Nod y Prosiect
Drama Meicro-Ffurf ar draws Amryw Blatfformau
Bydd yr ysgrifennwr Robert Evans yn ymchwilio ac yn datblygu platfform sy’n galluogi defnyddwyr i ddod â’r elfennau adrodd stori gwahanol ynghyd o amryw blatfformau cyfryngau cymdeithasol i greu straeon cydlynol mewn un app penodol. Yn unigol, gallai pob un edrych fel click bait dibwys, ond gyda’i gilydd gallent adrodd straeon dirgel, brawychus a doniol. Y nod yw harneisio grym y cyfryngau cymdeithasol i gyfleu naratifau wedi’u sgriptio sy’n difyrru, hysbysu ac addysgu, tra’n creu fformat cynhyrchu newydd sbon a chynaliadwy i dalent sgrîn.
