Mae-r adroddiad hwn yn rhoi amcangyfrifon o effaith COVID-19 ar ddata economoaidd a llafur allweddol ar gyfer y diwydiannau creadigol yng nghymru, ym mhrifddinas-ranbarth caerdydd, ac yng nghaerdydd (2020-2022).

Mae’r adroddiad hwn yn diweddaru dau adroddiad cynharach Clwstwr  ar faint a chyfansoddiad diwydiannau creadigol Cymru, gan ddadansoddi data hyd at 2019, sef cyn COVID-19.

Yn 2022, mae bron i 10,500 o fentrau gweithredol a – gan gynnwys gweithwyr llawrydd – rhwng 68,000 a 90,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Os byddwn yn eithrio gweithwyr llawrydd, cynhyrchodd y diwydiannau creadigol drosiant o £3.8 biliwn yn 2022, sef 5.3% o gyfanswm cynnyrch domestig gros Cymru.

Dywedodd Dr Marlen Komorowski: "Mae ein canfyddiadau yn cadarnhau bod y diwydiannau creadigol yn parhau I fod yn rhan sylweddol ac yn rhan sy’n tyfu o economi Cymru. Er iddynt gael eu heffeithio mewn modd anghyfartal gan ddirywiad COVID-19, mae’r diwydiannau creadigol, ar y cyfan, wedi bod yn fwy gwydn na rhannau eraill o economi Cymru. Mae llawer o’r cryfder hwn yn seiliedig ar wydnwch y clystyrau cyfryngau yng nghaerdydd ac ardal ehangach Prifddinas-ranbarth Caerdydd.

"Dangosodd ein dadansoddiad fod COVID-19 wedi achosi gostyngiad o 14% yn nhrosiant y diwydiannau creadigol. Dilynwyd hyn gan adferiad a oedd, dros y cyfnod 2019-2022, yn fwy na gweddill economi Cymru. Mae rhai o sectorau creadigol Cymru wedi llwyddo i dyfu o ran cyflogaeth, hyd yn oed ym mlwyddyn cyfyngiadau symud 2020, megis TG neu bensaernïaeth."

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma:

Máté Fodor headshot

Máté Fodor

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr