DAWNS DDIGIDOL: Baden-Württemberg a De Cymru yn cysylltu â’i gilydd
Gwnaeth Clwstwr ac MFG Baden-Württemberg archwilio'r cyfleoedd y mae arloesi digidol yn eu cyflwyno i ddawns a chlywed gan ddawnswyr am eu profiadau o greu gwaith yn ystod COVID-19.
Roed DAWNS DDIGIDOL yn ddigwyddiad cychwynnol y bartneriaeth newydd rhwng Clwstwr, sef rhaglen i ysgogi ymchwil a datblygu ac arloesi yn y sector cyfryngau yn Ne Cymru, ac MFG Baden-Württemberg, sefydliad i hyrwyddo diwylliant ffilm, y diwydiant ffilm, a diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ne-orllewin yr Almaen.
Nod y bartneriaeth ryngwladol hon yw dod ag arloeswyr, busnesau a sefydliadau creadigol o bob rhan o Dde Cymru a Baden-Württemberg ynghyd i annog cydweithio a gweithio trawsffiniol ac i rannu gwybodaeth ac arfer gorau.
Dywedodd Sara Pepper OBE, Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr: “Bydd DAWNS DDIGIDOL yn adlewyrchu cryfderau dawns yng Nghymru a'r Almaen – o werth cymdeithasol a diwylliannol y sector hwn a'i allu i arloesi hyd at gyfleoedd ar gyfer twf digidol yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Angela Frank, Pennaeth y Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol yn MFG Baden-Württemberg: “Rydym yn anelu at greu pontydd digidol trwy’r bartneriaeth a digwyddiad hwn mewn cyfnod pan fydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar gyfer cyfnewid diwylliannol yn anodd. Bydd y mannau croesi hyn yn arddangos artistiaid dawns o'r ddau glwstwr ac edrychwn ymlaen at glywed eu safbwyntiau ar yr hyn y mae’r model cymysg digidol/ffisegol yn ei gynnig i’w hymarfer.”
Gwnaeth DAWNS DDIGIDOL cynnwys cyflwyniadau gan dri phrosiect o bob clwstwr cyfryngau yn rhannu safbwyntiau newydd ar ddawns a'r cyfryngau.
SIARADWYR
- Paul Kaynes, Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
- Fearghus Ó Conchúir, coreograffydd, artist dawns a chyn-Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Rob Eagle, artist digidol
- Krystal Lowe, dawnsiwr, coreograffydd ac awdur
- Carina S. Clay, coreograffydd a dawnsiwr llawrydd a chyfarwyddwr artistig y prosiect eMotions
- Eric Gauthier, sylfaenydd Gauthier Dance, y cwmni preswyl yn Theaterhaus Stuttgart, a chyfarwyddwr artistig Gŵyl Ddawns Ryngwladol COLOURS
- Sophie Manuela Lindner a Jens Nonnenmann o HE4DS – Addysg Iechyd i Ddawnswyr, dull therapi, hyfforddi a ffordd o fyw integreiddiol ar gyfer gofal iechyd cynaliadwy a gwella perfformiad dawnswyr.