Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i clwstwr.org.uk

Mae cynhwysiant yn un o werthoedd craidd rhaglen Clwstwr ac rydym ni'n ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan mor hygyrch ag y gall fod.

AA yw sgôr gwefan Clwstwr yn ôl Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, fersiwn 2.1.

Ein nodau ar gyfer y wefan yw ei bod yn gweithredu'n dda, yn darparu taith glir ac addysgiadol a’i bod yn ddefnyddiol i bawb.

Os oes angen i chi gael yr wybodaeth ar y wefan mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille, rhowch wybod i ni.

Rhyngwyneb y wefan

Gellir llywio'r wefan gyda bysellfwrdd a gellir ei defnyddio ar y cyd â darllenydd sgrin, chwyddwr sgrin a phecynnau llafar ar gyfer systemau gweithredu.

Mae botymau cyferbyniad uchel ac isel ar gael yng nghornel uchaf pob tudalen ar y dde drwy glicio ar eicon melyn y mynediad cyffredinol ac yna ddewis yr opsiwn sydd orau gennych chi.

Gallwch gynyddu opsiynau o ran maint y ffont trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:

Ar Mac yn defnyddio unrhyw borwr:

I wneud y testun yn fwy: Daliwch yr allwedd Command i lawr a phwyso +
I wneud y testun yn llai: Daliwch yr allwedd Command i lawr a phwyso -

Ar gyfrifiadur PC yn defnyddio Internet Explorer

I wneud y testun yn fwy: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso +
I wneud y testun yn llai: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso -

Ar gyfrifiadur PC yn defnyddio porwyr eraill

I wneud y testun yn fwy: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso +
I wneud y testun yn llai: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso -

Mae gan bob delwedd ar y wefan dagiau ALT a cheir capsiynau Cymraeg a Saesneg ar y fideos gwybodaeth.

Rhaglen ddwyieithog yw Clwstwr, a gallwch weld ein gwefan yn Gymraeg neu'n Saesneg trwy glicio ar y botwm Cymraeg / Saesneg yng nghornel dde uchaf unrhyw dudalen.

Pa mor hygyrch yw'r wefan

Fe wyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • efallai y bydd rhai adnoddau 'gwastad' (megis PDF) na fydd darllenwyr sgrin yn gallu eu darllen
  • does dim capsiynau ar bob un o'r fideos ar y wefan - gallwn ddarparu trawsgrifiad ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg ar gyfer y darnau hyn o gynnwys.

Adborth

Rydym bob amser yn awyddus i glywed sut y gallwn ni wella taith ein defnyddwyr trwy wefan Clwstwr. Os oes addasiadau y gallwn eu gwneud a fyddai'n gwella eich profiad o'r wefan, rhowch wybod i ni.

Gallwch gysylltu â'r tîm trwy ebost: clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk neu dros y ffôn: 02922 511434.

Mae Clwstwr yn ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch ymholiad, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth ynghylch Cydraddoldeb (EASS).

Paratowyd y datganiad hwn ar 15.06.2021. Profwyd y wefan ddiwethaf ar 29.06.2021. Cynhaliwyd y prawf gan Hoffi.

Defnyddion ni Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiad Hygyrchedd Gwefannau i bennu pa dudalennau i'w profi fel sampl.