Headshot of Robin Moore, Clwstwr Management Team

Robin Moore, aelod o Dîm Rheoli Clwstwr ac ymgynghorydd arloesi digidol, sy’n rhannu ei syniadau ar gyfer ymdrin â risg wrth wneud gwaith ymchwil a datblygu.

Ar adeg ysgrifennu mae 64 o brosiectau wedi mynd drwy broses Clwstwr ac wedi cwblhau eu taith ymchwil a datblygu. Fel aelod o dîm rheoli Clwstwr, rwyf wedi bod yn y sefyllfa ffodus o weld esblygiad llawer ohonynt, gan fynd o sgwrs ddamcaniaethol yn ein cyfarfodydd 121 neu gynnig cychwynnol yn ein Labordai Syniadau, drwy’r cais, adeiladu a phrofi prototeipiau, hyd at yr adroddiadau terfynol sy'n amlinellu'r camau nesaf.

Er fy mod wedi treulio blynyddoedd lawer yn rheng flaen ymchwil a datblygu, mae edrych ar daith y prosiectau hyn o bell wedi bwrw llawer o oleuni ar y broses honno.  Mae wedi datgelu cipolwg newydd ar sut mae rhai prosiectau'n llwyddo i wneud yn fawr o’r risg a gwasgu mwy o werth allan o'r gwaith ymchwil a datblygu maen nhw’n ei wneud.

Allwch chi ddim dianc rhag risg ym maes ymchwil a datblygu, mae’n elfen gynhenid ohono. Os nad oes risg o gwbl, na dim byd yn anhysbys, nid ydych yn gwthio'r ffiniau nac yn arloesi mewn gwirionedd. Os ydych eisoes yn bendant ynghylch y canlyniadau, a yw'n brosiect ymchwil a datblygu mewn gwirionedd?

Pan fyddwn yn sgorio prosiectau yn ystod proses ymgeisio Clwstwr, rhaid inni ganiatáu ar gyfer lefel iach o risg, ond rydym am wybod bod y risg yn y lleoedd cywir. Mae’n debygol y bydd y canlyniad neu'r ateb i'r cwestiwn ymchwil a datblygu yn aneglur, ond ni ddylai fod risg o ran a fydd y prosiect yn cwblhau ac yn sicrhau gwerth gwirioneddol i'r cwmni.

Mae'r prosiectau mwyaf llwyddiannus yn cydnabod ac yn rheoli'r risg. Maen nhw'n gofyn cwestiynau ymchwil a datblygu maen nhw’n wir eisiau gwybod yr ateb iddynt, hyd yn oed os na chânt yr ateb roedden nhw ei eisiau yn ddelfrydol. Maent yn barod i addasu ffocws eu prototeip os bydd yr ymchwil gychwynnol yn mynd â nhw i gyfeiriad gwahanol. Maent yn canolbwyntio ar yr anhysbys ac yn strwythuro'r prosiect i greu gwerth newydd.

Rydym wedi gweld hyn drwy brosiectau sy'n cydnabod cyfyngiadau eu harbenigedd eu hunain neu ddealltwriaeth y gynulleidfa o'r cychwyn cyntaf. Maent yn gofyn y cwestiwn hollbwysig, 'a oes gennym y sgiliau a'r arbenigedd i gyflawni’r gwaith ymchwil a datblygu hwn?', ac yna’n cyflwyno ymgynghorwyr allanol neu’n creu grwpiau llywio i liniaru risg eu rhagdybiaethau eu hunain cyn y prosiect a’r ‘elfennau sy’n anhysbys'. Nid ydynt yn dibynnu ar eu cydweithwyr arferol a'r rhai sydd â'r un persbectif yn unig; yn hytrach maent yn chwilio am safbwyntiau newydd hyd yn oed os ydynt yn aml yn anghyfforddus.

I rai, nid yw’r risg yn ymwneud â’u gallu i wneud rhywbeth yn dechnegol, ond yn hytrach ag a yw’r gynulleidfa’n awyddus i dderbyn eu cynnyrch neu eu gwasanaeth. Yn yr achosion hyn, bydd prosiectau sy'n croesawu’r cymorth Dylunio Defnyddiwr-Ganolog a roddir gan bartneriaid Clwstwr PDR yn elwa o hynny ac yn helpu i liniaru'r risg o greu ateb na fydd neb arall am ei ddefnyddio. 

Mae hyn i gyd yn helpu i liniaru'r risg fwyaf nad ydym am ei gweld mewn prosiectau, yn fy marn i, sef bod y cwestiwn ymchwil a datblygu eisoes wedi cael ei ateb rywle arall.  Mae'n rhoi'r offer i chi ganolbwyntio'n wirioneddol ar yr hyn sy'n wreiddiol yn eich dull gweithredu neu eich cyd-destun a chyrraedd craidd y cwestiwn. Dyma lle ceir yr elfen fawr anhysbys, sef y brif risg y mae angen strwythuro gweddill y prosiect o’i amgylch er mwyn sicrhau’r gwerth mwyaf o’r wybodaeth newydd hon. 

Dyma lle mae prototeipio cyflym yn dod i mewn, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar risg tymor hwy o'r fenter. Ond cofiwch, mae'n hawdd iawn prototeipio yn y meysydd sy’n greadigol ddiddorol neu yr ydych chi’n bersonol yn gwybod fwyaf amdanynt. Gwaetha’r modd, rydyn ni wedi gweld prosiectau’n gwastraffu peth o’u hamser yn prototeipio elfennau y gallwn ni eu gweld wedi’u datrys eisoes mewn mannau eraill, pan ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar y cwestiynau anoddach y mae eraill wedi methu eu hateb.

Er enghraifft, gallai prosiect ganolbwyntio ar ryngwyneb y defnyddiwr ar gyfer cynnyrch newydd - dewislenni  a systemau mewngofnodi sy’n dilyn fformiwlâu - os canfod a yw’r swyddogaeth graidd yn bosibl neu beidio yw’r elfen anhysbys allweddol. Neu gallant ddefnyddio’u harbenigedd presennol i fynd ati i ddatblygu swyddogaethau craidd ar unwaith, heb brofi a yw’r gynulleidfa’n dymuno hynny neu beidio. 

Yn syml, mae angen i chi wneud y gwaith lle mae'r elfennau anhysbys brawychus, fel bod gennych eglurder ar ddiwedd y prosiect ynghylch hyfywedd eich menter a beth fydd y camau nesaf.

O weld cynifer o brosiectau'n mynd drwy Clwstwr, rydym wedi tystio i frwdfrydedd ac ymroddiad timau ac yn cydnabod bod ymchwil a datblygu yn broses newydd i lawer ohonynt.  Rydym yn gobeithio eu bod, ar hyd y ffordd, yn dysgu targedu eu gwaith ymchwil a datblygu i gymryd risg; i liniaru’r risg honno drwy ddefnyddio arbenigedd allanol a phrototeipio cyflym wedi'i dargedu; ac i ddod â gwerth clir i'w cwmnïau a'r clwstwr ehangach yn Ne Cymru.