Bydd y Cyfrifiad Diwydiannau Sgrin cyntaf ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn edrych ar ddarpariaeth hyfforddiant a chynhyrchiant y diwydiannau sgrîn yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Clwstwr. 

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar Ffilm, Teledu Pen Ucha’r Farchnad, Teledu, Gemau, Animeiddio, VFX ac Ôl-gynhyrchu.

Mae'r diwydiant yng Nghymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu’r data sectoraidd hwn ers cryn amser, yn anad dim mewn tystiolaeth a roddwyd gan y sector fel rhan o Ymchwiliad i Gynyrchiadau Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru (2019) Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr ymchwil yn cynhyrchu data manwl ar ddemograffeg diwydiant a sgiliau gan ganolbwyntio ar dwf ac arloesedd.

Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd dau arolwg yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd. Bydd y cyntaf ar gyfer darpariaeth hyfforddiant ôl-16 y diwydiannau sgrin. Bydd yr ail wedi ei anelu at y sector cynhyrchu er mwyn mapio sefydliadau a gweithwyr llawrydd. Bydd yr arolygon hyn ar agor ar gyfer ymatebion am fis rhwng 1af Mehefin hyd at 1af Gorffennaf 2020.

Dewch i wybod mwy am werth cymryd rhan a chael eich cynhwyso yn y gweminar isod gyda Faye a Bwrdd Cynghori Arloesi Sgiliau: 

Mae trawsgrifiad o'r fideo hwn ar gael, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gais.

Bydd data a gesglir drwy'r Cyfrifiad Diwydiant Sgrin 2020 yn mapio maint a siâp y diwydiannau sgrin, i ddechrau yn ardal ddaearyddol CCR gyda chyhoeddi adroddiad y Cyfrifiad Sgrin yn Hydref 2020. Bydd y Cyfrifiad yn cynnig trosolwg a meincnod cynhwysfawr am y tro cyntaf o bwy sy'n bodoli.  Cynhelir yr ymchwil gan y Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach ym Mhrifysgol De Cymru.

Dywed Faye Hannah, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru: "Rwy'n falch iawn i fod yn gweithio ar ran PDC i gyflwyno'r ymchwil Cyfrifiad Sgrin 2020. Bu diffyg sylweddol o fapio sefydliadau sgrin a darpariaeth hyfforddiant yng Nghymru. Mae hyn wedi tyfu’n bwysicach fyth gan fod y diwydiant sgrin wedi tyfu’n esbonyddol dros y deng mlynedd diwethaf. Bydd yr ymchwil hon yn nodi bylchau sgiliau a fydd yn bwysig yn arwain at gefnogi datblygiad arloesedd a thwf pellach o fewn y sector blaenoriaeth hwn."

Ychwanegodd yr Athro Ruth McElroy "Nawr, yn fwy nag erioed mae hwn yn gyfnod o her fawr i’r Sector Sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae datblygu’r data hwn yng Nghymru, yn amlwg yn bwysig er mwyn diogelu twf yn y dyfodol a nodi cyfleoedd i arloesi gyda gweithlu diwydiant yng Nghymru ac ar ei gyfer."

Cysylltir â sefydliadau diwydiant, unigolion llawrydd a sefydliadau hyfforddiant a'u gwahodd i gymryd rhan.  Yn ogystal, bydd yr arolwg hwn ar agor yn gyhoeddus i ymatebwyr.

Os ydych chi'n gweithio yn y sector sgrin, neu’n hyfforddi yn y sector sgrin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, nawr yw'r amser i gael eich cyfrif.

Am fwy o wybodaeth ac os ydych am gofrestru'ch diddordeb i gymryd rhan, cysylltwch â: screen.census@southwales.ac.uk