Heddiw, cyhoeddodd Clwstwr bartneriaeth gydag MFG Baden-Württemberg i annog cydweithredu rhwng unigolion, busnesau a sefydliadau creadigol ledled Cymru a'r Almaen. 

Sefydliad talaith Baden-Württemberg a chorfforaeth ddarlledu Südwestrundfunk yw MFG Baden-Württemberg. Mae MFG yn hyrwyddo diwylliant ffilm a'r diwydiant ffilm ac yn cefnogi diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ne-orllewin yr Almaen.  

Daw’r bartneriaeth yn ystod Blwyddyn Cymru yn yr Almaen – blwyddyn sy’n arddangos amrywiaeth y gweithgareddau  a gwaith cyfnewid sy'n digwydd yn yr Almaen ac yng Nghymru ar draws meysydd masnach, gwyddoniaeth ac arloesedd, diwylliant a'r celfyddydau, addysg, cyn-fyfyrwyr, twristiaeth, cysylltiadau dinesig a datblygu cynaliadwy. 

Dywedodd Sara Pepper OBE, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr: “Rydym yn croesawu’r bartneriaeth hon rhwng Clwstwr ac MFG Baden-Württemberg yn gynnes, ac mae’n nodi ymrwymiad i weithio gyda’n gilydd ar draws ffiniau daearyddol a ffurfiau creadigol.  

“Credwn yn gryf fod cydweithio’n hanfodol i’r dyfodol ac rydym yn ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i gysylltu arloeswyr creadigol fel y gallant rannu gwybodaeth, tanio syniadau, ac, yn y pen draw, gweithio fel partneriaid ar waith gyda’i gilydd. Edrychaf ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni o'r bartneriaeth ar gyfer busnesau a gweithwyr llawrydd yn y ddau glwstwr.” 

Dywedodd Dr Angela Frank, Pennaeth y Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol yn MFG Baden-Württemberg: “Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu artistiaid a chwmnïau o'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru a Baden-Württemberg trwy'r bartneriaeth. Rydym yn hyderus iawn bod potensial mawr ar gyfer cyfnewid syniadau arloesol a chydweithio’n gryfach mewn timau rhyngwladol ac amrywiol yn y dyfodol.” 

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: "Rwy’n falch iawn o weld y bartneriaeth hon yn cael ei lansio ac rwy’n edrych ymlaen at weld cydweithredu gwych yn y dyfodol. Mae Clwstwr ochr yn ochr â Chymru Greadigol yn awyddus i adeiladu perthnasoedd a fydd yn tyfu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r rhanbarthau partner."

Bydd y bartneriaeth yn cychwyn gyda digwyddiad sy'n canolbwyntio ar ddyfodol digidol y byd dawns. 

DAWNS DDIGIDOL: Bydd y cysylltiad rhwng Baden-Württemberg a De Cymru yn archwilio’r cyfleoedd y mae arloesi digidol yn eu cyflwyno i ddawnswyr ac yn clywed am eu profiadau o greu gwaith yn ystod COVID-19. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu ymhellach â thîm MFG Baden-Württemberg, mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd y tîm yn hapus i’ch cyflwyno.