Nod y Prosiect

Mae Screen Streamer yn wasanaeth gwe-borwr syml ar gyfer recordio, rhannu a ffrydio’ch sgrîn. Rhydd fodd i recordio bwrdd gwaith cyfan, ffenestr rhaglen neu sesiwn bori (ynghyd â gwe-gamera). Ar hyn o bryd mae modd creu recordiadau byr a’u rhannu naill ai’n gyhoeddus neu’n breifat. Yn y prosiect ymchwil a datblygu hwn ystyriwn ffyrdd o ganiatáu amseroedd recordio hirach, gwella gofod storio ac ychwanegu nodweddion recordio newydd, gan gynnwys nodwedd alw rhannu sgrîn unigol amser byw, sy’n cynnwys sesiynau aml-berson.

Screen Streamer team headshots (4)