A bod yn deg, mae darllen y newyddion wedi bod yn anodd yn ddiweddar, cytuno? Mae cymaint ar ein plât gyda phandemig, gweithio gartref, dysgu gartref, gofalu a goroesi fel yn aml dydyn ni ddim yn gallu pori drwy'r hyn sy'n ymddangos ar ein ffrydiau newyddion. Rwy'n deall.   

Fel cynghorydd a hyfforddwr seicotherapiwtig, rwyf i wedi siarad â miloedd ar filoedd o oroeswyr trawma. Rwyf wedi fy ngwreiddio yn y ffordd rydyn ni'n profi'r myrdd o ffyrdd y gall trawma ymddangos yn ein cyrff ac yn ein bywydau.  

Yn 2020, yn ogystal â goroesi dan lywodraeth sydd fel pe bai'n ystyried bod fy marwolaeth yn rhywbeth i'w dderbyn yn ddi-gwestiwn, rwyf i hefyd wedi bod yn ymchwilio sut i drin y newyddion fel goroeswr trawma. Rwy'n credu y gallai'r hyn rwyf i wedi'i ddysgu helpu defnyddwyr newyddion a newyddiadurwyr hefyd.  

Ar bob ochr i'r sgrin, mae pethau'n mynd yn anoddach.  

Yr hyn rwy'n ei weld yw polareiddio yn ein hymwneud â'r newyddion; rydyn ni naill ai'n ei ddiffodd, neu'n cael ein dal yn y cylch newyddion heb allu edrych i ffwrdd. Mae'r ddau gyflwr yn arwain at gamwybodaeth gyda'r defnyddiwr yn fwy agored i gael gwybodaeth anghywir. Mae’r gallu i ddirnad newyddion a ffynonellau sy'n ddibynadwy yn lleihau tra bod gorbryder a diffyg diogelwch yn cynyddu.  

Gall pobl sy'n rhwystredig â darpariaeth newyddion prif ffrwd chwilio am ddewisiadau amgen i'r rhai nad oedd yn diwallu eu hanghenion a chael eu dal mewn mannau anniogel. Fe wyddom fod grwpiau cynllwyn fel QAnon a grwpiau alt-right wedi bod yn recriwtio'n drwm yn ystod y pandemig ac mae nifer o bobl yn fy mywyd wedi disgrifio 'colli' aelodau o'r teulu i'r cynllwynion hyn. 

I gefnogi fy ymchwil, rwyf i wedi bod yn cyfarfod â phobl sy'n arwain ar ailedrych ar sut rydym ni'n ymdrin â newyddion i gefnogi dulliau mwy diogel o ddarparu newyddion. Rwyf i wedi cyfweld ag arbenigwyr yn cynnwys newyddiadurwyr, peirianwyr, datblygwyr ac academyddion sy'n gweithio gyda newyddiadurwyr â PTSD, yn ogystal â therapyddion sy'n ailfeddwl sut y gallwn gefnogi ein cleientiaid i ymgysylltu'n ddiogel â'r newyddion.  

Mae'r holl ymchwil wedi fy ysbrydoli i lunio dull newydd o gyflwyno newyddion mewn ffordd sy'n wybodus am drawma, a chaiff fy mhrototeip ei brofi gyda phobl sy'n creu a phobl sy'n derbyn newyddion. Os yw'r pandemig hwn wedi dysgu unrhyw beth i ni, gall gwasanaeth newyddion difyr, diogel a dibynadwy arbed bywydau.  

Mae wedi bod yn rhyfeddol cael bod yn rhan o garfan Clwstwr a chyfrannu at dirwedd newyddion deg, wybodus am drawma yma yng Nghymru.