Mae Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), yr Athro Dame Ottoline Leyser, wedi ymweld â Clwstwr i ddysgu mwy am raglen arloesi'r sector sgrîn a newyddion.
Ar 10 Rhagfyr 2021, cyfarfu'r Fonesig Ottoline â chynrychiolwyr o'r sector cyfryngau yn Nhŷ Darlledu Newydd BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd i glywed am brosiectau ymchwil a datblygu arloesol Clwstwr.
Mae Clwstwr yn rhan o Raglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol, a ariennir gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol ac a ddarperir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar ran UKRI.
Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad gan y cynhyrchydd ffilm arobryn a sylfaenydd Good Gate Media, John Giwa-Amu. Rhannodd daith ymchwil a datblygu eu prosiect Clwstwr – Rendro mewn Amser Real / Hyrwyddo Rhyngweithiol – a arweiniodd at y ffilm ryngweithiol Deathtrap Dungeon, yn seiliedig ar lyfr gemau Fighting Fantasy, Ian Livingstone.
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr a media.cymru: "Roedd yn wych cwrdd ag Ottoline a rhoi gwir ymdeimlad o'n rhaglenni ymchwil a datblygu yn y diwydiant creadigol, rhaglenni Clwstwr a media.cymru.
"Gwnaethom ei chyflwyno i ystod o'n partneriaid yn y diwydiant, a oedd yn gallu adrodd straeon am wir arloesedd, gan gyfleu'r effaith sylweddol y mae rhaglenni a ariennir gan UKRI wedi’i chael arnynt hwy a'r sector creadigol yma yn Ne Cymru."
Dywedodd y Fonesig Ottoline: "Roedd yn ddiddorol gweld yn uniongyrchol y gwaith cyffrous y mae Clwstwr a media.cymru yn ei wneud i gyflymu twf y sector creadigol drwy greu cwmnïau, cynhyrchion a phrofiadau newydd.
"Gyda chefnogaeth amrywiaeth o fuddsoddiad UKRI sydd hefyd wedi datgloi mwy o arian o ffynonellau eraill, maent yn gwneud ardal Caerdydd yn ganolfan wirioneddol fyd-eang ar gyfer arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau.
Mae'r cydweithio rhwng ymchwil, arloesedd a diwydiant nid yn unig o fudd i'r bobl sy'n byw yma gyda swyddi, cyfleoedd a buddsoddiad i'w busnesau, ond hefyd yn sbarduno arloesedd, sy'n newyddion da i economi gyfan y DU.
Cyfarfu'r Fonesig Ottoline hefyd ag aelodau o Gonsortiwm media.cymru i glywed am ddyheadau ar gyfer rhaglen Cronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI i gyflymu twf yn sector cyfryngau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafodd hi hefyd daith o amgylch pencadlys fodern newydd y BBC.