Mae Gareth Loudon yn Athro Creadigrwydd yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn gyd-ymchwilydd ar raglen Clwstwr. Gofynnwyd iddo rannu ei syniadau am greadigrwydd:

Isod y mae strategaethau er mwyn hybu eich creadigrwydd a datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol newydd o fewn rhaglen Clwstwr. 

Byddwch yn feddwl agored: Nid proses yn unig yw creadigrwydd, rhaid hefyd mabwysiadu agwedd. Mae bod yn barod i herio ein barn, syniadau a rhagdybiaethau ein hunain yn hanfodol er mwyn hybu creadigrwydd. Efallai y dylech holi eich hunain os ydych chi wedi meddwl am ffyrdd newydd o weithio; defnyddio technoleg newydd; archwilio marchnadoedd newydd; defnyddio modelau busnes newydd; neu ymateb i bobl gydag agweddau, barn a phrofiadau gwahanol i chi. Yn aml mae gennym ni ffyrdd penodol o feddwl a gweithio a gall hyn ein rhwystro rhag meddwl am syniadau newydd.

Chwiliwch am ysbrydolaeth: Un o’r ffyrdd gorau o ehangu gorwelion yw gadael y swyddfa a chael profiadau newydd. Er enghraifft, gallwch dreulio amser gyda chwsmeriaid, hen neu newydd, a’u holi am eu hanghenion, dyheadau, agweddau a’u cymhellion. Gallwch hefyd fynychu ffeiriau technoleg, sioeau teithio neu bori’r we er mwyn cael syniadau newydd. Y peth pwysig yw cysylltu â phobl newydd.

Gwnewch amser i fyfyrio: Nid mater o gysylltu â phobl a chael profiadau newydd yn unig yw creadigrwydd, mae hefyd yn fater o gysylltu syniadau sydd efallai’n ymddangos yn amherthnasol ar yr olwg gyntaf. Mae hyn yn golygu bod angen gwneud amser i fyfyrio. Meddyliwch - lle a phryd y cewch eich syniadau gorau. Efallai wrth i chi gerdded y ci, wrth orwedd yn y gwely gyda’r nôs, yn y gawod, wrth wneud ymarfer corff, wrth yrru, neu ar ôl gwydryn o win? Mae syniadau newydd yn aml yn ffurfio pan rydych chi’n gwneud amser i edrych ar bosibiliadau newydd gyda chyflwr meddyliol agored a thawel, a phan nad oes unrhyw beth yn tynnu’ch sylw. Felly, gwnewch amser i fyfyrio – a diffoddwch eich ffôn. Mae hefyd yn bwysig nodi y gall straen wneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio, felly dewiswch le i fyfyrio sy’n eich gwneud chi’n hapus ac yn llonydd.

Chwaraewch: Yn ogystal â gwrando, cysylltu a myfyrio, mae chwarae â syniadau newydd hefyd yn bwysig er mwyn cael dealltwriaeth newydd. Dwi’n bwrpasol yn defnyddio’r gair chwarae oherwydd bod chwarae’n cynnwys arbrofi, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar eich agwedd bositif. Mae chwarae yn cyfleu chwaraegarwch, hapusrwydd yn ogystal â rhyddid.  Trwy chwarae gyda syniadau ac atebion posib fe ddaw’r posibiliadau’n amlwg. Camgymeriad cyffredin mae pobl yn aml yn ei wneud yw bod yn rhy awyddus i ddarganfod yr ateb cywir yn hytrach na mwynhau’r broses greadigol a chwarae gydag amrywiaeth o syniadau.

 

Cydweithiwch: Strategaeth allweddol arall i hybu creadigrwydd yw gofyn am help, yn enwedig gan bobl gydag arbenigedd gwahanol i chi. Mae angen i gynnyrch a gwasanaethau newydd apelio at gynulleidfa a’r farchnad yn ogystal â bod yn opsiwn technolegol credadwy er mwyn llwyddo. Mae hyn yn aml yn golygu bod angen arbenigedd mewn meysydd fel datblygiad technoleg, dylunio, marchnata, cyllid a strategaeth busnes (i enwi rhai). Os ydych chi’n arbenigo ym mhob un o’r meysydd hyn, yna chwarae teg i chi, byddwn i’n awgrymu nad yw y rhan fwyaf o bobl. Felly meddyliwch gyda phwy y gallwch gydweithio, gan y bydd hwn yn arwain at ragor o syniadau.

Byddwch yn glir am eich cymhelliant: Mae’n bwysig iawn i chi feddwl beth sydd yn eich ysgogi chi, pam ydych chi eisiau arloesi. Nid yw bob tro’n hawdd datblygu rhywbeth newydd gwerthfawr ac mae’n aml yn cymryd dewrder a gwydnwch. Felly mae angen i chi fod yn benderfynol i gael y canlyniadau y dymunwch. Cyn i chi ymgymryd ag unrhyw un o’r strategaethau uchod, gaf i argymell eich bod chi’n cychwyn gyda’r un yma.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy ynglŷn â fy syniadau am greadigrwydd, gallwch wylio fy araith gyhoeddus “Bod yn greadigol: Ein Pwrpas mewn Bywyd?” isod.