Nod y Prosiect

Bombastic logo

Bydd Bombastic yn ymchwilio ac yn datblygu platfform ar gyfer creu a rhannu sesiynau ffilm rhyngweithiol, gyda ffocws cychwynnol ar ddarparu cynnwys addysgol i ysgolion. Y nod yw cyfuno technoleg, creadigrwydd ac addysg mewn system ddigidol sy'n helpu athrawon i redeg dosbarthiadau sy'n bodloni amcanion dysgu creadigol. Sail y gwersi rhyngweithiol yw ffilmiau byr episodig  a ddarperir i ysgolion drwy'r platfform hwn, a'n nod yw eu cynllunio i alluogi disgyblion i ateb cwestiynau neu wneud gweithgareddau'n gysylltiedig â'r ffilm a derbyn adborth yn ystod y wers mewn amser real. Bwriedir i'r platfform hefyd alluogi pobl sy'n creu cynnwys addysgol yn seiliedig ar y celfyddydau i gyrraedd a chysylltu â chynulleidfa, gyda lle i ehangu i bynciau eraill.