Ynghylch Linus Harrison

Entrepreneur a swyddog prosiect yn y trydydd sector yw Linus Harrison, ac mae ganddo brofiad helaeth o gefnogi pobl niwroamrywiol.  

Yn aml, mae newyddion yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n anodd i bobl niwroamrywiol ei phrosesu.

Yn ogystal â bod yn feddyliwr gweledol niwroamrywiol fy hun, rydw i wedi gweithio gyda llawer o bobl niwroamrywiol a phobl y mae'n well ganddyn nhw strwythuro pethau'n weledol. Mae rhai o'r bobl hyn yn elwa o ddull cyfathrebu TEACCH, sef dull â ffocws ar awtistiaeth sy'n defnyddio iaith a strwythur gweledol i gefnogi dysgwyr gweledol. I lawer o bobl, fel pobl di-eiriau neu bobl nad ydynt yn gallu darllen neu brosesu blociau testun yn hawdd, mae angen i bethau gael eu harddangos mewn ffordd weledol. Gan fod straeon newyddion ar-lein ac mewn print yn aml yn cynnwys geiriau yn bennaf a diffyg iaith weledol, mae hyn yn anodd i lawer o bobl. 

Roeddwn i wedi bod yn meddwl am sut i gyflwyno newyddion am sbel pan welais i alwad agored Clwstwr

Pan welais i’r cyfle i wneud cais am gyllid ar gyfer ymchwil, fe wnes i gais am gyllid sbarduno i archwilio a oes modd darparu newyddion mewn ffordd fwy gweledol. Roeddwn i eisiau gweld a fyddwn i’n gallu dweud stori newyddion gyda chymaint o iaith weledol â phosibl, a chyn lleied o eiriau â phosibl. Roedd fy nghais yn llwyddiannus. Cefais oddeutu £12,000 (gan gynnwys arian cyfatebol) i gynnal yr ymchwil.

Dechreuais fy mhrosiect drwy ymchwilio i ffyrdd gweledol o feddwl a chyflwyno newyddion

Defnyddiais fodel Diemwnt Dwbl y Cyngor Dylunio, sydd â phedwar cam: darganfod, diffinio, datblygu a chyflwyno. Yn gyntaf, fe wnes i gasglu llawer o adnoddau at ei gilydd ynglŷn â’r pynciau. Cefais fy llethu gan lawer ohono; roedd cymaint o wybodaeth nad oeddwn i’n gwybod lle i ddechrau. Er mwyn ffocysu’n well, fe wnes i ganolbwyntio ar y wybodaeth a oedd fwyaf perthnasol i'r hyn roeddwn i’n ei wneud. 

Fe wnes i ddod o hyd i rai adnoddau diddorol wrth wneud hynny. Er enghraifft, mae yna sefydliad yn America sy'n addysgu mathemateg heb ddefnyddio geiriau. Dysgais hefyd am ddulliau cyfathrebu eraill ar gyfer pobl niwroamrywiol. Dangosodd hyn i mi fod meddwl gweledol ac iaith weledol yn gallu bod yn ddefnyddiol i lawer o bobl ar wahanol adegau. 

Wedyn, gofynnais i grŵp ymchwil am eu profiadau o ddefnyddio ffyrdd gweledol o feddwl a dysgu

Roedd y grŵp ymchwil yn cynnwys pobl niwronodweddiadol, meddylwyr gweledol, pobl a oedd yn cwestiynu a oeddent yn bobl niwroamrywiol, pobl fyddar a oedd yn dibynnu ar iaith weledol, a phobl niwroamrywiol.

Drwy gwestiynau a sgyrsiau, fe wnes i archwilio sut maen nhw'n meddwl, sut maen nhw'n prosesu gwybodaeth, a beth sydd bwysicaf iddyn nhw wrth gyfathrebu. Dangosais ddulliau cyfathrebu gweledol iddyn nhw, fel posteri iechyd a diogelwch. Dangosais hefyd erthyglau newyddion iddyn nhw – erthyglau newyddion safonol a rhai a oedd yn cynnwys mwy o ffotograffau. 

Fe wnes i gasglu’r adborth at ei gilydd a'i ddefnyddio i lywio'r cam nesaf: gwneud prototeip

Gyda'r nod o gynhyrchu ffordd fwy gweledol o gyflwyno stori newyddion, fe wnes i ystyried y rôl sydd gan wahanol rannau o erthygl newyddion. Roeddwn i'n ymwybodol o'r ffaith bod llawer o luniau yn y newyddion, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli tan hynny sut mae'r cyd-destun i gyd yn y geiriau. Pe bai gennych chi’r lluniau yn unig a dim byd arall, ni fyddai hynny o reidrwydd yn rhoi’r stori lawn. Mae hyn yn arbennig o wir os oes dwy garfan wahanol yn gysylltiedig â rhywbeth - sut byddech chi'n rhoi stori yn ei chyd-destun gyda delweddau yn unig? 

Ar gyfer y prototeip, dewisais stori am boicot ar y cyfryngau cymdeithasol mewn ymateb i hiliaeth mewn pêl-droed 

Roedd yn ymddangos fel stori dda i'w dewis am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae boicot ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth nad oeddwn i’n meddwl y byddai’n hawdd ei gyfleu mewn ffordd weledol gan ei fod yn digwydd ar-lein heb ddelweddau amlwg o le, digwyddiad na sefyllfa. Roeddwn i'n teimlo pe bawn i’n gallu cyfleu cysyniad fel hynny mewn lluniau, byddai hynny'n ddechrau da. Yn ail, ychydig iawn roeddwn i’n ei wybod am bêl-droed, ac nid oedd gan y bobl yn fy ngrŵp ymchwil ddiddordeb arbennig mewn pêl-droed chwaith, felly nid oedd ganddyn nhw wybodaeth flaenorol am y stori. 

Gyda ffynonellau o'r BBC a’r Guardian, tynnais wybodaeth o'r testunau

Wrth wneud hynny, sylwais nad oedd rhai mathau o iaith weledol yn bresennol. Roedd yr elfennau coll hyn yn dangos i mi beth roedd angen i mi ei gynnwys yn fy stori weledol. Er enghraifft, roedd blociau hir o destun, yn hytrach na darnau llai sy’n haws eu darllen, felly yn fy fersiwn i fe wnes i dorri pethau i lawr mewn blychau i wneud y wybodaeth yn llai llethol ac yn haws ei deall. 

Fe wnes i ddidoli elfennau o'r stori yn grwpiau yn seiliedig ar y cynnwys 

Mae llawer o erthyglau newyddion yn cymysgu'r wybodaeth; efallai y byddwch chi’n cael pennawd, ychydig o gyd-destun, yna mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd nawr, yna ychydig mwy o gyd-destun, dyfyniad gan rywun ar y dechrau sydd wedyn yn cael ei ddyfynnu ymhellach i lawr, ac yn y blaen. Er mwyn rhoi trefn ar hyn, roeddwn i’n rhannu ac yn gosod pethau allan gan ddefnyddio is-benawdau priodol, felly roedd pobl yn gallu gweld pethau yn eu cyd-destun a chanolbwyntio'n llwyr ar yr hyn roeddwn nhw am ei wybod. 

Ystyriais hefyd sut mae delweddau’n cael eu trin a sut mae lliw’n cael ei ddefnyddio

Weithiau, mae'r lluniau o bobl sy’n cael eu defnyddio mewn straeon newyddion yn aneglur i'r darllenydd, oni bai bod y darllenydd eisoes yn gwybod pwy yw'r person yn y llun. Meddyliwch am newyddion gwleidyddol, er enghraifft. Mae'r gwleidyddion yn y lluniau’n dueddol o fod yn ddynion gwyn hŷn mewn siwtiau. Mae'n hawdd i bobl ddrysu rhwng un gwleidydd a’r llall, oni bai eu bod yn darllen y cyd-destun. Gallem ddefnyddio iaith weledol i nodi pa blaid y mae'r person yn y llun neu’r person sy’n cael ei ddyfynnu yn aelod ohoni, efallai drwy argraffu'r testun yn lliw'r blaid berthnasol, neu roi logo'r blaid wrth ymyl dyfyniadau. 

Yn yr erthygl hon am bêl-droed, defnyddiais luniau o'r bobl sy'n cael eu dyfynnu. Defnyddiais logos y cwmnïau a oedd yn cynnal y boicot, y Gymdeithas Bêl-droed, a'r cwmnïau a oedd yn destun y boicot. Defnyddiais wahanol liwiau hefyd i wahanu'r testun, gan ddangos pa blaid oedd yn cael ei thrafod drwy ddefnyddio lliw’r blaid ar gyfer y testun. Nid oedd y rhan fwyaf o'r bobl y siaradais â nhw yn hoff iawn o ddelweddau cartŵn o bobl, yn enwedig cartwnau heb wynebau, felly fe wnes i osgoi eu defnyddio. 

Roedd yr ymateb i'm prototeip yn galonogol iawn

Yn gyffredinol, o bobl niwronodweddiadol i bobl niwroamrywiol, roedd y grŵp ymchwil o’r farn bod fy stori newyddion weledol yn llawer cliriach na'r fersiwn â thestun yn unig. Fe wnaethon nhw ddeall llawer mwy o wybodaeth a chyd-destun. Roedd pobl yn gwerthfawrogi’r ffaith, er bod pethau'n gliriach, nad oedd y cynnwys wedi cael ei symleiddio. Roeddwn i’n falch o hyn. Doeddwn i ddim eisiau cymryd erthygl gymhleth a'i lleihau i rywbeth a oedd yn rhy syml; roeddwn i eisiau cadw’r ffeithiau allweddol heb orlwytho’r darllenydd gyda gormod o wybodaeth. 

Rwy'n agored i wneud mwy o waith ymchwil a datblygu ynghylch y pwnc hwn

Yn dilyn y prosiect, mae'r canfyddiadau wedi dylanwadu ar bethau eraill rydw i wedi'u gwneud. Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ymchwil, gan gynnwys un a ddechreuais sy’n ymwneud â dulliau cyhoeddi niwroamrywiol. Rwy’n edrych ar ba mor dda y mae llyfrau a chyfryngau cyhoeddedig eraill yn diwallu anghenion pobl niwroamrywiol. 

Mae cyflwyno newyddion mewn ffyrdd mwy gweledol yn faes diddorol iawn sy'n taro tant gyda llawer o bobl yn ôl pob golwg. Pe bawn i'n ymchwilio ymhellach, hoffwn i weld beth fyddai'r canlyniadau pe bai gen i grŵp llawer mwy o bobl sydd â ffyrdd gwahanol o feddwl.