Shwmae Suzanne. Sut byddech chi'n disgrifio'ch busnes a’r hyn mae'n ei wneud?  

Rydym yn gwmni teledu, ffilm a’r cyfryngau sy'n creu cynnwys sy'n cynnig persbectif gwahanol.

Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?

Gwelsom hysbyseb amdano, felly gwnaethom ymateb i gael rhagor o wybodaeth.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?

Roeddwn wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau digartrefedd gan ddefnyddio therapi drama i godi ymwybyddiaeth o achosion digartrefedd. Roeddem hefyd wedi bod yn creu cynnwys ar gyfer yr Hyb Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus sy'n seiliedig ar drawma. Y maes cyntaf y gwnaethant ganolbwyntio arno oedd y gwasanaethau tai. Gwnaethant ddechrau’r trawsnewidiad gan hyfforddi sefydliadau a staff ar draws yr holl sefydliadau tai a digartrefedd.

Esboniwch yr hyn yr oeddech yn bwriadu ei wneud yn eich cais

Roeddwn i'n gallu gweld bod angen hyfforddi llawer o sefydliadau'n gyflym iawn – rhywbeth y byddai angen llawer o adnoddau i'w wneud. Roeddwn i’n gwybod, o ymchwilio i ddulliau hyfforddi effeithiol, mai dim ond 4% o’r wybodaeth sy’n cael ei chofio drwy’r dull hyfforddi ‘nodi a siarad’ arferol. O fy ngwaith theatr, roeddwn yn gwybod bod cael pobl i ymgolli yn y broses yn llawer mwy effeithiol.

At hynny, o archwilio’r sector gemau ac apiau ar-lein yng Ngŵyl Games For Change yn Efrog Newydd, dysgais am enghreifftiau o hyfforddiant rhyngweithiol a thrafodaethau byw mewn ystod o brofiadau. Gwnaeth i mi feddwl sut, pe bai gêm ddigidol bwrpasol llawn gwybodaeth y gallai’r holl staff perthnasol ei chwarae fel hyfforddiant, byddai pawb sydd wedi chwarae yn canu o’r un llyfr emynau o ran sut olwg sydd ar wasanaeth wedi’i lywio gan drawma. Felly, gwnaethom gais i Clwstwr am gyllid i weld sut y gallem ddatblygu’r syniadau hyn.

Faint o gyllid gawsoch chi?

I ddechrau, cawsom arian sbarduno i asesu a oedd y syniad yn ymarferol. Yn ddiweddarach cawsom £50,000 ychwanegol i'w gael i gynnyrch dichonol lleiaf posibl.

Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid

Ar ôl mynd i’r Ŵyl Games For Change, bûm yn siarad ag amrywiaeth o wasanaethau tai i asesu’r galw a gweld a oedd y prosiect o ddiddordeb iddynt – roedd o ddiddordeb iddynt.

Wedi’i hysbrydoli gan y potensial, daethom ag Elin Festoy draw o Ddenmarc i wneud dosbarth meistr ym Mhrifysgol De Cymru. Enillodd BAFTA am ei ap My Child Lebensborn, a oedd yn cyfuno digwyddiad hanesyddol yn Nenmarc â gêm, lle'r oedd y gêm yn cynnwys cadw plentyn mabwysiedig yn fyw ac yn iach. Yn y dosbarth meistr, soniodd am ddatblygiad ac ymchwil a sut y cyfunodd adnoddau gyda stiwdio ddigidol i gynhyrchu’r ap, a werthwyd ledled y byd. Soniodd am y problemau oedd ganddi a'r buddsoddiad sydd ei angen i wireddu’r ap.

Yn dilyn hyn, gweithiais mewn partneriaeth â sefydliad o’r enw Platfform, yr oedd ei bennaeth gweithrediadau yn deall y rôl y gallai’r hyfforddiant ei chwarae. Gwnaethom benderfynu mai gêm o’r fath fyddai orau ar gyfer pobl sydd newydd ddechrau gweithio yn y sector, a allai ei defnyddio yn y porth hyfforddi ac ochr yn ochr ag arferion myfyriol presennol. Er mwyn ei gwneud yn arloesol ac yn drylwyr, roeddem am iddi fod yn bosibl cyfnewid rolau, fel y gallai'r defnyddiwr chwarae fel y gweithiwr cymorth ac fel yr unigolyn sy'n cael cymorth.

Er mwyn cael syniad o sut y gallai'r gêm gael ei chwarae, gwnaethon fapio senario a thri ymateb posib. Gyda’n cyd-ymchwilydd Rich Hurford, bûm yn gweithio gyda chynfyfyriwr o Brifysgol De Cymru i greu bwrdd Miro o ymatebion a datrys rhai o’r problemau. Profais y gêm ar gardiau gyda grŵp o staff o Platfform, a arweiniodd at sgyrsiau manwl.

Rhoddais gynnig ar ychydig o stiwdios digidol, ond roedd naill ai dim diddordeb ganddynt neu roeddent am godi gormod i gynhyrchu'r MVP. Cysylltodd Greg, ein cynhyrchydd ni, ag E-Hyfforddwr, a oedd ag enw rhagorol am roi hyfforddiant ar-lein. Roedd yn addas iawn a gwnaethom gynhyrchu fersiwn ar-lein o'r gêm gan ddefnyddio mewnosodiadau wedi'u ffilmio.

Gwnaethom brofi'r gêm gyda phum sefydliad gwahanol, gan gyrraedd dros 80 o bobl. Cawsom ymatebion da, gyda 90% yn cytuno yr hoffent gael adnodd fel hwn. Gweithiais gyda Platfform i fapio sut y gallai'r adnodd gyd-fynd â’u porth, gyda newidiadau pwrpasol ychwanegol a phaneli gwybodaeth, a buom yn trafod codi arian i wireddu'r gêm yn llawn.

Beth fyddech chi'n ei ddweud oedd prif ganlyniadau'r ymchwil a datblygu?

Gwnaethom greu cynnyrch dichonol lleiaf posibl gydag E-Hyfforddwr, o'r enw Empathi, a chawsom adborth a mewnwelediadau gwerthfawr gan ddefnyddwyr. Roedd pawb yn hoffi'r set a'r stori, ond yn teimlo bod angen mwy o ddewisiadau. Roedd eraill eisiau llwybr mwy cymhleth trwy'r gêm. Cyflwynodd y diddordeb a'r adborth cadarnhaol y syniad o gael senarios bach, ychwanegol, hefyd.

Beth ydych chi'n meddwl fydd eich cam nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?

Credwn fod gan hyfforddiant rhyngweithiol ar-lein botensial enfawr heb ei gyffwrdd. Yr hyn sy’n allweddol yw ei gadw'n benodol ac yn syml. Rydym yn archwilio agweddau eraill gyda chyllid sbarduno Media Cymru, gan adeiladu ar y profiad a gafwyd drwy Clwstwr.