Bydd Clwstwr yn croesawu’r Athro Natalie Fenton, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Cyfryngau Byd-eang a Democratiaeth ac academydd blaenllaw, i drafod camwybodaeth mewn newyddion. Bydd Cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis, yn ymuno â hi i drafod enghreifftiau o sut mae camwybodaeth yn gweithio, o ble mae'n dod a sut y gallem ni wella dealltwriaeth ohoni ymhlith y cyhoedd.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn trafod:
- Y syniad o newyddion prif ffrwd ddiduedd
- Camliwio fel camwybodaeth a sut mae hyn yn bwydo rhagfarn
- Ailadrodd straeon newyddion - ac absenoldeb eraill
Mae Clwstwr yn ymateb i'r dirywiad dramatig yn y ffordd mae pobl dan 35 oed yn ymwneud â newyddiaduraeth ddibynadwy a'r cymysgedd dilynol o wybodaeth sy'n cyfuno ffynonellau credadwy ac annibynadwy. Gwneir hyn drwy gyllido syniadau sy'n datblygu genres newydd o gyflwyno gwybodaeth gyda ffocws ar ddata a thechnolegau neu blatfformau newydd sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.
Yr Athro Natalie Fenton
Mae Natalie yn Athro Cyfryngau a Chyfathrebu yn Adran y Cyfryngau, Cyfathrebu ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Goldsmiths, yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Cyfryngau Byd-eang a Democratiaeth ac yn Gadeirydd Cynghrair Diwygio'r Cyfryngau.
Mae ymchwil Natalie yn mynd i’r afael ag un o faterion mwyaf cymhleth a hanfodol ein hoes - y rôl y mae’r cyfryngau yn ei chwarae wrth ffurfio hunaniaethau a democratiaethau a pham a sut mae pobl yn ceisio newid y byd at ddibenion cymdeithasol blaengar. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith Natalie yma.
Yr Athro Justin Lewis
Mae Justin Lewis, Cyfarwyddwr y Clwstwr Creadigol, yn Athro Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol (a chyn Bennaeth yr Ysgol) yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, gyda diddordeb arbennig mewn arloesedd newyddion. Fe oedd yn cadeirio'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol ac yn Gadeirydd un o Baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Llywodraeth y DU.
Cynhelir y sesiwn hon ar Fai 11 2021, 11 AM.