Gwybodaeth am On-Set Facilities

Mae On-set Facilities yn gwmni sy'n darparu offer cynhyrchu rhithwir, goruchwylwyr a chriw i'r diwydiant cynhyrchu ffilm a chyfryngau.

Mae ein hatebion yn lleihau'r bylchau rhwng y byd go iawn a’r byd rhithwir

Mae'r bylchau oedi a chydamseru hyn yn digwydd yn bennaf pan fydd rhyngweithio’n digwydd rhwng y byd go iawn a’r byd rhithwir.  Mae rhyngweithiadau corfforol pobl ar y set a'r recordiad optegol (h.y. yr offer camera) yn digwydd mewn amser real. Mae'n rhaid i rannau rhithwir y system brosesu data, trosglwyddo data ac yn y blaen, sy'n creu oedi yn y piblinellau. 

Ar brydiau, nid yw rhywbeth sy'n digwydd ar y set yn digwydd yn y byd rhithwir tan nifer o fili-eiliadau yn ddiweddarach. Mae'r materion cynnil hyn sy’n gysylltiedig ag oed yn cael effaith o ganlyniad ar yr ôl-gynhyrchu. Pan fydd yn rhaid i artistiaid VFX gysoni’r gweithredoedd a gipiwyd yn y byd rhithwir a’r gweithredoedd a gipiwyd yn y byd corfforol, mae'n anodd ac yn cymryd llawer o amser. Roedd y maes hwn yn ennyn ein diddordeb yn fawr.  

Roedden ni am ymchwilio ac adeiladu ateb i leihau'r materion sy'n ymwneud â'r oedi hwn

Gwnaethom gais i Clwstwr am gyllid i fynd tuag at ymchwil a datblygu manyleb system gynhyrchu rithwir wedi'i optimeiddio o ran oedi, y gallem ei defnyddio i lywio ein cynnyrch, ein gwasanaethau a'n datrysiadau. 

Pan gafodd ein cyllid ei gymeradwyo, fe wnaethon ni gychwyn ar ein cyfnod ymchwil

Yn gyntaf, buon ni’n mynd ar y set gyda chwmnïau cynhyrchu. Buom yn gweithio gyda phopeth oedd ar y farchnad i nodi ble mae'r problemau a ble'r oedd cyfleoedd i wella. Fe wnaethon ni ddarparu ein gwasanaethau traddodiadol, ond gyda mandad ychwanegol i gofnodi'r data cynhyrchu, nodi unrhyw fannau lle roedd oedi, a thynnu sylw at unrhyw broblemau amlwg eraill i lywio ein gwaith ymchwil.

Yna fe wnaethon ni greu d ein manyleb system gynhyrchu rithwir ein hunain, a alwyd yn OSFX (manyleb math-X On-Set Facilities)  

Mae’r fanyleb OSFX yn storfa o ddata cynhyrchu a dysgu ar y set, sydd wedyn yn bwydo i mewn i ddatblygu cynnyrch. Unwaith roedd y fanyleb hon gennym ni, fe wnaethon ni ddechrau ei rhoi ar waith trwy ddatblygu ac adeiladu platfform cyfrifiadurol ar set sydd wedi'i optimeiddio i ddelio ag oedi.

 

Ar gyfer yr adeiladu, fe ddechreuon ni drwy ailddiffinio'r caledwedd a'r feddalwedd

Mae’r oedi’n ymddangos rhwng y caledwedd a'r feddalwedd, ond mae'n dechrau gyda chaledwedd. Ein nod oedd lleihau'r oedi a chynyddu cydamseru rhwng y byd go iawn a'r byd rhithwir drwy gymysgedd o galedwedd a meddalwedd OSFX wedi'u hoptimeiddio i ddelio ag oedi.

Dechreuwyd drwy ddefnyddio cydrannau oddi ar y silff i adeiladu'r cynnyrch, ond yn y diwedd roedden ni’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr cydrannau cyfrifiadurol i gyfuno cydrannau gweinydd a gorsafoedd gwaith menter ar y set.  Roedd hyn yn rhywbeth newydd i'r gwneuthurwyr caledwedd, ac roedd yn gyffrous i bawb ohonom.


Arweiniodd y gwaith at gynhyrchu ein system gynhyrchu rithwir, GODBOX

Mae GODBOX yn gyfrifiadur cyffredinol wedi'i optimeiddio ar gyfer delio ag oedi, wedi’i seilio ar y fanyleb OSFX, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer sefyllfaoedd lluosog. Mae'n bensaernïaeth system sydd wedi'i hadeiladu gyda ffocws ar optimeiddio'r delio ag oedi a chydamseru er mwyn lleihau'r anghysondebau rhwng pethau sy'n digwydd mewn amser real ac yn rhithwir. Mae angen prosesu gweithredu a rhyngweithio dynol mor agos at amser real â phosibl. Os ydych chi'n gwneud pethau wrth ôl-gynhyrchu, rydych chi'n symud i ffwrdd oddi wrth amser real. Mae ein datrysiad GODBOX sy'n gwneud y prosesu yn agos at y gweithredu ac yn gwneud yr agwedd hon ar gynhyrchu rhithwir yn fwy effeithlon a dibynadwy.

Rydyn ni bellach yn cynnig GODBOX fel datrysiad cynhyrchu rhithwir wedi'i optimeiddio i ddelio ag oedi, ynghyd â'r holl galedwedd a chriw

Roeddwn yn gobeithio mai dyma fyddai canlyniad ein prosiect, ond doeddwn i ddim yn hollol sicr sut i gyrraedd yno. Yr hyn rydyn ni wedi'i adeiladu yw manyleb system gynhyrchu rithwir sy'n lleihau'r amser rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn bywyd go iawn a'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'r cyfrifiadur. Roedd angen help arnon ni i fynd â ni drwy'r cyfnod hwn o ddysgu. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt nawr lle mae GODBOX yn cael ei ddefnyddio gan rai o stiwdios cynhyrchu rhithwir gorau'r byd. Nid yn unig hynny, ond fel y rhai a ddatblygodd GODBOX, yr ydym wedi cael ein hunain yn gweithio fel goruchwylwyr cynhyrchu rhithwir i rai o'r prif gwmnïau cynhyrchu, gan oruchwylio cynyrchiadau rhithwir mewn llawer o wledydd ledled y byd.

Doedden ni erioed wedi gwneud ymchwil a datblygu fel hyn o'r blaen

Yn y gorffennol, roeddwn wedi bod yn amheus ynghylch y prosesau y byddai ymchwil a datblygu ar y raddfa hon yn eu cynnwys. Gwnaeth Clwstwr bopeth yn hawdd iawn i mi ei ddilyn, ac roedd eu mewnbwn yn werthfawr iawn. Trwy arian a buddsoddiad Clwstwr, rydyn ni wedi datblygu ein manyleb, wedi adeiladu ein cynnyrch ac wedi gallu gweithio gyda phobl fel Netflix, Nvidia, Unreal Engine, Unity, ARRI a chwmnïau mawr eraill yn y diwydiant. Rwy'n edrych ymlaen at beth bynnag ddaw nesaf ar gyfer manyleb OSFX ac ar gyfer GODBOX, sydd fel ei gilydd wedi cael derbyniad da iawn gan y diwydiant.