Nod y Prosiect

Gorilla logo

Gall daearyddiaeth gyfyngu wrth ddenu cynyrchiadau teledu i Gymru (neu unrhyw ganolbwynt cyfryngol rhanbarthol arall y tu hwnt i Lundain). Bydd Gorilla TV yn ymchwilio ac yn datblygu amgylchedd gwaith o bell ar gyfer golygu creadigol gyda'r holl brif systemau wedi'u lleoli mewn man arall a'u cyrchu drwy gyswllt rhwydwaith - gan ddileu ffiniau daearyddol. Er bod hyn yn swnio'n syml, mae golygu'n gorfod cael mynediad at lawer iawn o gyfryngau a pherfformiad di-dor ac ymatebol.  Mae'r dechnoleg sydd ei hangen i wneud hyn yn datblygu a bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu datrysiadau meddalwedd a chaledwedd i ganiatáu twf rhanbarthol mewn ôl-gynhyrchu.

 

Gorilla team