Mae’r pandemig byd-eang presennol wedi cael effaith sylweddol ar lawer o’r ffyrdd rydym yn byw ac yn gweithio. Yn syml, nid yw ‘busnes fel arfer’ yn bodoli ar hyn o bryd ac, o ganlyniad, rydym yn gweld cannoedd o ddatblygiadau arloesol ledled y byd yn helpu, yn newid ac yn addasu busnesau i fywyd lle ceir cyfyngiadau symud, fel y gallwn ddatblygu a chyflawni ffyrdd newydd o weithio.

Gyda’r cyfyngiadau symud yn rhoi terfyn ar weithgareddau cynhyrchu arferol, a’r niferoedd sy’n gwylio cynnwys ar ei uchaf erioed, sut mae darlledwyr wedi arloesi?

Wrth i ddarlledwyr ledled y byd addasu, newid a datblygu ffyrdd newydd o weithio oherwydd bod yn rhaid iddynt mewn ymateb i gyfyngiadau symud COVID-19. 

Edrychwn ar y sianel Gymraeg S4C wrth iddynt hyrwyddo arferion gweithio o bell, comisiynau cyflym a chynhyrchu o bell.

Gweithio o bell 

Roedd S4C eisoes yn gyfarwydd â gweithio hyblyg ac ar-lein gyda’r staff yn gweithio ar draws tri lleoliad. Roedd llawer o weithwyr eisoes yn gweithio o bell neu o fwy nag un swyddfa. Felly, roedd addasu i weithio o gartref yn ystod y cyfyngiadau symud yn llai o sioc i’r busnes ac i’r timau yn S4C, gan eu galluogi nhw i fynd amdani’n syth.

“Cynhaliom ‘brawf straen’ llawn ar ein system ddydd Gwener 13 Mawrth,” esboniodd y Prif Swyddog Gweithredu, Elin Morris. “Er ein bod ni’n gyfarwydd ag aelodau amrywiol o staff yn defnyddio ein gweinyddion o bell, roeddem am weld beth fyddai’n digwydd pe bai pawb yn gwneud hynny ar yr un pryd. Creodd ein hadran TG ail gysylltiad VPN (Rhwydwaith Preifat Rhithwir) i fod yn wydn, ac ni chafwyd trafferthion. Pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym, roedd y newid yn weddol syml.”

Er gwaethaf hyn, yn debyg i nifer o sianeli a darlledwyr eraill, maen nhw wedi wynebu rhai heriau sylweddol o ran amserlennu, rhaglennu a chomisiynu.  

Comisiynu yn ystod COVID-19

Oherwydd nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd, gan gynnwys chwaraeon, yn cael eu canslo neu eu gohirio, a chynyrchiadau eraill yn cael eu hatal dros dro oherwydd COVID-19, mae S4C wedi gorfod ailddychmygu ei hamserlen. Mewn ymateb i hyn ac i gefnogi’r sector creadigol, fe lansiodd S4C dwy rownd gomisiynu gyflym  a welodd rhaglennu newydd, gan gynnwys drama Cyswllt (mewn Covid) yn rhan o’r amserlen o ddiwedd mis Ebrill.

Cyswllt mewn Covid
Cyswllt (mewn Covid) 

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae wedi bod yn her sylweddol i gadw amserlen lawn ar y sgrîn wrth i gyfresi a digwyddiadau sy’n gonglfeini’r amserlen fethu cyflawni yn ystod y cyfnod hwn oherwydd rhesymau amlwg.

“Gadawyd bylchau gwag i’w llenwi yn yr amserlen yn sgil colli’r oriau o raglenni sebon, drama, chwaraeon a digwyddiadau. Erbyn hyn, bydd modd i wylwyr fwynhau ystod eang o raglenni sy’n ymateb i sefyllfa’r Coronafeirws.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cwmnïau cynhyrchu sydd wedi bod yn hynod ddyfeisgar wrth ymateb i’n galwad, gyda’r nod o droi syniadau creadigol i gynnwys perthnasol ac o safon uchel, a hynny o fewn amserlen hynod dynn.”

Mae’r rownd gomisiynu gyflym wedi ein gorfodi i ganolbwyntio ar gynnwys testunol y bydd cynulleidfaoedd yn uniaethu â nhw yn ystod y cyfyngiadau symud. Cafwyd mwy na chant o syniadau gan gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru o fewn ychydig ddiwrnodau o gyflwyno’r alwad, ac mae’r cynnwys a gomisiynwyd yn cynnwys  Priodas Dan Glo, gan y cwmni cynhyrchu Boom Cymru, a fydd yn edrych ar briodas a drefnwyd yn ystod y cyfyngiadau symudol a Cyswllt (mewn Covid), sef drama gan Vox Pictures sydd hefyd yn cynhyrchu Un Bore Mercher/ Keeping Faith. Mae’r ddrama dair rhan hon yn adlewyrchu bywyd dros dair wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud, ac yn trafod unigrwydd a gobaith y cyfnod rhyfedd hwn wrth i’r pandemig effeithio ar bob cenhedlaeth. Mae modd gwylio pob rhaglen Cyswllt (mewn Covid) ar S4C clic.

Cyswllt 2
Cyswllt (mewn Covid)

Cynnyrch arloesol 

Mae sicrhau bod S4C yn parhau i ddysgu cynulleidfaoedd a rhoi gwybodaeth iddynt yn ystod y cyfyngiadau symud wedi annog nifer o gwmnïau cynhyrchu i greu cynnwys ar gyfer S4C. Un o enghreifftiau mwyaf S4C o gynhyrchu yn ystod pandemig yw rhaglen ffitrwydd S4C, FfITCymru. Er bod y cwmni cynhyrchu Cwmni Da wedi dechrau cynhyrchu cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym, addasodd y broses gynhyrchu, strwythur y rhaglen a’r cynnwys, a chynhyrchodd y gyfres gyfan o bellter mewn ychydig wythnosau yn unig.

Ffit Cymru
Ffit Cymru 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar unigolion yn colli pwysau gyda chymorth tîm o weithwyr proffesiynol – hyfforddwr ffitrwydd, dietegydd a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i gynorthwyo’r ochr les. Mae natur berthnasol y rhaglen, yn ystod cyfnod lle mae pawb yn ceisio cadw’n heini a chynnal eu lles yn eu cartrefi eu hunain, wedi golygu bod y fformat yn llwyddo. Sut y gwnaed hyn?

•    Datblygu sgiliau a thechnoleg Rhoddwyd iPhone 7 i bob aelod o’r cast i recordio’r cynnwys, ac anfonwyd tiwtorialau iddynt yn dangos y ffordd orau i ffilmio eu cyfraniad, gan gynnwys canllawiau o ran goleuadau.

•    Cyfathrebu: Cadwyd at amserlen y rhaglen drwy gyfathrebu’n rheolaidd, a’r Cynhyrchydd oedd yn rheoli hyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys Cwmni Da, Llion Iwan wrth gylchgrawn Broadcast: “Mae’r cipolwg a gewch ar fywydau pobl yn wych. Mae pobl yn siarad lawer yn fwy agored o flaen eu gŵr neu eu brawd nac mewn stiwdio, ond eto’i gyd, dydyn ni ddim yn colli ansawdd y lluniau.

“Ffilmiwyd y cyfan mewn ychydig wythnosau, sy’n rhywbeth dydyn ni erioed wedi’i wneud o’r blaen. Ymdopodd y criw cynhyrchu’n hynod dda gyda phrofiad newydd sbon, gan weithio o gartref gyda phlentyn neu bartner yn aml.

Mae S4C wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r sector trwy’r argyfwng i gyd. Cynhaliwyd cyfarfod rhithwir ym mis Ebrill ac un arall ar ddechrau Mehefin, ac ymunodd bron 100 o gynhyrchwyr i glywed Amanda Rees, y Cyfarwyddwr Cynnwys, yn cyhoeddi’r rownd gomisiynu gyflym.

Mae’r darlledwr wedi dweud ei ddweud wrth dynnu sylw at anghenion cwmnïau a gweithwyr llawrydd yn ystod pandemig COVID-19, gan ymgysylltu â TAC (y corff masnachu ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru ) a’r undebau BECTU ac Equity. Mae Owen Evans, y Prif Weithredwr, yn ymuno â galwad Skype wythnosol gyda DCMS, ochr yn ochr â’r darlledwyr eraill yn y DU, yn ogystal â galwad rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru i drafod y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Oherwydd bod y sefyllfa wedi sefydlogi, mae S4C yn canolbwyntio ar y cam nesaf, fel yr esboniodd y Prif Swyddog Gweithredu, Elin Morris: “Mae bellach gennym strwythur gweithredu sefydlog ond mae angen inni baratoi ar gyfer yr hyn a ddaw yn sgil llacio’r cyfyngiadau symud. Ein blaenoriaethau yw lles ein staff, diogelu ein gweithrediadau darlledu ac yna caniatáu mwy o gynhyrchu gwreiddiol mewn ffordd ddiogel. Byddwn yn datblygu un cam ar y tro.

“Rydym yn awyddus i fynd yn ôl i gynhyrchu mwy o gynnyrch gwreiddiol ond heb beryglu cynhyrchwyr neu’r cyhoedd drwy wneud hynny. Mae ein cynhyrchwyr wedi dod o hyd i ffyrdd ardderchog ac arloesol o greu cynnyrch ar gyfer y teledu dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Rwy’n siŵr y bydd y datblygiadau arloesol hyn yn parhau.”

Mae arloesedd cyflym S4C wedi derbyn clod gan wylwyr ar-lein gyda nifer ohonynt yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad i ddiddanu cynulleidfaoedd yn ystod cyfnod heriol tu hwnt.

Mae S4C hefyd wedi lansio sgíl newydd o'r enw Welsh Language Podcasts sy'n caniatáu i ddefnyddwyr Alexa chwilio am gynnwys penodol trwy siarad Cymraeg. 

I weld mwy o gynnwys S4C yn ystod y cyfnod COVID-19, ewch i Clic a chymerwch olwg ar gynnwys ar-lein Hansh.