Nod y Prosiect
Mae pobl anabl wedi’u tangynrychioli mewn cynyrchiadau a chynnwys sgrîn. Drwy ymchwil a defnydd ymarferol cynnar, bydd y cwmni theatr penigamp Hijinx, gyda chymorth y cwmni cynhyrchu Triongl, yn ystyried sut y gallai cynnwys sgrîn gael ei wneud mewn ffordd wirioneddol gynhwysol i actorion LD/A, a pha brosesau newydd y gallai fod eu hangen i greu chwedleua cynhwysol. Nod y prosiect yw sbarduno newid arwyddocaol hirdymor drwy annog y diwydiannau sgrîn i weithio mewn ffordd fwy cynhwysol.
Mae pobl ag anableddau a/neu awtistiaeth wedi’u tangynrychioli’n sylweddol yn y diwydiannau sgrîn. Yn dilyn ei ymchwil lwyddiannus, y gwnaeth Clwstwr roi cyllid sbarduno ar ei chyfer, mae Hijinx yn parhau â’i brosiect i ddatblygu cynhyrchion ac adnoddau i helpu’r diwydiannau sgrîn i weithio mewn ffordd fwy cynhwysol. Gan ganolbwyntio’n gyntaf ar gastio a datblygu gwaith yn gynhwysol, bydd cam nesaf y prosiect hefyd yn ystyried sut y gellir rhoi’r adnoddau a’r hyder i weithio yn y ffordd hon i bob elfen cynhyrchiad, o gynhyrchwyr i waith marchnata, a gwneud hynny mewn ffordd barhaol a dilys.
Watch the highlights from University of South Wales (USW), The Politics of Casting Conference with Professor Ruth McElroy, Hijinx and Severn Screen.