I'r rheiny sy'n parhau i'r cam nesaf - gwneud cais am gyllid - gallwch drefnu sesiwn cyngor gyda Chynhyrchydd Clwstwr er mwyn trafod eich cais. 

Wrth i ni symud ymlaen i'r broses gwneud cais rydyn ni'n awyddus i gynnig cyngor teilwredig i ymgeiswyr yn dilyn yr adborth anfonwyd atoch ynghylch eich Mynegiant o Ddiddordeb. 
Bydd sesiynau yn cael eu cynnal ym Mhencadlys Clwstwr yn Neuadd y Ddinas neu yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, Sgwâr Canolog o ddydd Mawrth, 21 Mai tan y dyddiad cau ar ddydd Gwener, 14 Mehefin 2019.  

Mae'r cynhyrchwyr yn gyfarwydd â meini prawf y cyllid yn ogystal ag amcanion y prosiect. 

Mae'r tîm yn cynnwys pedwar arbenigwr o'r diwydiannau creadigol - Adam Partridge, Gavin Johnson, Greg Mothersdale a Sally Griffith. 

Bydd pob sesiwn yn para hanner awr o hyd a gallwch drafod unrhyw ymholiad neu gwestiwn sydd gennych ynghylch eich adborth a'r ffordd gorau i fynd ati i wneud y newidiadau awgrymwyd yn ogystal â dyddiadau allweddol a chategorïau cyllido. 

Felly, sut ydych chi'n mynd ati i drefnu Sesiwn Cyngor? 

Gallwch drefnu sesiwn yma.

Dewiswch leoliad (Neuadd y Ddinas neu Sgwâr Canolog) 

  • Dewiswch ddyddiad ac amser i gwrdd 
  • Ychwanegwch eich manylion (enw, e-bost a rhif ffôn)
  • Os ydych chi'n meddwl am unrhyw gwestiynau o flaen llaw ysgrifennwch rhain yn y blwch ymholiadau 
  • Archebwch eich sesiwn ac mi fyddwn ni'n trefnu i gynhyrchydd gwrdd â chi 
  • Fe fyddwch chi'n derbyn e-bost i gadarnhau eich Sesiwn Cyngor Clwstwr
  • Gallwch drefnu un sesiwn yn unig rhwng 21 Mai a 12 Mehefin. 

Os nad oes angen hanner awr arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 02922 5111 443 gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.