwys jôcs wedi'u hanelu'n fwriadol at y rhieni na fydd y plant yn eu deall. Doedden ni ddim wedi ystyried hynny o gwbl.

Roedd ail gam yr ymchwil yn canolbwyntio ar elfen dechnegol creu'r sioe.

Erbyn y pwynt hwn, roedden ni'n gwybod ein bod am greu sioe a allai gyflwyno'r newyddion mewn ffordd hwyliog a difyr gan gyfuno animeiddio â lluniau newyddion. Cafwyd sawl sgwrs am sut i fynd ati i gyfuno'r ddau. Roedden ni'n hoffi'r syniad o gael lluniau newyddion yn nhraean canol y sioe, gyda chymeriadau cartŵn yn rhyngweithio â hyn mewn ffordd hwyliog ond sensitif.

Cyflwynon ni'r syniad i Picl, cwmni cynhyrchu animeiddio yn ne Cymru. Roedden nhw'n frwd iawn drosto ac yn meddwl ei fod yn bosib yn dechnegol. Felly dechreuon ni'r broses o feddwl pa fath o gymeriadau fyddai'n gweithio; roedd angen iddyn nhw fod ag awdurdod i ddweud y newyddion mewn ffordd hwyliog, ond roedd angen iddyn nhw fod yn gost-effeithiol i'w creu hefyd. Edrychon ni ar lawer o ffyrdd o gyfuno animeiddio cartŵn gyda lluniau newyddion go iawn, gan greu byd cyfunol gyda chymeriadau difyr. Cymerodd y broses nôl a mlaen a phenderfynu lawer o amser am fod cynifer o opsiynau. Roedd y cyfan yn newydd i ni gan nad oedden ni wedi gweithio gydag animeiddwyr o’r blaen.

Daethon i ben ein hymchwil gydag ymdeimlad o gyffro a brwdfrydedd i barhau.

Rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych am fwy o gyllid i fynd â'r ymchwil a datblygu i'r cam nesaf. Os byddwn ni'n llwyddo i'w gael, byddwn yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i ddatrysiad technegol i gynhyrchu rhaglen gyda gwerth cynhyrchu mor uchel mewn byr amser. Byddwn hefyd yn parhau â'r ymchwil academaidd, ond yn fwy manwl, a byddwn yn cysylltu'n rheolaidd gyda phanel o addysgwyr, rhieni a seicolegwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau'n iawn.