Mae’r pandemig byd-eang presennol wedi cael effaith sylweddol ar lawer o’r ffyrdd rydym yn byw ac yn gweithio. Yn syml, nid yw ‘busnes fel arfer’ yn bodoli ar hyn o bryd ac, o ganlyniad, rydym yn gweld cannoedd o ddatblygiadau arloesol ledled y byd yn helpu, yn newid ac yn addasu busnesau i fywyd lle ceir cyfyngiadau symud, fel y gallwn ddatblygu a chyflawni ffyrdd newydd o weithio.
Gyda’r cyfyngiadau symud yn rhoi terfyn ar weithgareddau cynhyrchu arferol, a’r niferoedd sy’n gwylio cynnwys ar ei uchaf erioed, sut mae darlledwyr wedi arloesi?
Wrth i ddarlledwyr ledled y byd addasu, newid a datblygu ffyrdd newydd o weithio oherwydd bod yn rhaid iddynt mewn ymateb i gyfyngiadau symud COVID-19.
Edrychwn ar y sianel Gymraeg S4C wrth iddynt hyrwyddo arferion gweithio o bell, comisiynau cyflym a chynhyrchu o bell.
Gweithio o bell
Roedd S4C eisoes yn gyfarwydd â gweithio hyblyg ac ar-lein gyda’r staff yn gweithio ar draws tri lleoliad. Roedd llawer o weithwyr eisoes yn gweithio o bell neu o fwy nag un swyddfa. Felly, roedd addasu i weithio o gartref yn ystod y cyfyngiadau symud yn llai o sioc i’r busnes ac i’r timau yn S4C, gan eu galluogi nhw i fynd amdani’n syth.
“Cynhaliom ‘brawf straen’ llawn ar ein system ddydd Gwener 13 Mawrth,” esboniodd y Prif Swyddog Gweithredu, Elin Morris. “Er ein bod ni’n gyfarwydd ag aelodau amrywiol o staff yn defnyddio ein gweinyddion o bell, roeddem am weld beth fyddai’n digwydd pe bai pawb yn gwneud hynny ar yr un pryd. Creodd ein hadran TG ail gysylltiad VPN (Rhwydwaith Preifat Rhithwir) i fod yn wydn, ac ni chafwyd trafferthion. Pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym, roedd y newid yn weddol syml.”
Er gwaethaf hyn, yn debyg i nifer o sianeli a darlledwyr eraill, maen nhw wedi wynebu rhai heriau sylweddol o ran amserlennu, rhaglennu a chomisiynu.
Comisiynu yn ystod COVID-19
Oherwydd nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd, gan gynnwys chwaraeon, yn cael eu canslo neu eu gohirio, a chynyrchiadau eraill yn cael eu hatal dros dro oherwydd COVID-19, mae S4C wedi gorfod ailddychmygu ei hamserlen. Mewn ymateb i hyn ac i gefnogi’r sector creadigol, fe lansiodd S4C dwy rownd gomisiynu gyflym a welodd rhaglennu newydd, gan gynnwys drama Cyswllt (mewn Covid) yn rhan o’r amserlen o ddiwedd mis Ebrill.
Cyswllt (mewn Covid)
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae wedi bod yn her sylweddol i gadw amserlen lawn ar y sgrîn wrth i gyfresi a digwyddiadau sy’n gonglfeini’r amserlen fethu cyflawni yn ystod y cyfnod hwn oherwydd rhesymau amlwg.
“Gadawyd bylchau gwag i’w llenwi yn yr amserlen yn sgil colli’r oriau o raglenni sebon, drama, chwaraeon a digwyddiadau. Erbyn hyn, bydd modd i wylwyr fwynhau ystod eang o raglenni sy’n ymateb i sefyllfa’r Coronafeirws.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cwmnïau cynhyrchu sydd wedi bod yn hynod ddyfeisgar wrth ymateb i’n galwad, gyda’r nod o droi syniadau creadigol i gynnwys perthnasol ac o safon uchel, a hynny o fewn amserlen hynod dynn.”
Mae’r rownd gomisiynu gyflym wedi ein gorfodi i ganolbwyntio ar gynnwys testunol y bydd cynulleidfaoedd yn uniaethu â nhw yn ystod y cyfyngiadau symud. Cafwyd mwy na chant o syniadau gan gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru o fewn ychydig ddiwrnodau o gyflwyno’r alwad, ac mae’r cynnwys a gomisiynwyd yn cynnwys Priodas Dan Glo, gan y cwmni cynhyrchu Boom Cymru, a fydd yn edrych ar briodas a drefnwyd yn ystod y cyfyngiadau symudol a Cyswllt (mewn Covid), sef drama gan Vox Pictures sydd hefyd yn cynhyrchu Un Bore Mercher/ Keeping Faith. Mae’r ddrama dair rhan hon yn adlewyrchu bywyd dros dair wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud, ac yn trafod unigrwydd a gobaith y cyfnod rhyfedd hwn wrth i’r pandemig effeithio ar bob cenhedlaeth. Mae modd gwylio pob rhaglen Cyswllt (mewn Covid) ar S4C clic.
Cyswllt (mewn Covid)
Cynnyrch arloesol
Mae sicrhau bod S4C yn parhau i ddysgu cynulleidfaoedd a rhoi gwybodaeth iddynt yn ystod y cyfyngiadau symud wedi annog nifer o gwmnïau cynhyrchu i greu cynnwys ar gyfer S4C. Un o enghreifftiau mwyaf S4C o gynhyrchu yn ystod pandemig yw rhaglen ffitrwydd S4C, FfITCymru. Er bod y cwmni cynhyrchu Cwmni Da wedi dechrau cynhyrchu cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym, addasodd y broses gynhyrchu, strwythur y rhaglen a’r cynnwys, a chynhyrchodd y gyfres gyfan o bellter mewn ychydig wythnosau yn unig.
Ffit Cymru
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar unigolion yn colli pwysau gyda chymorth tîm o weithwyr proffesiynol – hyfforddwr ffitrwydd, dietegydd a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i gynorthwyo’r ochr les. Mae natur berthnasol y rhaglen, yn ystod cyfnod lle mae pawb yn ceisio cadw’n heini a chynnal eu lles yn eu cartrefi eu hunain, wedi golygu bod y fformat yn llwyddo. Sut y gwnaed hyn?
• Datblygu sgiliau a thechnoleg Rhoddwyd iPhone 7 i bob aelod o’r cast i recordio’r cynnwys, ac anfonwyd tiwtorialau iddynt yn dangos y ffordd orau i ffilmio eu cyfraniad, gan gynnwys canllawiau o ran goleuadau.
• Cyfathrebu: Cadwyd at amserlen y rhaglen drwy gyfathrebu’n rheolaidd, a’r Cynhyrchydd oedd yn rheoli hyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys Cwmni Da, Llion Iwan wrth gylchgrawn Broadcast: “Mae’r cipolwg a gewch ar fywydau pobl yn wych. Mae pobl yn siarad lawer yn fwy agored o flaen eu gŵr neu eu brawd nac mewn stiwdio, ond eto’i gyd, dydyn ni ddim yn colli ansawdd y lluniau.
“Ffilmiwyd y cyfan mewn ychydig wythnosau, sy’n rhywbeth dydyn ni erioed wedi’i wneud o’r blaen. Ymdopodd y criw cynhyrchu’n hynod dda gyda phrofiad newydd sbon, gan weithio o gartref gyda phlentyn neu bartner yn aml.
Mae S4C wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r sector trwy’r argyfwng i gyd. Cynhaliwyd cyfarfod rhithwir ym mis Ebrill ac un arall ar ddechrau Mehefin, ac ymunodd bron 100 o gynhyrchwyr i glywed Amanda Rees, y Cyfarwyddwr Cynnwys, yn cyhoeddi’r rownd gomisiynu gyflym.
Mae’r darlledwr wedi dweud ei ddweud wrth dynnu sylw at anghenion cwmnïau a gweithwyr llawrydd yn ystod pandemig COVID-19, gan ymgysylltu â TAC (y corff masnachu ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru ) a’r undebau BECTU ac Equity. Mae Owen Evans, y Prif Weithredwr, yn ymuno â galwad Skype wythnosol gyda DCMS, ochr yn ochr â’r darlledwyr eraill yn y DU, yn ogystal â galwad rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru i drafod y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Oherwydd bod y sefyllfa wedi sefydlogi, mae S4C yn canolbwyntio ar y cam nesaf, fel yr esboniodd y Prif Swyddog Gweithredu, Elin Morris: “Mae bellach gennym strwythur gweithredu sefydlog ond mae angen inni baratoi ar gyfer yr hyn a ddaw yn sgil llacio’r cyfyngiadau symud. Ein blaenoriaethau yw lles ein staff, diogelu ein gweithrediadau darlledu ac yna caniatáu mwy o gynhyrchu gwreiddiol mewn ffordd ddiogel. Byddwn yn datblygu un cam ar y tro.
“Rydym yn awyddus i fynd yn ôl i gynhyrchu mwy o gynnyrch gwreiddiol ond heb beryglu cynhyrchwyr neu’r cyhoedd drwy wneud hynny. Mae ein cynhyrchwyr wedi dod o hyd i ffyrdd ardderchog ac arloesol o greu cynnyrch ar gyfer y teledu dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Rwy’n siŵr y bydd y datblygiadau arloesol hyn yn parhau.”
Mae arloesedd cyflym S4C wedi derbyn clod gan wylwyr ar-lein gyda nifer ohonynt yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad i ddiddanu cynulleidfaoedd yn ystod cyfnod heriol tu hwnt.
Gawn ni gyd gytuno fod @s4c a @BBCRadioCymru yn neud jobyn rili da o’n diddanu yn ystod y gwallgofrwydd yma - a hynny o dan amodau uffernol o galed! #DiolchS4C #DiolchRadioCymru
— Ani Glass (@Ani_Glass) May 7, 2020