Nod y Prosiect
Bydd Ric Bower a Rhiannon Lowe yn ystyried sut y gallai celf arlein edrych pe defnyddiai dechnolegau sy’n bodoli mewn ffordd fwy creadigol ac osgoi dyblygu’r profiad o oriel ffisegol.
Bydd ein hymchwil yn dwyn ynghyd â gwybodaeth o’r diwydiant gemau cyfrifiadurol, artistiaid, a rhaglenwyr gydag ystyriaethau ynghylch y syniad o ‘fod yn y byd’. Gobeithiwn ddysgu sut y gallai profiadau celf rhithwir ar-lein ryngweithio mewn ffordd fwy pryfoclyd a dirgel â’r realiti corfforol, byw. Yn dilyn cyfnod o ymchwil, byddwn yn cynnal sgyrsiau rhwng arbenigwyr o feysydd gwahanol, gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwn mewn dau brosiect celf byw.