Ynglŷn â Screen Streamer

Offeryn ar-lein yw Screen Streamer sy'n caniatáu i unrhyw un recordio a rhannu eu sgrin gan ddefnyddio porwr gwe. Syniad pedwar ffrind a chydweithiwr yng Nghymru â chefndir mewn peirianneg meddalwedd a datblygu gwe yw hwn.

Screen Streamer composite.

Roedd systemau trwsgl yn dangos yr angen am rywbeth fel Screen Streamer.

Mae ein profiadau o weithio mewn swyddi cymorth meddalwedd technegol, yn enwedig o leoliadau anghysbell, wedi dangos i ni pa mor rhwystredig y gall fod i'r rhai sydd angen ein help. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd esbonio'r broblem dechnegol maen nhw'n ei chael. Efallai y bydd y rhai sy’n fwy medrus o ran technoleg yn recordio eu sgrin, yn arbed y fideo ac yn ei lanlwytho i YouTube i ni ei wylio trwy ddolen, ond mae hon yn dasg lafurus. Mae hefyd yn anodd i ni egluro atebion i bobl sydd angen cymorth technegol, yn hytrach na dangos yr hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Roedd gennym syniad i wneud offeryn syml trwy'r we ar gyfer recordio a rhannu sgrin, yn y gobaith y byddai'n ein helpu ni yn ein rolau cefnogi ynghyd â phobl mewn meysydd gwaith tebyg. Yn ein hamser hamdden, buom yn gweithio ar y syniad hwnnw i wneud prototeip cynnar, ond yn cael trafferth dod o hyd i'r oriau i'w wthio ymlaen. Pan darodd y pandemig y llynedd gan newid ein hamserlenni gwaith yn sylweddol, fe benderfynon ni edrych ar ffyrdd y gallem ddatblygu'r syniad ymhellach.

Ar y dechrau, nid oeddem yn gwybod a fyddem yn gymwys i gael cyllid Clwstwr.

Pan ddeuthum ar draws Clwstwr ar-lein, roedd yn ymddangos ei fod yn pwyso tuag at bobl greadigol a'r cyfryngau yn hytrach na thechnoleg. Wedi dweud hynny, oherwydd ein bod yn gwneud pethau gyda chyfryngau recordio, sgriniau a phethau felly, fe benderfynon ni wneud cais. Yn ffodus, roedden ni’n llwyddiannus.

Roedd ein busnes yn y camau cynnar iawn pan gawsom ein cyllid.

Mewn rhai ffyrdd, nid oedd gennym fusnes mewn gwirionedd pan wnaethom y cais; roedd gennym syniad ar gyfer prosiect yr oeddem wedi cael rhywfaint o gynnydd ag ef. Nid oeddem yn weithredol fel y cyfryw, ond yn fwy archwiliadol. Oherwydd ein bod yn weddol newydd ac eisiau gwneud ychydig o arbrofi, cawsom arian sbarduno.

Fe wnaeth y teimlad o werth a ddaeth gyda’r cyllid ein hysgogi i greu’r busnes yn ffurfiol.

Un o'r pethau cyntaf i ni eu sylweddoli oedd y dylen ni ffurfioli pethau i hwyluso Ymchwil a Datblygu. Mae pedwar ohonom ar y tîm. Ar yr adeg y cawsom y cyllid, roedd rhai ohonom yn gweithio ar ein liwt ein hunain, roedd rhai ohonom yn gweithio bron yn llawn amser, roedd rhai ohonom yn sefydlu cwmni arall fel swydd ddydd ... roedd angen i ni dacluso'r ochr honno i bethau!

Er mwyn rhoi cyfeiriad i ni, gwnaethom lunio rhestr o bethau yr oeddem am eu hystyried.

Roeddem yn gynnar gyda llawer o bethau o ran arloesi technoleg pethau, felly roeddem yn treulio amser yn llunio rhestr o bethau i ymchwilio iddynt  a’u datblygu, nodi rhai targedau a chreu siart Gantt. Ymhlith pethau eraill, roeddem am edrych ar ddichonoldeb, prawf o gysyniad, prawf o'r farchnad, prawf o gynnyrch a phrawf o brototeip. Ar yr un pryd, roeddem yn dysgu sut roedd rhaglen Clwstwr yn gweithio, pa adnoddau y gallem eu cael ohoni a sut y gallai'r adnoddau a'r cyfarfodydd defnyddiol hynny cyd-fynd â’n map ffordd ehangach ar gyfer datblygu’r prosiect. Yn y diwedd penderfynwyd rhannu ein hymdrechion rhwng gweithdai, cyfarfodydd, cyflwyniadau a gwaith ymchwil a datblygu ymarferol.

Roeddem yn wirioneddol awyddus i archwilio nifer o bethau technegol.

Gan ein bod yn recordio cyfryngau, roedd angen i ni ymchwilio i bethau fel dysgu â pheiriant a sut i greu hidlwyr i ganiatáu cynnwys priodol yn unig. O ran yr ystod o weithrediadau, roeddem am ychwanegu nodweddion a fyddai’n caniatáu i bobl rannu recordiadau preifat, a arweiniodd ni i ystyried gwahanol agweddau ar storio digidol. Roedd angen ailwampio'r dyluniad o safbwynt esthetig, felly gwnaethom gyflogi dylunydd ar ei liwt ei hun i feddwl am ddelweddau a chynhyrchu rhywbeth llawer mwy cydnaws yn hynny o beth.

Cawsom sgyrsiau defnyddiol iawn am ochr gyfreithiol recordio a rhannu sgrin.

Cyflwynodd Clwstwr ni i gyfreithiwr yr oedd ganddo lawer o wybodaeth am y meysydd yr oeddem yn ymchwilio iddynt. Rhoddodd rai awgrymiadau ynghylch yr hyn y dylem fod yn ymwybodol ohono. Er enghraifft, dywedodd wrthym am ofyniad posibl i ni gofrestru gydag Ofcom. Gadawsom ni gyda rhestr o bethau oedd yn ymwneud â’r ochr gyfreithiol yr oedd angen i ni ymchwilio iddynt a'u rhoi ar waith er mwyn bwrw ymlaen â'r cynnyrch.

Roeddem yn awyddus iawn i archwilio pwy gallai ein ddefnyddwyr posibl fod.

Roeddem wedi ymdrechu ers cryn amser i ddiffinio'n union pwy fyddai ein defnyddwyr, yn bennaf oherwydd ei bod yn ymddangos bod nifer o ddiwydiannau a allai elwa o'n cynnyrch. Un farchnad bosibl oedd addysg; ar gyfer hyn, cyflwynodd Clwstwr ni i rai myfyrwyr dylunio ym Met Caerdydd fel y gallem gynnal rhai profion beta gyda nhw. Gwnaethom hefyd ystyried y sector creadigol fel marchnad bosibl. Ar gyfer hyn, buom yn gweithio gyda rhywun sy'n gwneud ffotograffiaeth a cherddoriaeth, gan gyfuno syniadau am y mathau o nodweddion a fyddai'n fuddiol i bobl sy'n recordio cynnwys cerddorol. Nid ydym yn hollol siŵr o hyd pwy fydd ein defnyddwyr, felly rydym yn bwriadu meddwl amdano ymhellach.

Fe wnaeth yr arian ein helpu i archwilio ein syniad ymhellach, datblygu'r cynnyrch a gwella defnyddioldeb.

Ar y gorau, roedd gennym fersiwn alffa ar yr adeg hon y llynedd. Roedd yn brototeip gwael, a dweud y gwir! Mae'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni a'i gynhyrchu ers hynny trwy Clwstwr yn rhywbeth y gellir ei gyflwyno a’i farchnata i’r cyhoedd i’w ddefnyddio am ddim ar gyfer achosion defnydd sylfaenol. Cawsom gyfle i fuddsoddi amser ac arian priodol yn Screen Streamer, a olygai y gallem ei ddatblygu o brototeip profi cysyniad i raglen beta gyhoeddus. Gyda'n cynnyrch, gallwch nawr lansio'r tab porwr, clicio ar recordio, clicio ar lanlwytho ac yna ei rannu â rhywun. Mae'n rhywbeth y gallem adeiladu arno, ei yrru ymlaen, ei fasnacheiddio ac ychwanegu mwy o nodweddion ato.

Nawr ei fod ar waith, rydyn ni am fireinio ein cynnyrch a’n model busnes.

Roedd yr ymchwil a datblygu cychwynnol yn ein galluogi i ddilysu'r cysyniad a phrofi ei fod yn rhywbeth y gellid dangos ei fod yn ddefnyddiol ac o werth. Bellach mae angen mwy o amser ac arian arnom i ddarganfod i bwy y mae o werth a sut i fasnacheiddio'r cyfle hwnnw. Y cam nesaf fyddai cymryd y rhaglen beta gyhoeddus i'w datblygu ymhellach gan ystyried defnyddiwr wedi’i nodi. Felly, mae angen i ni nodi pwy yw'r defnyddiwr hwnnw ac ystyried sut rydyn ni'n gwneud y cynnyrch yn fasnachol. Hoffwn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno tanysgrifiadau taledig neu gynnwys nodweddion ychwanegiad dewisol y telir amdanynt, sy'n gwella gwerth ac yn cyfiawnhau pam rydym yn codi tâl am y gwasanaeth.

Pe na baem wedi cael help gan Clwstwr, ni fyddem lle rydym heddiw. Gallai ein syniad fod wedi chwythu plwc neu gallai fod wedi datblygu’n rhywbeth hollol wahanol. Mae gweithio ar Screen Streamer yn dal yn swydd ran-amser neu amser hamdden i rai ohonom. Gobeithio y gallwn gael mwy o arian i’n galluogi i ni neilltuo mwy o amser iddo.