Mae Tara King yn angerddol iawn am ddau beth: cynaliadwyedd a gwyliau cerddoriaeth roc. Ochr yn ochr â rhedeg ei hymgynghoriaeth amgylcheddol ei hun ar gyfer cynaliadwyedd, sy'n helpu arweinwyr prosiect, y sector cyhoeddus a busnesau i ddod yn nes at garbon sero-net, mae'n gwirfoddoli yng Ngŵyl Steelhouse - gŵyl gerddoriaeth roc ar ben mynydd yng Nglynebwy. Roedd ei phrosiect Clwstwr yn gyfuniad perffaith o'r ddwy rôl.

“Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud gwyliau’n fwy cynaliadwy,” meddai Tara. “Un maes allweddol o hynny yw lleihau’r pŵer tanwydd ffosil a gynhyrchir ar safleoedd gŵyl, felly penderfynais wneud rhywfaint o waith Ymchwil a Datblygu ar y potensial i ddatgarboneiddio Gŵyl Steelhouse. Un o’m cas bethau i a pherchnogion yr ŵyl yw sut mae'n rhaid i rai generaduron redeg 24/7 yn ystod yr ŵyl, at ddefnydd cymharol isel, a gweithredu dros gapasiti, felly dewisais ganolbwyntio ar eneraduron a’r defnydd o danwydd.”

Mae Tara yn iawn i bryderu; mae allyriadau disel o eneraduron yn cael effaith amgylcheddol enfawr. Yn ôl A Greener Festival, mae diwydiant digwyddiadau’r DU yn defnyddio amcangyfrif o 380m litr o ddisel yn flynyddol, gan ryddhau 1.2 miliwn tunnell o CO2e (cyfateb i garbon deuocsid).

“Yng Ngŵyl Steelhouse, sy’n denu tua 16,000 o ymwelwyr dros dri diwrnod ym mis Gorffennaf, mae’n rhaid i eneraduron danio llawer o eitemau cefn llwyfan: oergelloedd, rhewgelloedd, arlwyo ar gyfer criwiau o hyd at 100 o bobl ac unrhyw ofynion ynni dros nos. Yna mae'r cynyrchiadau llwyfan, sy'n cynnwys generaduron mwy fyth. Defnyddir llawer o danwydd dros nos i gadw’r desgiau blaen tŷ yn sych ac yn ddiogel rhag lleithder. Mae yna hefyd oleuadau diogelwch, goleuadau maes gwersylla, generaduron ategol sy'n rhedeg dros nos... maen nhw i gyd yn defnyddio disel ac yn creu allyriadau.

“Roeddwn i eisiau i'm hymchwil fonitro’r gwir angen a galw am ynni yn yr ŵyl, pa mor effeithlon yw ein generaduron ac a oes ffordd o ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar gyfer rhai o'r generaduron. Mae rhywfaint o dechnoleg generadur adnewyddadwy yn bodoli eisoes, ond mae'n anodd iawn ei defnyddio ar gyfradd gystadleuol o gymharu â generadur disel, ac nid yw rhai yn ddigon ystwyth ar gyfer ein safle (cae defaid heb unrhyw gyfleustodau prif gyflenwad)."

I ddechrau, roedd Tara wedi bwriadu defnyddio Gŵyl Steelhouse 2020 i gael llinell sylfaen ar gyfer defnydd ynni’r ŵyl (ac yn sgil hynny, syniad o ôl troed carbon yr ŵyl). Fodd bynnag, gorfododd y pandemig hi i addasu ei chynlluniau oherwydd cafodd yr ŵyl ei chanslo.

“Fe wnes i lawer o ymchwil desg yn y pen draw. Roedd peth o’m hymchwil yn gysylltiedig â dod o hyd i'r pecyn tracio ôl troed carbon cywir ar gyfer yr ŵyl yn gyffredinol, deall defnydd generaduron o danwydd, dod o hyd i eneradur effaith-is addas a gweld beth mae gwyliau eraill yn ei wneud. Fe wnes i lwyddo i gyfrifo’r llwythi sylfaen o ran y defnydd o danwydd yn seiliedig ar ddefnydd tanwydd hanesyddol o'r holl systemau generadur rydym wedi’u defnyddio. Gwnaethom sylweddoli bod tanwydd y generaduron yn cael effaith carbon gymharol isel o gymharu â'r tanwydd a ddefnyddir ar gyfer cludiant. Gwnaethom hefyd nodi lle roedd ein prif broblemau pŵer a pha symiau yr oeddem yn eu defnyddio ar ba adegau, felly mae gennym broffil da ar gyfer yr ŵyl.

“Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd fod yna offer ar gael, ond mae’n ddrud. Gwnaethom edrych ar wneud ein set ein hunain o offer; roedd yn opsiwn rhatach a gallai o bosibl ddod ag incwm ychwanegol yn y dyfodol pe gallem ei rentu pan nad ydym yn ei ddefnyddio. Rydyn ni ran o’r ffordd yno gan ein bod ni nawr wedi adeiladu ein generadur ynni adnewyddadwy ein hunain, sy'n cynnwys caban gyda phaneli solar ar ei ben a thyrbin bach ynghlwm wrth y to. Mae'r egni sy’n cael ei ddal yn mynd i fanc o fatris storio, y gellir tynnu pŵer ohonynt. Mae'n cael ei brofi ar bweru rhai o'r anghenion ategol. Mae llawer mwy o brofion i'w gwneud ac mae angen i ni adeiladu o leiaf un generadur arall i gael amcan o bethau, ond mae yna gyfleoedd wrth symud ymlaen."

Un maes arall y dysgodd Tara lawer amdano oedd gofynion y farchnad (gan gynnwys mynychwyr yr ŵyl a pherfformwyr) a'r hyn y maent yn ei ddisgwyl o ran cynaliadwyedd: “Byddai gallu cael cymwysterau ynni gwyrdd a chynaliadwyedd da yn ein galluogi i wneud y peth iawn, i gyd wrth gefnogi’r gwaith o farchnata’r ŵyl i fandiau a phrynwyr tocynnau.”

Paratôdd arolwg i ddarganfod beth mae cwsmeriaid yn credu y dylai'r ŵyl ei flaenoriaethu o ran cynaliadwyedd ac a fyddai diddordeb ganddynt mewn pethau fel cynllun plannu coeden i gyd-fynd â gwerthu tocynnau. Gan na aeth gŵyl y llynedd yn ei blaen, y gobaith yw y caiff ei ddefnyddio ar gyfer Gŵyl Steelhouse 2021.

“Yn ogystal â’r gwaith hwn ar eneraduron ac ynni adnewyddadwy, rydyn ni’n gwneud llawer o ran ailgylchu a chadw’r safle’n lân. Rydym yn hyrwyddo'r defnydd o gwpanau amldro ac yn lleihau plastig untro ar y safle yn gyflym. Rydym yn ceisio annog ein mynychwyr i ddilyn ein hesiampl a gweithio gyda gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i wneud cynlluniau teithio mwy cynaliadwy. Rydym hefyd wedi cysylltu â thîm A Greener Festival, lle mae gweithredwyr gwyliau o'r un anian yn rhannu eu hawgrymiadau a'u gwybodaeth. Gobeithiwn, gyda'n holl waith a symudiad byd-eang tuag at wyliau mwy cynaliadwy, y gallwn gyrraedd y targed carbon-niwtral ar y safle. Tan hynny, rwy'n awyddus i wneud mwy o ymchwil i'n cael ni yno'n gyflymach.

“Heb Clwstwr, allen ni ddim fod wedi gwneud yr holl waith hwn. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd gwell o adeiladu ein seilwaith mewn ffordd werdd, felly mae cael yr amser a'r arian i'w rhoi tuag at ymchwil a datblygu wedi dod â ni'n agosach at ddeall sut y gallem ddod yn ŵyl garbon-niwtral.”