DAWNS DDIGIDOL: Baden-Württemberg a De Cymru yn cysylltu â’i gilydd 

Gwnaeth Clwstwr ac MFG Baden-Württemberg archwilio'r cyfleoedd y mae arloesi digidol yn eu cyflwyno i ddawns a chlywed gan ddawnswyr am eu profiadau o greu gwaith yn ystod COVID-19. 

Roed DAWNS DDIGIDOL yn ddigwyddiad cychwynnol y bartneriaeth newydd rhwng Clwstwr, sef rhaglen i ysgogi ymchwil a datblygu ac arloesi yn y sector cyfryngau yn Ne Cymru, ac MFG Baden-Württemberg, sefydliad i hyrwyddo diwylliant ffilm, y diwydiant ffilm, a diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ne-orllewin yr Almaen. 

Nod y bartneriaeth ryngwladol hon yw dod ag arloeswyr, busnesau a sefydliadau creadigol o bob rhan o Dde Cymru a Baden-Württemberg ynghyd i annog cydweithio a gweithio trawsffiniol ac i rannu gwybodaeth ac arfer gorau. 

Dywedodd Sara Pepper OBE, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr: “Bydd DAWNS DDIGIDOL yn adlewyrchu cryfderau dawns yng Nghymru a'r Almaen – o werth cymdeithasol a diwylliannol y sector hwn a'i allu i arloesi hyd at gyfleoedd ar gyfer twf digidol yn y dyfodol." 

Dywedodd Dr Angela Frank, Pennaeth y Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol yn MFG Baden-Württemberg: “Rydym yn anelu at greu pontydd digidol trwy’r bartneriaeth a digwyddiad hwn mewn cyfnod pan fydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar gyfer cyfnewid diwylliannol yn anodd. Bydd y mannau croesi hyn yn arddangos artistiaid dawns o'r ddau glwstwr ac edrychwn ymlaen at glywed eu safbwyntiau ar yr hyn y mae’r model cymysg digidol/ffisegol yn ei gynnig i’w hymarfer.” 

Gwnaeth DAWNS DDIGIDOL cynnwys cyflwyniadau gan dri phrosiect o bob clwstwr cyfryngau yn rhannu safbwyntiau newydd ar ddawns a'r cyfryngau.

SIARADWYR 

  • Paul Kaynes, Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
  • Fearghus Ó Conchúir, coreograffydd, artist dawns a chyn-Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Rob Eagle, artist digidol 
  • Krystal Lowe, dawnsiwr, coreograffydd ac awdur  
  • Carina S. Clay, coreograffydd a dawnsiwr llawrydd a chyfarwyddwr artistig y prosiect eMotions 
  • Eric Gauthier, sylfaenydd Gauthier Dance, y cwmni preswyl yn Theaterhaus Stuttgart, a chyfarwyddwr artistig Gŵyl Ddawns Ryngwladol COLOURS 
  • Sophie Manuela Lindner a Jens Nonnenmann o HE4DS – Addysg Iechyd i Ddawnswyr, dull therapi, hyfforddi a ffordd o fyw integreiddiol ar gyfer gofal iechyd cynaliadwy a gwella perfformiad dawnswyr.