Nod y Prosiect
![Bomper logo](/sites/default/files/inline-images/Bomper%20Studio_RGB.png)
Mae’r sectorau hysbysebu a manwerthu yn wynebu cyfnod o darfu sylweddol o ganlyniad i dechnoleg modern a disgwyliadau newidiol defnyddwyr. Drwy ddefnyddio eu talent ar gyfer dweud stori a delweddu, a manteisio ar dechnoleg amser real gyda phartner yn y sector gemau, bydd Bomper yn gwneud Ymchwil a Datblygu gyda’r nod o ffurfweddu cynnyrch amser real. Y nod yw codi meincnod y diwydiant ar gyfer cynnwys creadigol a phrofiad y cwsmer; gan greu platfform ar-lein sy’n arwain y byd.
![Bomper team](/sites/default/files/inline-images/Bomper_ClwstwrBW.jpg)