Mae diddordeb aruthrol wedi bod yn ein rhaglen newydd i arloesi'r sectorau sgrîn a newyddion yn ne Cymru gyda 134 Datganiadau o Ddiddordeb am arian yn yr alwad gyhoeddus cyntaf.
Mae'r Datganiadau o Ddiddordeb wedi gofyn am gyfanswm o £8 miliwn er mwyn gwneud gwaith Ymchwil a Datblygu. Mae hyn yn dangos yn glir yr angen am gyllid Ymchwil a Datblygu er mwyn arloesi'r clwstwr.
Roedd bron i 90% o ymgeiswyr wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â Clwstwr drwy fynd i un o’r naw digwyddiad a gynhaliwyd gan y tîm yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill, neu gwrdd â Chynhyrchydd Clwstwr i drafod eu syniad. Yn ystod y cyfnod Datganiadau o Ddiddordeb (19 Mawrth hyd at 18 Ebrill), cafodd Adam, Gavin, Greg a Sally dros 70 o gyfarfodydd un-i-un gyda’r rhai oedd â ddiddordeb.
Mae ein data yn dangos mai cwmnïau cyfyngedig preifat (63%) wnaeth y rhan fwyaf o’r ceisiadau, ac yna’r rhai dielw (16%), gweithwyr llawrydd (13%) neu unig fasnachwyr (4%). Er mai o ranbarth Caerdydd y daeth y ceisiadau’n bennaf, cafwyd cynigion o bob cwr o Gymru.
Prif nod y rhaglen Clwstwr yw hybu arloesedd drwy gydweithredu, felly pleser o’r mwyaf oedd gweld bod tua 40% o Ddatganiadau o Ddiddordeb yn gynigion cydweithredol.
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr y Clwstwr: “Mae’n wych gweld lefel mor uchel o ymrwymiad - mae’n cadarnhau’r potensial sydd gan dde Cymru i fod yn ganolfan flaenllaw mewn arloesi'r cyfryngau. Mae cymaint o syniadau gwych yma, ac rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan er mwyn helpu i wireddu’r syniadau.”
Croesawyd ceisiadau ym mis Mai ac, yn dilyn cyfnod o ddadansoddi trylwyr, cyrhaeddwyd penderfyniad gan dîm rheoli'r Clwstwr wedi'i chymeradwyo gan Bwyllgor Cyllid Clwstwr a'r Cadeirydd. Bydd cohort llwyddiannus cyntaf Clwstwr yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi.
Hoffech chi gael y newyddion diweddaraf gan Clwstwr am arloesedd, Ymchwil a Datblygu a sut i gymryd rhan yn y rhaglen? Ymunwch â’n rhestr bostio yma.