Bu cynrychiolwyr o dîm Clwstwr yn mynychu ail gynhadledd flynyddol Beyond yng Nghaeredin, oedd â ffocws ar ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol.
Bu cynulliad 2019 yn archwilio’r ‘gorgyffwrdd rhwng Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chreadigrwydd’ a thros ddau ddiwrnod, roedd siaradwyr o fyd diwydiant ac academia yn rhoi sylw i bynciau o ddata tywyll i brofiad cynulleidfa.
Roedd y trafodaethau’n amrywio o adlewyrchu llais o’r lleuad (Harry Yeff) i Storïwr o’r Dyfodol (Karen Palmer), a roddodd rybudd creadigol i ni ynghylch tueddiadau yn AI.
Bu’r clwstwr o Gaeredin, Creative Informatics, hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymylol, gan gynnwys cwis Al Primer oedd yn rhoi cipolwg ar wyddor data.
Yma mae’r tîm yn adfyfyrio ar Beyond a beth bydd AI yn ei olygu ar gyfer y sgrîn a’r newyddion:
Dywedodd Greg Mothersdale, Cynhyrchydd Clwstwr:
Yn y gynhadledd, fe ges i fy atgoffa fod unrhyw berygl canfyddedig yn sgîl AI yn deillio o’r bobl sy’n ei ddatblygu a’i ddefnyddio, yn hytrach nag o’r AI ei hun (ar hyn o bryd, beth bynnag...) Diolch hefyd i Carly Kind am wneud y pwynt hwn yn gynnar.
Roedd sesiwn Pip Thornton ar fasnacholi iaith - Beth yw gwerth geiriau i Google? - yn wych, ac wedi’i chefnogi’n glyfar trwy argraffu derbynebau go iawn i ddangos gwerth geiriau ar-lein. Roeddwn i wrth fy modd bod y gerdd awgrymais i wedi cael pris o £97! (Rydw i wedi cadw’r dderbynneb).
Rhoddodd cyflwyniad Sarah Coward ar Brosiect Forever ddiben hardd i AI - profiad trochol sy’n galluogi pobl i gwrdd â’u harwyr a’u hesiamplau ymddygiad, hyd yn oed os nad ydynt gyda ni bellach, gan ddarparu dealltwriaeth o ddigwyddiadau pwysig a phobl.
Wrth edrych yn ôl, does dim amser na lle i ddisgrifio’r holl feddyliau oedd yn rhedeg trwy fy ymennydd yn ystod y gynhadledd, o seiborgiaid i gromenni trochol gyda biosignalau.
Y prif beth arhosodd gyda fi oedd bod angen i ni gadw pethau’n ddynol, uwchlaw popeth, offeryn neu ychwanegiad yw AI, ond ni ddylai ein rheoli.
.@harbinger at #BeyondConf on storytelling & AI: ‘We find patterns, in & through, stories & computers are very good at that. If computers are good at finding patterns, writers are very good at making patterns. AI helps us better understand the shapes of stories.’ pic.twitter.com/rzWr7SfAw8
— Clwstwr (@ClwstwrCreu) November 20, 2019
Dywedodd David Dunkley Gyimah, Cyd-Ymchwilydd Clwstwr:
Yn fy marn i, roedd Beyond yn ardderchog. Taniwyd llawer o syniadau oedd yn cydweddu trwy ddod â sbectrwm o feddylwyr creadigol ac academyddion at ei gilydd i archwilio a rhannu eu syniadau mewn athroniaethau, arddulliau a thechnegau trochol.
Roedd yr un mor wych cael bod gyda Thîm Clwstwr i gyfnewid syniadau a gweld cyflwyniad Rony o AMPLYFI, oedd yn fwy tebyg i wahoddiad i gyfranogi a chreu ar y cyd, ac rwy’n sicr y daw’r canlyniadau disgwyliedig o hynny, fel yn achos aelodau Clwstwr eraill.
Gallwch chi wylio cyflwyniad Rony ar brosiect Clwstwr AMPLYFI, AI yn yr Ystafell Newyddion, yma:
Dywedodd Yassmine Najime, o brosiect Clwstwr Plan V:
O ran Ymchwil a Datblygu, ac o bersbectif proffesiynol, y peth gwirioneddol gyffrous am y gynhadledd oedd gweld cynifer o bobl oedd yn teimlo’n angerddol ynghylch technolegau newydd ac yn ymserchu ynddynt. Yn arbennig, sut gall ymchwil mewn meysydd megis AI a VR (sef yr hyn rydym ni’n arbenigo ynddo), o’i ddefnyddio mewn modd moesegol, wella’r profiad dynol yn fawr yn ein cymdeithasau a’n helpu i gael, nid dim ond amser difyr, ond o leiaf amser haws wrth agor drysau newydd i feysydd rydym heb eu harchwilio.
O safbwynt personol fe wnes i fwynhau’n fawr anerchiad Carly Kind o Sefydliad Ada Lovelace, ynghylch pa mor hanfodol yw defnyddio ymchwil a data ynghylch technoleg newydd er budd pobl, ochr yn ochr â chadw rhwystrau moesegol yn eu lle, os ydym am sicrhau’r datblygiad cywir o dechnoleg ym mhob maes.
At ei gilydd roedd yn brofiad diddorol iawn, ac fe ges i gyfle i gwrdd â rhai gweithwyr proffesiynol a fydd, gobeithio, yn cydweithio â ni ar rai prosiectau!
Dywedodd Gavin Johnson, Cynhyrchydd Clwstwr:
Roedd yn ddau ddiwrnod diddorol dros ben, a chawson ni ein hatgoffa pa mor gyffrous a brawychus gallai AI fod. Cafwyd trafodaethau difyr ynghylch tuedd AI, cynrychiolaeth, polisi a’r gyfraith, a ble gallai AI fod yn fwyaf effeithiol.
Dau o’r cyflwyniadau mwyaf trawiadol i mi oedd PhD Dr Pip Thornton - A Critique of Linguistic Capitalism - a Storïwr y Dyfodol, RIOT Karen Palmer.